Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi cyhoeddi y bydd Neuadd Marchnad Llandeilo yn cael ei thrawsnewid yn ganolfan fusnes arloesol ar gyfer canol y dref a’r gymuned ehangach yn sgil buddsoddiad o £1.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru a’r UE.
Bydd y buddsoddiad yn sicrhau bod modd ailddechrau defnyddio’r adeilad rhestredig Gradd II a bydd yn creu gofod newydd ar gyfer swyddi, cyfleusterau cynadledda, caffi a lleoliad ar gyfer holl ddigwyddiadau llwyddiannus Llandeilo sy’n mynd o nerth i nerth. Cafodd y Neuadd ei hadeiladu yn yr 1830au a gwnaeth chwarae rhan allweddol yn hanes Llandeilo hyd 2002. Nid yw’r Neuadd wedi’i defnyddio ers hynny.
Mae’r adeilad bellach mewn cyflwr gwael iawn ac mae ar y ‘gofrestr o adeiladau sydd mewn perygl’ ers 2007. Bydd yr adeilad aml-ddefnydd ar gyfer y gymuned yn creu lleoliad addas ar gyfer BBaCh sy’n dymuno adleoli i ganol y dref. Mae’r buddsoddiad yn rhan o raglen ‘Trawsnewid Trefi’ Llywodraeth Cymru a gafodd ei lansio yr wythnos ddiwethaf. Mae Trawsnewid Trefi yn canolbwyntio ar adfywio canol trefi, gan sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
Mae’r adeilad arbennig hwn sydd â phensaerniaeth mor bwysig ac sydd wedi gwasanaethu’r gymuned am gymaint o flynyddoedd bellach yn cael bywyd newydd. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr adeilad yn ffynnu a thyfu.
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid trefi fel Llandeilo, gan sicrhau eu bod yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Bydd y buddsoddiad hwn sydd werth £1.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru a’r UE yn helpu i drawsnewid adeilad gwag yn ganolfan ar gyfer cyfleoedd gwaith newydd. Bydd hyn yn helpu i ddenu mwy o bobl i’r dref a bydd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr â holl siopau a busnesau gwych Llandeilo – gan roi hwb y mae gwir ei angen ar fusnesau lleol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adfywio, y Cynghorydd Emlyn Dole, fod lleoliad a maint yr adeilad yn golygu ei fod yn gartref delfrydol ar gyfer busnesau a grwpiau cymunedol.
Rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith ar yr adeilad rhestredig a hanesyddol hwn yn dechrau fel bod modd ailddechrau ei ddefnyddio. Mae ein tîm datblygu economaidd wedi gweithio’n ddi-flino i sicrhau cyllid allanol ar gyfer cyflawni’r prosiect.
Mae’n sicr yn hwb economaidd sylweddol ar gyfer un o’n trefi gwledig allweddol. Bydd yr adeilad yn galluogi mwy o fusnesau i dyfu a ffynnu gyda chyfleusterau modern a fydd wedi’u teilwra’n arbennig ar eu cyfer.”
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru sy’n ariannu’r gwaith yma.