Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Julie James wedi cyhoeddi £12m ychwanegol o gyllid i awdurdodau lleol drwsio tyllau yn y ffordd a gwella ffyrdd, palmentydd a llwybrau teithio llesol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian ychwanegol yn caniatáu i awdurdodau lleol barhau â gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar briffyrdd, gan roi hwb i'r economi a gwneud teithio llesol yn fwy diogel. Bydd awdurdodau lleol hefyd mewn sefyllfa well i ymateb i effaith digwyddiadau tywydd diweddar, gan gynnwys difrod i briffyrdd a achoswyd gan y llifogydd diweddar.

Mae'r £12m o gyllid ychwanegol yn amlygu ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i deithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel. Addawodd Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, gynnydd beiddgar yn nifer y bobl sy'n defnyddio teithio llesol cyhoeddus neu gerdded a beicio i fynd o gwmpas. Tynnodd sylw at yr angen i wneud y defnydd gorau o'r seilwaith presennol drwy gynnal a chadw a rheoli effeithiol.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Thai:

Rydym yn gwybod bod y rhan fwyaf o gynghorau eisoes wedi gwneud defnydd da o'r cyfle i wneud gwaith atgyweirio a gwella yn ystod y pandemig gyda rhwydwaith ffyrdd tawelach.

Rydym yn darparu'r arian ychwanegol hwn i adlewyrchu'r difrod gan lifogydd a welsom i briffyrdd ledled Cymru a'r ffyrdd rydym yn defnyddio ein hamgylchedd leol yn wahanol. 

Drwy ddarparu'r cyllid ychwanegol hwn, rydym yn galluogi awdurdodau lleol i barhau i wneud gwelliannau i ffyrdd yng Nghymru, gan roi hwb i'r economi a gwneud ffyrdd yn fwy diogel ar gyfer teithio llesol.