Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £1.5m i gefnogi ac ehangu lleoedd diogel a chynnes i bobl o bob oed gael mynediad iddynt o fewn cymunedau lleol.
Mae'r canolfannau, sydd ym mhob cwr o Gymru, yn darparu lleoedd i bobl allu cymdeithasu a chael mynediad at wasanaethau a chyngor dros y misoedd nesaf.
Cyfeiriwyd at y rhain mewn ffyrdd amrywiol fel Canolfannau Clyd, Canolfannau Croeso Cynnes, Mannau Cynnes a Chroeso Cynnes / Cosy Corners.
Mae'r cyllid yn adeiladu ar yr hyn sydd eisoes ar gael mewn canolfannau cymunedol a bydd yn helpu i gefnogi canolfannau mewn sawl ffordd, yn amrywio o gynnig lluniaeth a bwyd i ariannu oriau agor ychwanegol, ar gyfer gweithgareddau fel ymarfer corff a chelf neu i ddysgu sgiliau newydd.
Mae'r rhain yn lleoedd croesawgar, agored a chynhwysol sydd ar gael i bawb yn y gymuned elwa arnynt, gyda'r ffocws ar nodi a chyflawni anghenion lleol.
Bydd y £1.5m yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol, drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ar gyfer ystod o leoliadau gan gynnwys yn y sectorau statudol a gwirfoddol fel lleoliadau ffydd, chwaraeon a chymunedol.
Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o becyn cymorth ehangach Llywodraeth Cymru i bobl ledled y wlad gan gynnwys ein Cronfa Cymorth Dewisol, Gwasanaethau'r Gronfa Gynghori Sengl, a'r Cynllun Talebau Tanwydd.
Sefydlwyd dros 850 o leoedd ledled Cymru yn ystod diwedd 2022 a dechrau 2023, gan ddarparu cefnogaeth i dros 117,000 o bobl. Mae'r arian hwn yn helpu i adeiladu ar hynny.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt:
"Bydd y £1.5m rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau y bydd lleoedd yn parhau i fod ar gael i bobl fynd iddynt mewn cymunedau lleol ledled Cymru.
"Byddant yn cefnogi unigolion a theuluoedd, gan ddod â phobl ynghyd a helpu i fynd i'r afael â materion fel unigrwydd a chynnig cyngor ar faterion fel delio â chostau byw, cymhwysedd a chael gafael ar fudd-daliadau.
"Rwy' wedi gweld gwaith pwysig y canolfannau hyn mewn ardaloedd lleol, yn croesawu pobl o bob oedran a chefndir. Rwy'n falch ein bod yn darparu cyllid a fydd yn helpu i adeiladu ar yr hyn yr ydym wedi'i ddarparu o'r blaen, ac a fydd yn galluogi'r canolfannau i barhau i gynnig eu gwasanaethau pwysig er budd y bobl y maent yn eu gwasanaethu."
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Llywyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
"Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ddarparu'r cyllid hwn a fydd yn helpu i sicrhau bod y mannau hanfodol hyn yn cael eu cynnal.
"Mae'r canolfannau hyn wedi bod yn achubiaeth i lawer o drigolion a theuluoedd ledled Cymru. Rwy'n falch y bydd y cyllid hwn yn galluogi cynghorau i barhau i ddarparu'r mannau hyn ochr yn ochr â'r ystod o gymorth arall a ddarperir yn lleol. Byddwn yn cynghori unrhyw drigolion a hoffai gael gwybod mwy i gysylltu â'u hawdurdod lleol."
Dywedodd David Barclay, Cyfarwyddwr yr Ymgyrch Croeso Cynnes:
"Uchelgais yr Ymgyrch Croeso Cynnes yw gwneud i bawb deimlo'n rhan o'u cymuned a'u bod yn perthyn iddi. Mae'r mannau hyn yn achubiaeth i bobl, ac rydym wrth ein bodd bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £1.5m i ehangu ei chefnogaeth ar gyfer mannau cynhwysol, cynnes, croesawgar a diogel ledled Cymru.
"Rydym yn gwybod y bydd y galw am y canolfannau hyn yn uchel ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o'r mannau hanfodol hyn."
I gael gwybod mwy am hybiau yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch awdurdod lleol perthnasol.