Neidio i'r prif gynnwy

Wrth annerch Cynhadledd Flynyddol Cymru Sefydliad Siartredig Llyfrgellwyr a Gweithwyr Gwybodaeth(CILIP) heddiw, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas, y byddai amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru yn derbyn bron i £1 filiwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru er mwyn datblygu a gwella eu cyfleusterau a’u gwasanaethau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Diben y Rhaglen Grant Cyfalaf Trawsnewid yw cefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd i drawsnewid gwasanaethau i ddefnyddwyr a sicrhau eu cynaliadwyedd at y dyfodol.

Bydd y gronfa yn cael ei defnyddio i foderneiddio pedair llyfrgell: 

  • Llyfrgell Pwllheli 
  • Llyfrgell Sgiwen 
  • Llyfrgell Ferndale  
  • Llyfrgell y Fflint.

Yng nghanolfan lles cymunedol Rhydypennau a chanolfan lles cymunedol yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd bydd cyfleusterau cymunedol newydd yn cael eu creu a bydd cymorth yn cael ei roi i sefydlu canolfannau ehangach lle gall pobl ddefnyddio gwasanaethau llyfrgell ochr yn ochr â nifer o amwynderau eraill.

Mae cyllid hefyd yn cael ei roi ar gyfer Gardd Reilffordd Maenordy Scolton a fydd yn creu arddangosfa reilffordd safonol fel safle treftadaeth gwyrdd a deniadol o fewn y parc ym Maenordy Scolton. Bydd Archifau Ceredigion hefyd yn derbyn cyllid i drawsnewid Hen Dŷ’r Bad Achub yn Aberystwyth yn gyfleusterau storio ar gyfer casgliadau archifau.

Gan gyhoeddi’r cyllid sydd ar gael, dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Rydw i wrth fy modd cael bod yma yn y gynhadledd heddiw a chael siarad â’r llyfrgellwyr i gael gwybod mwy am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud ledled Cymru.

“Mae Llywodraeth Cymru’n parhau’n ymrwymedig i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn. Mae wedi bod yn bleser cael ymweld â nifer o lyfrgelloedd lleol ledled Cymru a gwnaeth ansawdd y gwasanaethau a brwdfrydedd y staff  argraff fawr arnaf ar fy ymweliadau.

“Yn sgil buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, rwyf wedi gweld enghreifftiau gwych lle mae Llyfrgelloedd wedi’u lleoli ar y cyd â gwasanaethau cyhoeddus a chyfleusterau diwylliannol eraill ac mae hyn wedi helpu i greu mwy o ymdeimlad o ysbryd cymunedol.

“Mae ein Llyfrgelloedd a’u staff yn gwneud gwaith gwych yn addasu i’r newidiadau mewn cymdeithas a thechnoleg - ac edrychaf ymlaen at weld y datblygiadau hyn sydd wedi elwa ar gael y cyllid hwn eleni pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau.

“Bydd y gronfa hon yn cynnig mwy o fanteision i’n cymunedau gan annog mwy i gymryd rhan mewn diwylliant, cynnig cyfleoedd dysgu a chefnogi cydlyniant cymunedol a ffyniant. Edrychaf ymlaen at ymweld â’r cyfleusterau newydd maes o law ac anogaf bawb i weld beth sydd gan eu hamgueddfa, eu harchifau neu eu llyfrgell i’w gynnig.”