Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cytuno i ariannu 11 o brosiectau newydd drwy’r Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg yn dilyn y cylch ceisiadau agored yn 2016.
Mae'r Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg yn cefnogi prosiectau iechyd a gofal cymdeithasol sy'n defnyddio technoleg arloesol i wella pa mor effeithlon yw’r gwasanaethau yn y maes.
Mae'r prosiectau llwyddiannus yn cynnwys prosiect diagnosteg moleciwlaidd dan arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd yn cael £2.5m dros y tair blynedd nesaf i wella dulliau o roi diagnosis mewn achosion o heintiau gastroberfeddol.
Bydd Gwasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru yn cael £1.18m i arwain prosiect i ddatblygu dull cyffredin o ddefnyddio e-ffurflenni i Gymru gyfan er mwyn cyflymu'r gwaith o symud tuag at ddefnyddio cofnod cleifion digidol.
Fersiwn ddigidol o ffurflen bapur yw e-ffurflen. Bydd y rhain yn cymryd llai o amser i'w llenwi ac yn cael gwared â'r gost o argraffu, storio a dosbarthu'r gwaith papur.
Bydd cofnodion digidol yn golygu bod yr wybodaeth bwysig ar y sgrin yn ystod apwyntiadau. Bydd hyn yn ein dro yn gwella’r canlyniadau i'r cleifion wrth i’r penderfyniadau gael eu gwneud gyda'u clinigwyr ar sail gwybodaeth, gan sicrhau eu bod yn cael y driniaeth fwyaf priodol. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar e-ffurflenni nyrsio fel blaenoriaeth.
Bydd prosiect llwyddiannus arall yn edrych ar ddatblygu a gweithredu system well o gofnodi briwiau pwyso mewn cartrefi gofal. Bydd hyn yn arwain at system gofnodi agored a thryloyw ar gyfer briwiau pwyso dwfn, yn unol ag un o argymhellion adroddiad Flynn.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi sicrhau cyllid, ar y cyd â phartneriaid, i lunio system sy'n lleihau’r nifer sy'n ffonio am ambiwlans a/neu'n mynd i'r adran frys yn aml. Nod y prosiect yw cydweithio â'r unigolion hyn er mwyn deall eu hanghenion yn well, a fydd yn ei dro'n lleihau’r gost a'r baich ar adnoddau gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd.
Mae Bwrdd Iechyd Powys wedi bod yn llwyddiannus gyda'i gais am gyllid ar gyfer prosiect therapi gwybyddol ymddygiadol cyfrifiadurol, a fydd yn cefnogi cleifion ag iselder llai dwys drwy gynnig mynediad cynt at y driniaeth.
Mae'r prosiectau eraill yn cynnwys:
- Digido cofnodion llwybrau gofal cleifion â chanser yr ysgyfaint (Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru)
- Datblygu ac ehangu gwaith Dewis Fferyllfa y Gronfa Effeithlonrwydd drwy Dechnoleg i bob fferyllfa gymunedol yng Nghymru.
- Canolfan Ffeibrosis Systig Cymru gyfan i Oedolion – Clinigau Rhith-dechnoleg (Caerdydd a'r Fro)
- Rhaglen genedlaethol i wella’r ddarpariaeth o deleiechyd i leihau'r niferoedd sy'n mynd i'r ysbyty a'r adrannau brys (Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ac Abertawe Bro Morgannwg)
- Technoleg spectroscopi Raman ar gyfer canser y colon a'r rhefr (Abertawe Bro Morgannwg)
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
"Mae'n bleser gallu ariannu'r 11 prosiect newydd hyn sydd â'r nod o wella effeithlonrwydd ein gwasanaethau gofal iechyd yma yng Nghymru. Daeth 142 cais i law yn y cylch cyllido hwn, y nifer fwyaf o geisiadau inni eu cael hyd yn hyn a hoffwn longyfarch pawb sydd wedi llwyddo - roedd safon y gystadleuaeth yn uchel iawn.
"Mae'n wych gweld sefydliadau'n dyfeisio cynlluniau arloesol i wella ein gwasanaethau gofal iechyd. Dw i'n edrych ymlaen at ymweld â rhai o'r prosiectau yn y dyfodol agos i weld yr hyn maen nhw'n ei gyflawni â'm llygaid fy hun."