Penderfynwch sut y mae llwyddiant yn edrych, yna nodi metrigau ac ymchwilio i ddefnyddwyr, a fydd yn dweud wrthych beth sy’n gweithio a beth y gallwch ei wella.
Casglwch a defnyddio data perfformiad o bob sianel, ar-lein ac all-lein.
Dylech iteru a gwella’ch arferion casglu metrigau a data wrth ichi ddysgu mwy am anghenion defnyddwyr.
Pam mae'n bwysig
Drwy ddiffinio llwyddiant a nodi metrigau, byddwch yn gwybod a yw’r gwasanaeth yn datrys y broblem y mae i fod i’w datrys.
Bydd casglu’r data perfformiad cywir yn golygu y byddwch yn effro i broblemau posibl yn eich gwasanaeth. Ac wrth wneud newid i’r gwasanaeth, gallwch ddweud a gafodd yr effaith ddisgwyliedig.
Mae cyhoeddi data perfformiad yn golygu’ch bod yn dryloyw ynghylch llwyddiant gwasanaethau a ariennir gan arian cyhoeddus. A gall pobl gymharu gwahanol wasanaethau'r Llywodraeth.
Beth mae'n ei olygu
Dylai timau gwasanaeth:
- nodi metrigau a fydd yn dynodi pa mor dda y mae’r gwasanaeth yn datrys y broblem y mae i fod i’w datrys, ac olrhain perfformiad yn eu herbyn.
- defnyddio data perfformiad i wneud penderfyniadau ynghylch sut i ddatrys problemau a gwella’r gwasanaeth