Busnesau ardderchog o Gymru fydd yn troi am Singapore yr wythnos hon (8 - 11 Gorffennaf) i gynyddu'u hallforion.
Bydd 15 cwmni o bob rhan o Gymru'n teithio i'r Dwyrain Pell fel rhan o daith fasnach o dan arweiniad Llywodraeth Cymru i ddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i'r byd.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Singapore yw un o ganolfannau busnes rhyngwladol mwya'r byd. Mae ganddi economi agored sy'n dibynnu ar fasnach ac mae'n gweithio i gryfhau ei pherthynas fasnachu â Chymru a'r DU. Y llynedd yn unig, gwerth yr allforion o Gymru i Singapore oedd £74 miliwn ac rydym yn awyddus i weld hynny'n cynyddu.
"Mae'n dda gweld bod cymaint o amrywiaeth o fusnesau'n ymuno â'r daith ddiweddaraf hon. Maen nhw'n amrywio o gwmnïau sy'n darparu cynnyrch a gwasanaethau i ddiwydiannau llongau rhyngwladol i fusnesau sy'n arbenigo mewn bwyd o Gymru. Maen nhw'n adlewyrchu dyfnder ac amrywiaeth yr arbenigedd a geir yng Nghymru ym mhob sector. Mae'r arlwy wedi bod yn boblogaidd mewn teithiau tebyg yn y gorffennol.
"Mae'r ymweliad yn cryfhau ein hymrwymiad i werthu Cymru i'r byd a bydd yn llwyfan perffaith inni gryfhau'r cysylltiadau a thrafod cyfleoedd i allforio mewn marchnad sy'n tyfu."
Dywedodd Adrian Sutton, cyfarwyddwr Symltech:
"Hon fydd ein hail hymweliad â Singapore ac rydym yn gobeithio datblygu'r berthynas a'r cysylltiadau rydym eisoes wedi'u meithrin a sicrhau ein gwerthiant cyntaf i'r rhanbarth ar y daith. Chewch chi ddim cyngor a help gwell na'r hyn gewch chi gan dîm Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru ac fel busnes, rydym yn falch o gael elwa ar y gwasanaeth proffesiynol hwn - mae'n glod i Gymru."
Dywedodd Paul Sidebottom, rheolwr datblygu busnes Russell IPM:
"Rydym wedi bod yn masnachu yn Singapore ar raddfa fach ers nifer o flynyddoedd. Bydd help Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o amser inni yn y farchnad i feithrin busnes. Russell IPM yw un o gynhyrchwyr cynnyrch fferomon a glud mwyaf Ewrop, gan weithio yn y sectorau amaeth, prosesu bwyd a rheoli plâu. Rwy'n disgwyl ymlaen yn fawr at ymweld â Singapore eto ac at gael trafodaethau ffrwythlon."
Bydd y cwmnïau'n dangos eu cynnyrch i'r farchnad addawol yn Singapore mewn derbyniad i fusnesau o dan ofal Dirprwy Uchel Gomisiynydd Prydain, Mr Jonathan Darby.
Bydd cyfleoedd eraill i gynyddu cyfleoedd posibl i fusnesau trwy ddigwyddiadau a chyfarfodydd fydd wedi'u trefnu yn y farchnad gan Lywodraeth Cymru, Uchel Gomisiwn Prydain a Siambr Fasnach Prydain Singapore.