Cyhoeddwyd heddiw y cymorth ariannol fydd ar gael i leihau maint ac effaith troseddau casineb yng Nghymru heddiw.
Gwnaed y cyhoeddiad gan y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt, mewn araith yn nodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig dros Ddiddymu Gwahaniaethu ar sail Hil. Bydd £840,000 o arian yn dod o Gronfa Bontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru, wedi'i rannu dros ddwy flynedd.
Caiff yr arian ei rannu rhwng dau linyn:
- £360,000 i Gymorth i Ddioddefwyr Cymru i gynyddu eu capisiti yn y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth
- £480,000 ar gyfer cynllun cyllido sy'n cynnig grantiau unigol i sefydliadau sy'n gweithio gyda phobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau ffydd lleiafrifol er mwyn helpu i fynd i'r afael â throsedd casineb, lleihau effaith Brexit a rhoi sicrwydd yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae Cymorth i Ddioddefwyr Cymru eisoes yn rhedeg y Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth a bydd yr arian ychwanegol hwn yn cynnig adnoddau ychwanegol i gefnogi pobl sy'n dioddef o droseddau casineb yng Nghymru. Bydd hefyd yn ariannu cyrsiau hyfforddi i'r gwirfoddolwyr sef mwyafrif y staff.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gydag aelodau Fforwm Hil Cymru i gydgynllunio'r cynllun grant ar gyfer pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Yn ôl yr ystadegau mae 74% o droseddau a digwyddiadau casineb yng Nghymru yn gysylltiedig â hil a/neu grefydd. Golyga hyn fod pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a chymunedau ffydd lleiafrifol yn cael eu heffeithio'n anghymesur gydag effaith ddinistriol yn aml ar ddioddefwyr, eu teuluoedd a'r gymuned yn ehangach.
Bydd y grantiau unigol yn cael eu defnyddio i ariannu prosiectau o fewn sefydliadau sydd eisoes yn gweithio yn y cymunedau hyn, gan gynnwys y bobl hynny sy'n gweithio gyda dinasyddion yr UE nad ydynt o'r DU, ceiswyr lloches a ffoaduriaid.
Sefydlodd y Cenhedloedd Unedig Ddiwrnod Diddymu Gwahaniaethu ar sail Hil sy’n cael ei nodi heddiw ar ôl i'r heddlu ddechrau saethu a lladd 69 o bobl yn 1960 mewn gwrthdystiad heddychlon yn Sharpville, De Affrica, yn erbyn deddfau apartheid ar gario dogfennau teithio.
Wrth siarad yng nghynhadledd Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru heddiw, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
“Mae gan Gymru hanes balch o fod yn gymdeithas groesawgar sy'n cofleidio amrywiaeth ac nid oes amheuaeth y bydd y nodweddion hyn yn parhau ar ôl Brexit. Mae'r cyhoeddiadau hyn yn adlewyrchu ymrwymiad hirhoedlog Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cyfiawnder a chydraddoldeb ar sail hil yn ein gwlad.
"Er hynny nid ydym yn barod i laesu dwylo ac rydyn ni'n cydnabod yn llawn effaith troseddau casineb ar ein cymunedau lleiafrifol. Gyda digwyddiadau tebyg i'r hyn ddigwyddodd yn Seland Newydd, mae'r bygythiad o du'r adain dde eithafol i'w weld ar draws y byd a rhaid i ni barhau i gyfleu'r neges fod hiliaeth yn atgas gennym ni yng Nghymru.
"Bydd yr ymrwymiadau ariannu sy'n cael eu rhannu heddiw yn mynd at sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael cefnogaeth a bod Cymru yn genedl noddfa, beth bynnag y bo eu hil neu eu crefydd."