Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru’n neilltuo £110 miliwn yn ychwanegol i helpu’r busnesau fydd yn dod o dan y cyfyngiadau lefel rhybudd pedwar a ddaw i rym pan fydd siopau’n cau ar Noswyl y Nadolig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyfyngiadau’n golygu y bydd siopau nad ydyn nhw’n hanfodol, gan gynnwys gwasanaethau cyswllt agos a chanolfannau hamdden a ffitrwydd, yn gorfod cau o ddiwedd y diwrnod masnachu Noswyl y Nadolig, a bydd busnesau lletygarwch yn gorfod cau am 6pm ddydd Nadolig.

Bydd y pecyn cymorth newydd – fydd ar ben y £340 miliwn sydd eisoes ar gael i fusnesau o dan lefel rhybudd tri – yn helpu 35,500 o gwmnïau.

Mae busnesau lletygarwch a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol, a fydd yn teimlo effeithiau’r cyfyngiadau newydd, sy’n derbyn rhyddhad ardrethi busnesau bach ac sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn cael taliad o £3,000. 

Bydd busnesau lletygarwch a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £150,000 yn gymwys am daliad o £5,000. 

Bydd busnesau twristiaeth ac adwerthu sydd â’r un gwerth trethiannol, a’u cadwyni cyflenwi, hefyd yn gallu cael y cymorth hwn os yw eu trosiant wedi cwympo 40% yn y cyfnod o gyfyngiadau.

Cyhoeddwyd hyn heddiw gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Eluned Morgan yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i’r wasg. Dywedodd:

“Rydym yn gwneud penderfyniadau aruthrol o anodd ond angenrheidiol i ddiogelu iechyd a bywydau ein pobl.

“Rydyn ni’n deall bod y penderfyniadau hyn yn effeithio ar ein heconomi ac y bydd yn ergyd arall i lawer o fusnesau sydd wedi gorfod dygymod â chymaint yn ystod blwyddyn hynod o anodd.

“I helpu’r busnesau sy’n dioddef oherwydd y cyfyngiadau diweddaraf hyn, rydym yn neilltuo £110 miliwn arall. Rydyn ni’n rhagweld y bydd 35,500 o fusnesau yng Nghymru yn elwa arno.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Ken Skates:

“Mae’r pecyn diweddaraf hwn yn ychwanegol at y £340 miliwn i fusnesau y cyhoeddon ni ddiwedd Tachwedd, gan ddod â’r cyfanswm rydym wedi’i neilltuo i helpu busnesau yn ystod y pandemig i ragor na £2 biliwn.

“Mae ein cymorth ariannol eisoes wedi helpu i ddiogelu miloedd o fusnesau a 125,000 o swyddi.  Rydyn ni’n gweithio’n galed i gael yr arian i’r busnesau cyn gynted ag y gallwn ac yn y bythefnos ddiwetha yn unig, mae bron £20m wedi cyrraedd cyfrifon banc ein busnesau.

“Awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fydd yn gweinyddu’r cymorth ychwanegol hanfodol a gyhoeddir heddiw a hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw am eu gwaith caled a’u hymdrechion i sicrhau bod busnesau’n cael yr arian yn gyflym.

“Gwaetha’r modd, mae’r cynnydd yn yr achosion o’r coronafeirws yn golygu bod rhaid gweithredu nawr i reoli’r feirws.  Rydyn ni’n deall bod hyn yn gwneud sefyllfa busnesau’n anodd, ond fel llywodraeth, rydyn ni am wneud popeth yn ein gallu i’w diogelu nhw, ein pobl a’n cymunedau trwy’r dyddiau anodd hyn.

Bydd busnesau lletygarwch a siopau nad ydyn nhw’n hanfodol a gofrestrodd am y rhyddhad ardrethi annomestig yn ystod y cyfnod atal byr yn cael eu talu gan eu hawdurdod lleol. Bydd angen i bob busnes cymwys arall a busnesau na wnaethon nhw gofrestru yn ystod y cyfnod atal byr wneud hynny â’u hawdurdod lleol ym mis Ionawr. Byddan nhw’n cael eu talu’n fuan wedyn.

Bydd busnesau nad ydyn nhw’n gorfod talu ardrethi annomestig yn cael gwneud cais i’w hawdurdod lleol am Grant Dewisol y Cyfyngiadau o hyd at £2,000.

I gael rhagor o wybodaeth am y pecyn o gymorth i fusnesau, ewch i wefan Busnes Cymru