Bydd Llywodraeth Cymru'n gwrando ar bobl Cymru ac yn gweithio gyda chynghorau i dargedu newidiadau i'r terfyn cyflymder 20mya, meddai Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates.
Mewn araith yn y Senedd yn esbonio ei flaenoriaethau ar gyfer trafnidiaeth, addawodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai llais pobl Cymru yn ganolog i bob penderfyniad ar drafnidiaeth gan ddatgelu cynllun tri cham ar gyfer y terfyn 20mya.
Ynghyd â rhaglen i wrando ar y wlad, bydd Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol i baratoi'r tir ar gyfer newid y canllawiau ar ba ffyrdd lleol allai gael eu heithrio rhag y terfyn 20mya. Caiff y canllaw newydd ei gyhoeddi ym mis Gorffennaf, a bydd disgwyl i Gynghorau ddechrau ymgynghori ar y newidiadau ym mis Medi.
Mae hwn yn rhan o gynllun tri cham, sy'n cynnwys:
- Rhaglen o wrando go iawn ar y bobl. Rhwng nawr a mis Gorffennaf, byddwn yn gwrando ar y bobl: ar yrwyr bysiau, y gwasanaethau argyfwng, yr heddlu, pobl ifanc, pobl fregus, busnesau a chynghorwyr cynghorau sir, tref a chymuned, er mwyn deall eu safbwyntiau ar ddiogelwch y ffyrdd mewn ardaloedd preswyl
- Gweithio mewn partneriaeth â chyrff allweddol i barato'r tir ar gyfer newid. Mae cynghorau eisoes wrthi'n edrych ar ba ffyrdd lleol y bydd angen eu newid. Fel rhan o'n rhaglen wrando, byddwn yn annog pobl i gysylltu â'u cyngor lleol i ddweud ble yn eu barn nhw y dylai'r 20mya gael ei dargedu. Yr un pryd, bydd Llywodraeth Cymru'n adolygu'r canllaw eithriadau, eto trwy weithio ar y cyd â'r cynghorau.
- Rhoi'r newidiadau angenrheidiol ar waith ar lawr gwlad. Pan fydd awdurdodau lleol wedi gweithio gyda'u cymunedau a'r canllawiau newydd wedi'u paratoi, bydd yr awdurdodau priffyrdd yn dechrau ar y broses o newid y terfyn cyflymder ar y ffyrdd perthnasol. Rydym yn disgwyl gweld y broses yn dechrau ym mis Medi.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:
Rydyn ni wedi dechrau trwy wrando. Dw i wedi dweud yn glir ymhob sgwrs y byddwn yn rhoi cymunedau'n ganolog yn ein meddyliau ac yn gwrando ar bobl
Fel dwi eisoes wedi dweud, mae yna gonsensws cynyddol ynghylch beth yw cyflymder diogel mewn cymunedau a gallwn adeiladu ar hynny. Rydyn ni'n dal i gredu mai 20mya yw'r terfyn cyflymder cywir mewn ardaloedd o amgylch ysbytai, ysgolion, meithrinfeydd, canolfannau cymuned, mannau chwarae ac ardaloedd preswyl poblog.
Prif amcan y polisi yw arbed bywydau a lleihau'r nifer sy'n cael eu hanafu ar y ffyrdd. Yr hyn dwi'n ei wneud nawr yw gwrando ar beth mae pobl am ei weld ar y ffyrdd yn eu cymunedau nhw, a mynd ati i fireinio'n polisi a dewis y cyflymder iawn ar gyfer y ffyrdd iawn.
Dros y misoedd nesaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn annog pobl yng Nghymru i roi gwybod i'w cyngor sut i dargedu'r 20mya yn well.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd dros Drafnidiaeth:
Yn y pen draw, nid fi na Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu faint o newid fydd yn digwydd yn y 22 awdurdod lleol. Y cyhoedd fydd yn gwneud hynny, a'r cynghorau, sef yr awdurdod priffyrdd ar y rhan fwyaf o ffyrdd preswyl."
I weld sut i gysylltu â'u hawdurdod lleol, dylai pobl fynd i wefan Llywodraeth Cymru.