Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad blynyddol ar ystadegau Defnydd Llety Twristiaeth Cymru ar gyfer 2016 yn dangos bod y flwyddyn honno wedi bod yn un brysur i'r sectorau lletygarwch yng Nghymru. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar gyfartaledd, y gyfradd defnydd gwelyau flynyddol ar gyfer pob llety â gwasanaeth ar draws Cymru yn 2016 oedd 47%, a'r gyfradd defnydd ystafelloedd flynyddol oedd 61%. 

Mae'r cyfraddau defnydd cyfartalog blynyddol yn y sector gwestai yn parhau ar y lefelau uchaf a welwyd yn ystod y 11 mlynedd ddiwethaf. Gwelwyd bod y gyfradd honno ar gyfer defnydd gwelyau mewn tai llety/lleoliadau gwely a brecwast wedi cynyddu o 31% yn 2015 i 35% yn 2016, gyda'r gyfradd defnydd ystafelloedd yn cynyddu o 37% i 39%. 

O ran y sector hunanarlwyo a rhandai, 52% oedd y gyfradd defnydd gyfartalog yn 2016, a oedd yn ddau bwynt canran yn uwch nag yn 2015. 

Roedd y sector carafanau wedi perfformio'n hynod o dda yn 2016 pan welwyd cynnydd sylweddol o 75% yn 2015 i 91% yn 2016 yn y cyfartaledd ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Hydref. Roedd hyn yn gynnydd o 16 o bwyntiau canran a'r cyfartaledd uchaf a welwyd ar gyfer y cyfnod dan sylw.

Roedd parciau ar gyfer carafanau teithiol a gwersylla hefyd wedi perfformio'n dda. Cofnodwyd cyfradd o 41% yn 2016, sef y gyfradd uchaf a gofnodwyd ers 2011 ac a oedd yn 4 pwynt canran yn uwch na'r gyfartaledd ar gyfer yr un tymor yn 2015. 

Dywedodd Ken Skates: 

"Mewn marchnad hynod gystadleuol, mae'r ystadegau defnydd diweddaraf ar gyfer 2016 yn dangos bod twristiaeth yng Nghymru mewn sefyllfa gref ac yn adlewyrchu llwyddiant y ddwy flynedd ddiwethaf. 

“Byddwn yn dal ati i hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd domestig a thramor i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i ddenu ymwelwyr tramor a'r rhai sydd am aros yng Nghymru oherwydd y bunt wan.

"Gyda llwyddiant y Flwyddyn Antur a'r Flwyddyn Chwedlau,  mae Croeso Cymru y mis hwn wedi cynnal sioeau teithiol ym mhob un o'r pedwar rhanbarth er mwyn rhoi cyfle i'r diwydiant twristiaeth edrych ar sut y gall gyfrannu at Flwyddyn y Môr 2018. Rwyf wrth fy modd gyda'r ffordd y mae'r diwydiant wedi cefnogi'r blynyddoedd thematig – maent yn dangos sut y gallwn gydweithio i drosglwyddo neges bendant a rhesymau da dros ddenu ymwelwyr i Gymru. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r diwydiant er mwyn sicrhau y bydd 2018 yn flwyddyn lwyddiannus." 

Mae'r Adroddiad Blynyddol i'w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.