Dylech adeiladu ar safonau agored a chydrannau a phatrymau cyffredin o’r tu mewn a’r tu allan i’r Llywodraeth.
Os ydych yn datblygu’ch patrymau neu’ch cydrannau eich hun, rhannwch nhw’n gyhoeddus fel y gall eraill eu defnyddio.
Pam mae'n bwysig
Mae defnyddio cydrannau a phatrymau cyffredin yn golygu nad oes rhaid ichi ddatrys problemau sydd eisoes wedi’u datrys. Drwy ddefnyddio cydran neu batrwm sydd wedi bod drwy brofion helaeth yn barod, gallwch roi profiad da i ddefnyddwyr mewn modd costeffeithiol. Os ydych yn datblygu’ch patrymau neu’ch cydrannau eich hun, rhannwch nhw fel y gall eraill elwa ar eich gwaith.
Mae safonau agored o gymorth i wasanaethau weithio’n gyson – fel y byddwch yn treulio llai o amser yn ceisio gwneud i systemau “siarad” â’i gilydd. Ac maent yn eich helpu i osgoi cael eich rhwymo wrth gyflenwr neu dechnoleg benodol – felly pan fydd pethau’n newid, gallwch chithau newid eich dull gweithredu.
Beth mae'n ei olygu
Dylai timau gwasanaeth:
- ddefnyddio safonau agored, a chynnig safon agored newydd os nad oes un sydd eisoes yn diwallu eu hanghenion
- defnyddio gwasanaethau llywodraethol cyffredin os yw’n bosibl
- bod yn hyblyg wrth ddefnyddio technoleg
- defnyddio cydrannau a phatrymau cyffredin, a rhannu manylion y rhai newydd maent yn eu creu neu eu haddasu
Pan fo gwasanaethau’n creu data a allai fod o gymorth i eraill, dylent eu cyhoeddi mewn fformat agored, y gall peiriant ei ddarllen. Dylid hefyd gyhoeddi’r data o dan Drwydded Llywodraeth Agored.
Ni ddylai gwasanaethau gyhoeddi data personol na data sensitif eraill. Ni ddylent ychwaith gyhoeddi unrhyw beth a allai dorri hawliau eiddo deallusrwydd rhywun.
Ar gyfer gwasanaeth LLYW.CYMRU, mae hyn yn golygu:
- bod yn gyson o ran dyluniad LLYW.CYMRU
- dilyn canllaw arddull LLYW.CYMRU ar gyfer unrhyw destun sydd ar-lein neu all-lein