Mae BT ar fin ehangu ei ganolfan gyswllt I gwsmeriaid yn Abertawe drwy greu 100 o swyddi newydd. Derbyniodd y cwmni gymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni hyn.
Mae’r cwmni’n creu’r swyddi newydd fel rhan o’I ymrwymiad I ateb 90 y cant o alwadau ffôn ei gwsmeriaid yn y DU erbyn mis Gwanwyn 2017.
Bydd y staff newydd yn gweithio yn Nhŵr BT yn Abertawe lle y bydd llawr ychwanegol yn cael ei adnewyddu a lle y bydd offer newydd yn cael ei osod ar gyfer cyflawni’r gwaith newydd a allai fod wedi cael ei leoli yng nghanolfannau eraill BT o fewn y DU lle y mae lle ar gael. Mae BT eisoes yn cyflogi tua 500 o bobl yn Nhŵr BT yn Abertawe.
Caiff y buddsoddiad cyfalaf gan BT ei ategu gan gyllid busnes oddi wrth Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi helpu I greu’r swyddi newydd ac I sicrhau bod canolfan BT yn Abertawe yn ehangu.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi Ken Skates:
“Caiff pwysigrwydd BT I economi Cymru ei adlewyrchu yn y ffaith bod ganddo statws cwmni angor. Mae’n cyflogi dros 3,890 o weithwyr yng Nghymru ac yn gwario tua £284 miliwn gyda chyflenwyr yng Nghymru bob blwyddyn.
“Mae BT eisoes wedi creu nifer sylweddol o swyddi newydd ar draws Cymru’n ddiweddar ac mae’n bleser cefnogi’r ehangu sylweddol hwn a fydd yn digwydd yn Abertawe. Mae’n adeiladu ar eu gwaith presennol a hynod lwyddiannus yn y ddinas a bydd yn creu swyddi a chyfleoedd gwaith newydd ac amrywiol."
Dywedodd Alwen Williams, cyfarwyddwr rhanbarthol BT Cymru Wales “Rydym yn trawsnewid y modd yr ydym yn gwasanaethu ein cwsmeriaid er mwyn rhoi hwb i’n lefelau gwasanaeth.”
“Erbyn Gwanwyn 2017 byddwn yn ateb 90 y cant o alwadau ffôn ein cwsmeriaid yn y DU. Dyma pam y mae angen I ni gyflogi staff da ar gyfer y swyddi ychwanegol hyn.
“Mae BT eisoes yn gyflogwr blaenllaw yn Abertawe ac mae’r swyddi newydd hyn yn tystio i’n hymrwymiad i’r ddinas ac I sgiliau ac ansawdd ein gweithlu.
“Rydym hefyd wrthi’n cyflwyno ein technoleg band eang newydd a chyflym iawn yn Abertawe a fydd yn golygu bod modd I bobl a busnesau’r ddinas fanteisio ar y cyflymder band eang ffeibr diweddaraf sydd ar gael yn y DU.”
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn ateb galwadau ffôn ac yn helpu cwsmeriaid o bob rhan o’r DU, gan gynnig cyngor technegol a chyngor ar filiau a hefyd wasanaeth heb ei ail I gwsmeriaid.
Mae’r cwmni wedi ychwanegu tua 500 o swyddi mewn canolfannau cyswllt yn y DU ac Iwerddon fel rhan o BT Consumer, a bydd oddeutu 900 yn cael eu llenwi erbyn mis Ebrill 2017
Gallwch weld manylion y swyddi newydd a’r broses ymgeisio drwy’r ddolen hon http://btcareers.manpower.co.uk/ (dolen allanol). Bydd y broses gyfweld yn cynnwys profion ar-lein, canolfannau asesu a chyfweliadau er mwyn sicrhau bod yr ymgeiswyr gorau’n cael eu dewis ar gyfer y swyddi.
Dangosodd arolwg diweddar ynghylch bodlonrwydd cyflogeion mai canolfan Abertawe oedd safle BT Consumer yng Nghymru a De-orllewin Lloegr lle roedd y gweithlu fwyaf brwd ynghylch eu gwaith.