Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £18.7 miliwn yn rhagor er mwyn ymestyn cymhellion i helpu busnesau i recriwtio prentisiaid yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, a fydd bellach yn rhedeg hyd at 30 Medi, yn rhan allweddol o’r ymrwymiad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud mewn ymateb i COVID-19 er mwyn helpu busnesau a gweithwyr i adfer ar ôl effeithiau’r coronafeirws (COVID-19).

Lansiwyd y cymhellion yn hydref 2020, ac mae mwy na 1,300 o brentisiaid wedi cael eu recriwtio eisoes.

Mae’r newyddion hyn heddiw yn golygu y bydd busnesau'n gallu hawlio hyd at £4,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y byddant yn eu cyflogi. Mae hyn wedi codi o’r £3,000 o grant a oedd yn cael ei gynnig yn flaenorol.

Bydd y cymhelliad o £4,000 ar gael i fusnesau a fydd yn cyflogi prentis ifanc am o leiaf 30 awr yr wythnos.

Gallai busnesau yng Nghymru hefyd gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed y byddant yn ei gyflogi am lai na 30 awr yr wythnos, sy’n gynnydd o £500.

Mae’r cymhellion uwch ar gyfer cyflogwyr yn cydnabod effaith economaidd arbennig COVID-19 ar bobl dan 25 oed.

Ar gyfer gweithwyr 25 oed a throsodd, gall busnesau gael £2,000 ar gyfer pob prentis newydd y byddant yn ei gyflogi ar gontract 30 awr neu fwy, a chymhelliant o £1,000 ar gyfer prentisiaid sy'n gweithio llai na 30 awr.

Ni fydd unrhyw fusnes yn cael hawlio taliadau am fwy na deg o ddysgwyr.

Mae cyllid penodol ar gael hefyd i recriwtio pobl anabl ac ar gyfer gweithwyr sydd wedi colli prentisiaeth flaenorol oherwydd y COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyrraedd ei tharged o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon, ac mae'r cymhellion yn sicrhau cyfleoedd cyflogaeth pwysig i brentisiaid.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:

"Mae prentisiaethau'n gwneud cyfraniad mawr i'n heconomi, a bydd ymestyn a chynyddu ein cymhellion yn cynnig cyfleoedd pwysig i bobl o bob oed, yn ogystal â'n cymuned fusnes.

"Rydyn ni eisoes yn gweld yr effaith gadarnhaol y mae'r cynllun yn ei chael, a dw i am weld hynny’n parhau.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cymorth hollbwysig i fusnesau ac i weithwyr drwy gydol y pandemig ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar hynny.

"Mae’r ymrwymiad rydyn ni wedi’i wneud mewn ymateb i Covid yn rhan allweddol o'n Cenhadaeth i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, a bydd yn hanfodol wrth inni ailadeiladu economi a fydd nid yn unig yn fwy llewyrchus ond hefyd yn decach ac yn wyrddach nag erioed o'r blaen.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:

“Mae prentisiaethau yn helpu pobl i ennill sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel, ac yn rhoi cyfleoedd i fusnesau a’r economi ffynnu.

“Mae’r cyllid ychwanegol rydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw, sy’n cynnwys £8.7 miliwn i ymestyn y Cynllun Cymhellion i Gyflogwyr, yn mynd i barhau i helpu cyflogwyr i recriwtio prentisiaid a phobl ifanc a gafodd eu taro galetaf gan y pandemig.

Mae ymgyrch newydd Llywodraeth Cymru, ‘Yn Gefn i Chi’, a gafodd ei lansio yr wythnos diwethaf, hefyd yn annog cwmnïau ym mhob cwr o Gymru i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau ar gyfer Busnesau i recriwtio ac i feithrin sgiliau gweithwyr newydd a’u gweithwyr presennol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Busnes Cymru Porth Sgiliau.

Ariennir y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop.