Neidio i'r prif gynnwy

Yr haf hwn mae Llywodraeth Cymru’n helpu i gefnogi 1,000 o gyfleoedd prentisiaeth newydd sbon i bobl o bob oed yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyfleoedd, a fydd yn cael eu hysbysebu ar Wasanaeth Paru Prentisiaeth gwefan Gyrfa Cymru gydol yr haf, yn cynnig cyfle i bobl ifanc ac oedolion sicrhau gyrfa gyffrous mewn ystod eang o bynciau yn cynnwys TGCh, y diwydiannau creadigol, adeiladu a STEM, lle mae yna brinder sgiliau amlwg ar hyn o bryd.

Bydd yr holl swyddi yn gyfleoedd prentisiaeth sy’n arwain at gymwysterau, gan ganolbwyntio’n arbennig ar sgiliau technegol a phroffesiynol. Mae rhai o’r prentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd yn cynnwys prentisiaethau i fod yn newyddiadurwr, gwyddonydd cyswllt, syrfëwr meintiau, ac ym meysydd TGCh a chyfrifiadura, digidol a marchnata.

Mae Rhaglen Prentisiaethau Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Alana Spencer, 25, enillydd cyfres The Apprentice y BBC 2016 yn cefnogi rhaglen brentisiaethau Llywodraeth Cymru. Meddai,

“Mae pobl ifanc sy’n gadael ysgol mor lwcus o gael cymaint o gyfleoedd i ddewis ohonyn nhw. Mae yna lawer o fanteision i brentisiaethau ac maen nhw’n galluogi pobl ifanc i gychwyn gyrfa mewn maes sydd o ddiddordeb iddyn nhw, gan ennill profiad gwych a sgiliau a chymwysterau perthnasol i’r diwydiant yr un pryd a fydd yn eu helpu i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y dyfodol.

“Pan wnes i adael yr ysgol yn 16 oed ro’n i’n benderfynol o beidio dilyn y llwybr prifysgol traddodiadol i swydd. Do’n i ddim yn gwybod dim am brentisiaethau ar y pryd felly wnes i ddim eu hystyried fel llwybr posib i fod yn siocledwr.

“Pan ro’n i’n cychwyn arni doedd gen i neb yn fy nysgu i felly ro’n i’n treulio fy nyddiau’n dysgu sut i goginio drwy ymarfer a pherffeithio ryseitiau gartref. Yna, fe fyddwn i’n eu profi ar fy nheulu a’m ffrindiau ac mewn digwyddiadau lleol.

“Roedd yn andros o waith caled a heriol ar brydiau ond yn rhoi boddhad mawr. Ond fe ges i adegau pan ro’n i’n meddwl na fyddwn i’n llwyddo ac fe fyddwn i wedi bod yn ddiolchgar o’r cyfle am gyngor a chymorth yr adeg honno yn ogystal â rhywfaint o brofiad ymarferol cyn mentro arni fy hun. Bellach, prentisiaethau yw’r ateb perffaith os ydych am gael gyrfa mewn maes sy’n agos at eich calon a chael yr holl adnoddau angenrheidiol ar gyfer llwyddo yn y dyfodol yr un pryd. Mae pawb ar eu hennill gyda phrentisiaethau.”

Mae Cymru wedi datblygu rhaglen brentisiaethau lwyddiannus iawn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae prentisiaethau yn dod yn ddewis amgen sy’n fwyfwy poblogaidd ac yn ddewis yn lle llwybrau academaidd traddodiadol i gyflogaeth, gan helpu pobl o bob oed i gael profiad mewn swydd wrth astudio am gymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol.

Gyda diwrnod canlyniadau yn prysur agosáu mae Llywodraeth Cymru’n annog pobl Cymru i ystyried sut y gall prentisiaeth fod yn gam cyntaf i lwybr gyrfa medrus, gwerth chweil.

Meddai’r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James:

“Mae prentisiaethau’n gychwyn gyrfa gyffrous a boddhaol ac fe allan nhw fod yn addas i bobl o bob oedran, gan roi cyfle iddyn nhw gael profiad ymarferol, mewn swydd ac ennill yr holl sgiliau a’r cymwysterau sydd eu hangen arnyn nhw.

“Mae prentisiaethau’n fuddsoddiad allweddol i gyflogwyr a all hyfforddi eu gweithlu yn y sgiliau arbenigol sydd eu hangen yn eu sefydliad. Yn gyffredinol, mae prentisiaethau yn gwneud cyfraniad pwysig at gynyddu set sgiliau gyffredinol y genedl a sbarduno twf economaidd, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i allu cystadlu ar lwyfan y byd.

“Dros yr haf, mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda darparwyr hyfforddiant ledled Cymru i dynnu sylw at 1000 o lefydd prentisiaeth sydd ar gael mewn sefydliadau o wahanol sectorau, yn amrywio o BBaChau i fusnesau mawr byd-eang sy’n gweithio mewn nifer o leoliadau.

“Mae’r swyddi sydd ar gael yn cynnig holl fanteision prentisiaeth gyda chymwysterau i gyd-fynd â hynny, ac mae yna ffocws arbennig ar wella sgiliau technegol a phroffesiynol lefel uwch. Mae Llywodraeth Cymru yn ailgyfeirio ei buddsoddiad tuag at y meysydd polisi sy’n sicrhau’r elw mwyaf a bydd yr amrywiaeth o gyfleoedd a fydd ar gael dros yr haf yn adlewyrchu hyn.

“Mae’r swyddi sydd ar gael yn agored i bobl o bob oed ac yn darparu hyfforddiant o ansawdd uchel i unigolion sydd am gyflawni eu potensial yn llawn. Mae gennym hanes cryf o brentisiaethau o safon eisoes a’n nod yw adeiladu ar hyn a chynnig prentisiaethau mewn sectorau sy’n sbarduno twf a chyfleoedd i ennill mwy o arian.”

I gael rhagor o wybodaeth am fod yn brentis, ewch i gyrfacymru.com (dolen allanol) a dilyn y ddolen prentisiaeth neu i wybod sut gallai eich busnes elwa ar recriwtio prentis, ewch i’r Porth Sgiliau i Fusnes yn  https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/prentisiaethau neu ffoniwch 03000 6 03000. Rydym hefyd ar Facebook yn www.facebook.com/apprenticeshipscymru a Twitter @apprenticewales.

Mae Rhaglen Prentisiaethau Cymru yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.