Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd dros £13 miliwn yn helpu Undebau Llafur i ddarparu atebion sgiliau a chymorth dysgu i weithwyr dros y tair blynedd nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) a rhaglen Addysg Undebau Llafur TUC Cymru yn cefnogi Undebau Llafur yng Nghymru i ddatblygu sgiliau hanfodol a chyflogadwyedd y gweithlu, gyda phwyslais arbennig ar ddileu rhwystrau i ddysgwyr traddodiadol nad ydynt yn ddysgwyr.

Bydd cam newydd rhaglen Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn gweld 18 undeb yn derbyn cyllid i ddarparu ystod o weithgareddau i uwchsgilio unigolion yn y gweithle a datblygu eu dyheadau gyrfaol.

Dangosodd Arolwg Dysgwyr WULF eleni fod 52 y cant o'r ymatebwyr wedi nodi bod y rhaglen wedi arwain at gynnydd mewn cyflogau, a dywedodd 16 y cant fod eu dysgu wedi arwain at newid swyddi.

Mae cyfanswm o 70 y cant o ddysgwyr WULF yn fenywod a dywedodd 22 y cant o'r rhai a holwyd fod ganddynt namau corfforol, synhwyraidd, dysgu neu iechyd meddwl.

Mae'r rhaglen, sydd wedi bod ar waith ers dros ugain mlynedd, yn cael ei chefnogi gan TUC Cymru.

Mae'r prosiectau a ariennir dros y tair blynedd nesaf yn cynnwys:

  • prosiect Siop Sgiliau Cynaliadwy ar gyfer Dyfodol Cymru gan USDAW (Undeb Gweithwyr Siopau, Dosbarthu a Gwaith Perthynol). Bydd hyn yn canolbwyntio ar uwchsgilio gweithwyr siopau sydd â sgiliau digidol.
  • y Rhaglen Partneriaeth Ddysgu gan ASLEF (Cymdeithas Gysylltiedig Peirianwyr a Dynion Tân Locomotif). Bydd hyn yn cyflwyno safon prentisiaeth Lefel 3 ar gyfer gyrwyr trenau.
  • prosiect Full STEAM Ahead gan BECTU (Undeb Darlledu, Adloniant, Cyfathrebu a’r Theatr). Bydd hyn yn cefnogi'r diwydiannau creadigol wrth iddynt wella o bandemig COVID-19.

Bydd cam nesaf y rhaglen yn adeiladu ar hyblygrwydd ac arloesedd y rhaglen yn ystod y pandemig, pan oedd yn canolbwyntio ar helpu gweithwyr a gafodd eu hadleoli i wahanol rolau, ffyrlo a cholli swyddi.

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo Gweinidogion i adeiladu ar lwyddiant WULF, drwy hyrwyddo mwy ar gyfleoedd dysgu yn y gweithle, cyflawni'r Warant i Bobl Ifanc a blaenoriaethu datgarboneiddio.

Bydd hefyd yn cefnogi'r uchelgeisiau a nodwyd yn y Gymru Gryfach, Decach a Gwyrddach a gyhoeddwyd yn ddiweddar: Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, gan gynnwys gwaith teg i bawb, a helpu pobl mewn cyflogaeth i gael gwell swyddi, uwchsgilio a rhoi hwb i'w rhagolygon gyrfaoedd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Ein huchelgais yw sicrhau Cymru decach a mwy cyfartal, lle rydym yn gweithio i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl na'i ddal yn ôl, a chydag ymrwymiad i newid bywydau pobl er gwell.

"Mae cefnogi gweithwyr i uwchsgilio, newid llwybr a phrofi mwy o foddhad swydd yn allweddol i'w helpu i gyflawni eu potensial.

"Bydd hyn hefyd yn ein helpu i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau Cymru, nawr ac yn y dyfodol, drwy ysgogi amrywiaeth yn y gweithlu, manteisio i'r eithaf ar ein talent yng Nghymru, a llunio economi sy'n gweithio i bawb.

"Cyflawnodd WULF ganlyniadau cadarnhaol i weithwyr yn ystod yr amodau hynod heriol a grëwyd gan bandemig y coronafeirws, ac rwyf am weld llwyddiant yn parhau wrth i ni symud i economi wyrddach sy'n fwy llewyrchus i bawb.

Ymhlith y rhai sydd wedi elwa o raglenni WULF mae:

  • Helen Ward, o Trafnidiaeth Cymru, sydd ar hyn o bryd wedi cofrestru ar brentisiaeth i fod yn yrrwr trên drwy ASLEF.
  • Craig Kinsey, a fanteisiodd ar gynllun peilot y Brifysgol Agored drwy CWU (Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu). Cafoodd radd rhagoriaeth, ac roedd yn gallu trosglwyddo ei wybodaeth a hyrwyddo dysgu'r Brifysgol Agored i gydweithwyr