Skip to content

Academi Wyddoniaeth Genedlaethol

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.

Prif rôl yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol (NSA) yw gwella’r ffordd y dysgir gwyddoniaeth yn anffurfiol ledled Cymru.

Mae’n hyrwyddo ac yn cydgysylltu gweithgareddau sy'n atgyfnerthu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM).  

Gwna hynny trwy roi grantiau i ariannu prosiectau.  Mae’r cynllun strategol yn dangos sut ydym am atgyfnerthu pynciau STEM yn well yn y cyfnod hwn.

Dyma enghreifftiau o’r mathau o brosiectau rydym yn eu hariannu:

  • cystadlaethau
  • heriau
  • achrediadau
  • ysgol haf breswyl
  • ymweliadau diwydiannol
  • seminarau
  • gweithdai
  • digwyddiadau lledaenu gwybodaeth
  • gwobrau
  • digwyddiadau CPD
  • labordai teithiol
  • offer labordai
  • ysgolion adolygu
  • apiau adolygu.

Dyma brosiectau y mae’r NSA wedi’u hariannu:

Gellir lawrlwytho manylion y grantiau a roddwyd rhwng 2013 a 2015 yn rhestr y cynllun grantiau.