Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £15 miliwn ychwanegol mewn technoleg addysgol i ysgolion yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r buddsoddiad yn barhad o raglen Technoleg Addysg Hwb, sydd eisoes wedi gweld buddsoddiad o dros £92 miliwn gan Lywodraeth Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a bydd yn cefnogi ymhellach y gwaith o drawsnewid seilwaith digidol pob ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Bydd cyllid hefyd yn cael ei ddefnyddio i sicrhau cysylltedd MiFi ar gyfer dysgwyr sydd wedi'u hallgáu o'r byd digidol, hyd at ddiwedd y flwyddyn ysgol gyfredol ym mis Gorffennaf.

Hyd yn hyn, mae rhaglen Technoleg Addysg Hwb wedi: 

  • darparu dros 128,000 o ddyfeisiau ers dechrau'r pandemig, gyda 54,000 yn fwy yn cael eu darparu yn ystod yr wythnosau nesaf
  • ariannu meddalwedd sydd wedi caniatáu i tua 10,000 o ddyfeisiau gael eu hail-bwrpasu a’u rhoi i ddysgwyr sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol
  • darparu 10,848 o ddyfeisiau MiFi i ddysgwyr sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd gartref
  • galluogi awdurdodau lleol i brynu dros 300,000 o gynhyrchion seilwaith digidol, gan gynnwys ceblau, switshys a dyfeisiau WiFi

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi tynnu sylw at ba mor bwysig yw technoleg i'n hysgolion a'n dysgwyr.

Rwy'n falch iawn ein bod, yn dilyn buddsoddiad sylweddol mewn blynyddoedd blaenorol, wedi datblygu ein platfform Hwb, sy'n un o’r goreuon yn y byd, ac wedi ein rhoi mewn sefyllfa gref i barhau i ddysgu o bell eleni.

Bydd y gwelliannau rydym wedi'u gwneud i seilwaith digidol mewn ysgolion yn helpu ein dysgwyr i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd i Gymru dros y blynyddoedd nesaf.