Skip to content

Diwygio llywodraeth leol

Dolenni perthnasol

Mae'r Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Mark Drakeford wedi pennu ffordd newydd ymlaen i lywodraeth leol yng Nghymru.
Mark Drakeford wedi pennu amserlen ar gyfer sgyrsiau ar ddiwygio llywodraeth leol i gynghorau ddefnyddio i baratoi ar gyfer y dewisiadau caletach sydd o'n blaenau.
Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.

Os yw awdurdodau lleol am fod yn ariannol hyfyw, ac os ydynt am gynnal a gwella ansawdd gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn o gyni, mae diwygio yn hanfodol.

Diwygio llywodraeth leol

Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob unigolyn yng Nghymru. Cynghorau sy'n darparu’r gwasanaethau sy'n addysgu ein plant, edrych ar ôl ein henoed, cael gwared ar ein gwastraff a goleuo ein strydoedd.

Fodd bynnag, mae yna heriau gwirioneddol mewn llywodraeth leol o hyd. Mae mwy i'w wneud eto i sicrhau rhagor o gysondeb a rhagoriaeth, ond mae llai o arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ar hyn o bryd hefyd.

Dull newydd

Y diben wrth ddiwygio llywodraeth leol yw meithrin cydnerthedd a helpu llywodraeth leol i adfywio, fel bod awdurdodau lleol yn fwy cynrychioliadol, darbodus, effeithlon, effeithiol, cydnerth ac integredig.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi cyfarfod ag Arweinwyr a Phrif Weithredwyr pob awdurdod lleol, yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a rhanddeiliaid eraill, i ofyn am eu barn am yr heriau a wynebir a sut y gellir mynd i'r afael â hwy. Yn dilyn y trafodaethau hyn, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad llafar yn y cyfarfod llawn ar 4 Hydref 2016 a oedd yn rhoi cipolwg ar y cynigion cyffredinol ar gyfer y dull newydd, yn seiliedig ar lefelau uwch eto o weithio'n rhanbarthol, yn systematig ac yn orfodol.  

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y cynigion ehangach ar gyfer diwygio a nodwyd yn y Bil Llywodraeth Leol Drafft diwethaf, yn ddibynnol ar drafodaethau pellach a gwaith datblygu gydag awdurdodau lleol:

  • Cadw'r 22 o awdurdodau lleol presennol, yn ddibynnol ar unrhyw uno gwirfoddol, i weithredu fel haen ddemocrataidd lle mae cynghorwyr yn cael eu hethol ac fel porth i bobl gyrraedd at wasanaethau.
  • Ail-gynnig cyfle i awdurdodau uno'n wirfoddol, a fyddai’n cael ei hwyluso drwy gymorth gan Lywodraeth Cymru.
  • Gweithio'n rhanbarthol sy’n fwy systematig ac yn orfodol. Mae systematig yn golygu y byddai swyddogaethau yn cael eu trefnu yn ôl model rhanbarthol cyson ac yn cael eu cyflawni ar y lefel honno.
  • Y posibilrwydd y gallai fod angen ystyried mwy nag un model systematig.  Yn benodol, un yn seiliedig ar y Dinas-ranbarthau yn cynnwys trafnidiaeth strategol, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd; a'r llall, ar sail y Bwrdd Iechyd fwy na thebyg, ar gyfer meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac amddiffyn y cyhoedd.

Beth Nesaf?

Rydym yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i ddod o hyd i ffordd hyfyw o symud ymlaen erbyn dechrau 2017. Byddwn wedi crynhoi sut y dylai'r model ar gyfer gweithio'n rhanbarthol edrych, y swyddogaethau i'w cyflawni drwy weithio'n rhanbarthol a'r trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd perthnasol. Byddwn hefyd yn ystyried sut y dylai'r system gyllido llywodraeth leol gefnogi'r rhaglen newid.

Cwestiynau Cyffredin?

  • Pam mae angen diwygio?

    • Mae heriau gwirioneddol yn parhau mewn llywodraeth leol. Mae mwy i'w wneud eto i sicrhau rhagor o gysondeb a rhagoriaeth, ond bydd llai o arian hefyd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus wrth symud at y dyfodol.
  • Pam mae'r cynigion wedi newid?

    • Arweiniodd y Llywodraeth Cymru flaenorol y ffordd drwy gyflwyno cynigion penodol ar gyfer uno awdurdodau leol. Derbyniwyd na fyddai cytundeb â'r cynigion hynny ar gyfer diwygio strwythurol yn y Cynulliad Cenedlaethol a bod rhaid newid y dull.
    • Er bod cytundeb yn gyffredinol â'r angen i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru, nid oedd consensws ynghylch y cynigion ar gyfer diwygio strwythurol a nodwyd yn y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) Drafft.
  • Beth yw'r trefniadau newydd sy'n cael eu cynnig ar gyfer gweithio'n rhanbarthol?

    • Cynigiwyd lefel uwch o weithio'n rhanbarthol, a fyddai'n systematig ac yn orfodol. Mae systematig yn golygu y byddai swyddogaethau yn cael eu trefnu yn ôl model rhanbarthol cyson, ac mae gorfodol yn golygu y byddai Llywodraeth Cymru yn pennu pa swyddogaethau fyddai'n cael eu cyflawni ar ba lefel.
    • Gallai fod mwy nag un model systematig:
      • un yn seiliedig ar y Dinas-ranbarthau yn cwmpasu trafnidiaeth strategol, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd
      • un arall yn seiliedig ar y Bwrdd Iechyd fwy na thebyg, ar gyfer meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, addysg ac amddiffyn y cyhoedd.
    • Mae llawer o drefniadau rhanbarthol ar waith ledled Cymru, felly nid oes anghytundeb ynglŷn â’r cysyniad o weithio'n rhanbarthol. Mae trefniadau cydweithio wedi'u gwneud eisoes yn achos llawer o wasanaethau pwysig, fel gwella addysg, gwasanaethau cymdeithasol a chaffael gwastraff.
    • Rydyn ni wedi gweld digon o enghreifftiau da lle mae awdurdodau lleol wedi gweithio gyda'i gilydd i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Mae angen inni nawr symud ymlaen hyd nes y bydd hyn yn dod yn arfer cyffredin.
    • Gallai ‘wedi'i gyflenwi'n rhanbarthol' olygu unrhyw beth o gynllunio'n rhanbarthol, drwy gomisiynu gwasanaethau'n rhanbarthol, i gyflenwi'n rhanbarthol (lle'r cytundeb rhanbarthol fydd yn cyfarwyddo sut y bydd gwasanaethau yn cael eu cyflenwi).
  • Pwy fydd yn atebol am gyflenwi gwasanaethau yn unol â'r trefniadau rhanbarthol arfaethedig?

    • Bydd y boblogaeth yn dal i allu cael mynediad at wasanaethau drwy'r awdurdod lleol, ond bydd y gwasanaethau hynny yn cael eu cynllunio ar sail ranbarthol.
    • Mae yna amryw o fodelau llywodraethu posibl ar gyfer y trefniadau rhanbarthol. Mae sicrhau atebolrwydd ar gyfer aelodau, defnyddwyr gwasanaethau a'r boblogaeth yn gyffredinol yn un agwedd y byddwn yn ei hystyried wrth ddatblygu ein cynigion.
  • Sut bydd y system gyllido yn gweithio?

    • Bydd angen newid y system gyllido ar gyfer llywodraeth leol i gefnogi'r diwygio mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried i wneud cynghorau yn fwy cynaliadwy a hunangynhaliol.
    • Yn ôl ymgyngoriadau a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol ar ddiwygio'r system gyllido, mae cefnogaeth eang i ddull o weithredu fesul cam.
  • Sut byddwch yn ymgynghori ac yn ymgysylltu ynglŷn â'r cynigion ar gyfer diwygio?

    • Rydym yn bwriadu ymgysylltu â llywodraeth leol a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu manylion y dull erbyn dechrau 2017.
    • Erbyn hynny rydym yn gobeithio y byddwn wedi crynhoi'r swyddogaethau, y model rhanbarthol a'r trefniadau llywodraethu posibl. Bydd yr ymgynghoriad ffurfiol a gynhelir yn y flwyddyn newydd yn seiliedig ar hyn.
  • Sut bydd uno gwirfoddol yn cael ei roi ar waith?

    • Os yw awdurdodau lleol yn dymuno meithrin mwy o gydnerthedd drwy uno'n wirfoddol, bydd Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi i wneud hynny. Byddwn yn gweithio'n agos gyda hwy a bydd y gefnogaeth yn cael ei theilwra i amgylchiadau penodol cynnig.

Lawrlwytho Dogfen