Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i sefyll dros bobl Cymru yn 2019 drwy gefnogi busnes, gwella trafnidiaeth a chreu cyfleoedd gwaith, meddai Gweinidog yr Economi Ken Skates wrth i’r flwyddyn dynnu at ei therfyn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae 2019 wedi bod yn flwyddyn o sawl datblygiad pwysig, gan gynnwys y canlynol:  
 

  • Agorodd Aston Martin Lagonda ei gyfleuster newydd yn Sain Tathan gan ddewis Cymru fel ei ganolfan drydaneiddio fyd-eang gyda hyd at 750 o swyddi’n cael eu creu ar yr un pryd 
  • Agorodd y Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch gwerth £20 miliwn - AMRC Cymru – ym Mrychdyn. Gallai’r cyfleuster ddarparu hwb o £4 biliwn i’r economi yn ystod yr 20 mlynedd nesaf              
  • Monzo – y banc symudol yn unig sy’n tyfu gyflymaf yn y DU – yn creu mwy na 300 o swyddi yng Nghaerdydd yn ystod y pedair blynedd nesaf 
  • INEOS Automotive yn disgwyl creu hyd at 500 o swyddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ddarparu cyfleoedd i lawer o weithwyr Ford sydd wedi cael eu heffeithio gan benderfyniad y cwmni i adael Cymru   
  • Llywodraeth Cymru’n parhau â’i buddsoddiad o £5 biliwn yn y rhyddfraint rheilffordd newydd a Thrafnidiaeth Cymru’n rhoi cychwyn i’w gynllun gwerth £194 miliwn i wella pob gorsaf reilffordd ar draws ei rwydwaith 
  • Gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru’n cefnogi creu mwy na 6,000 o swyddi a 1,400 o fentrau newydd eleni      
  • Banc Datblygu Cymru yn buddsoddi gwerth mwy na £5.2m o ficrofenthyciadau i fwy na 240 o fusnesau
  • Cynhadledd UK Space wedi’i chynnal yng Nghymru am y tro cyntaf 
  • Mwy o fusnesau nag erioed yn bodoli yng Nghymru 

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

“Gall Llywodraeth Cymru fod yn falch o’i chamau gweithredu yn ystod 2019 i gefnogi pobl ledled Cymru a chreu economi a system drafnidiaeth yr ydyn ni i gyd eisiau eu gweld. 
 
“Rydyn ni wedi denu cwmnïau mawr i Gymru ac wedi buddsoddi mewn prosiectau magned fel AMRC Cymru a fydd yn sbarduno arloesi a rhagoriaeth yn ogystal â chael effaith fawr ar ein hagwedd economaidd. 
 
“Hefyd mae’r ffaith ein bod ni wedi denu busnesau o galibr mor uchel yn dangos hyder enfawr yn y gweithlu, y sylfaen o sgiliau a’n heconomi ni mewn cyfnod eithriadol heriol.      
 
“Mae diweithdra yng Nghymru ar lefel is nag erioed ac mae ein ffigur ar gyfer nifer y busnesau newydd yn uwch na ffigur y DU. Hefyd rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwych gyda chyrraedd ein targed o greu 100,000 o brentisiaethau yn ystod y tymor yma yn y Cynulliad gyda thua 75,000 o gyfleoedd wedi’u creu eisoes ers 2016.
 
“Mae hyn i gyd wedi digwydd er ein bod ni wedi gorfod delio ag ansicrwydd parhaus a heriau Brexit a degawd o gyni wedi’i sbarduno gan Lywodraeth y DU.   
 
“Rhaid i ni gofio hefyd am effaith colli swyddi eleni ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Fel llywodraeth, rydyn ni’n parhau i gynnig ein cefnogaeth i’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan newyddion o’r fath. 
 
“Byddwn yn dal ati i sefyll dros bobl Cymru yn 2020 ac yn creu amgylchedd priodol i’n cenedl ni ffynnu a llwyddo yn ystod y degawd nesaf a thu hwnt.”