Skip to content

Y sector twristiaeth

Dolenni perthnasol

Mae twristiaid yn gwario oddeutu £14 miliwn y dydd wrth iddynt ymweld â Chymru, ac mae hynny’n gyfanswm o thua £5.1 biliwn y flwyddyn.
Strategaeth newydd sy’n cyflwyno gweledigaeth lle mae’r diwydiant a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gynyddu gwariant ymwelwyr yng Nghymru.
Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.

Mae twristiaeth yn cyfrannu mwy a mwy i les economaidd a chymdeithasol Cymru.

Mae ganddi ran bwysig i'w chwarae yn y gwaith o ddatblygu hunaniaeth genedlaethol nodedig i Gymru yn y DU ac yn rhyngwladol fel lle i ymweld ag ef a buddsoddi ynddo a lle i wneud busnes.

Mae twristiaeth yn bwysig i Gymru

Mae twristiaeth yn fusnes pwysig yng Nghymru. Mae twristiaid ac ymwelwyr yn gwario dros £13 miliwn yng Nghymru bob dydd.

Mae ein hystadegau’n dangos bod sector twristiaeth Cymru - sy’n sector â blaenoriaeth - yn gyfrifol yn flynyddol am tua £2,844 miliwn o Werth Ychwanegol Crynswth (GYC). Mae'r ystadegau hyn hefyd yn dangos bod tua 122,900 o swyddi yng Nghymru’n dibynnu ar dwristiaeth.

Yn ystod 2014, gwnaed 10.9 miliwn o ymweliadau dros nos â Chymru.

Roedd dros 90% o'r bobl a arhosodd dros nos yng Nghymru yn byw yn y DU, ac roeddynt yn gyfrifol am tua 84% o'r holl wariant twristiaeth dros nos yng Nghymru. Roedd tua 932,000 o’r 10.9 miliwn o ymweliadau dros nos gan ymwelwyr tramor, ac yn 2014 roedd yr ymwelwyr hyn wedi gwario tua £368 miliwn yng Nghymru.

O Weriniaeth Iwerddon, Ffrainc a'r Almaen y daeth y niferoedd mwyaf o dwristiaid tramor i Gymru yn 2014.

Roedd 90 miliwn o ymweliadau undydd â Chymru hefyd yn 2014, a chafodd £2,677 miliwn ei wario yn ystod yr ymweliadau hyn.

Blaenoriaethau allweddol 

Rydyn ni'n gweithio gyda’r Bwrdd Cynghori Twristiaeth i adolygu gwariant cyfredol twristiaeth â gweithgareddau perthnasol sy'n ymwneud â strategaeth dwristiaeth genedlaethol. 

Mae’r strategaeth twristiaeth newydd ar gyfer twristiaeth yng Nghymru, ‘Partneriaeth ar gyfer Twf’, wedi’i anelu at symbylu enillion uwch ym maes twristiaeth er mwyn sicrhau’r manteision gorau posibl i economi Cymru.  Mae’r strategaeth yn cefnogi’r broses o gyflawni’r blaenoriaethau canlynol ar gyfer twristiaeth, a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu:

  • datblygu gweithgareddau twristiaeth a marchnadoedd arbenigol a sicrhau’r manteision gorau posibl o ddigwyddiadau mawr yn ein lleoliadau uchel eu proffil
  • hyrwyddo Cymru fel cyrchfan drwy wneud cynnig twristiaeth o ansawdd uchel
  • gweithio i ymestyn y tymor twristiaeth a’r manteision sydd ynghlwm wrthynt
  • nodi cyfleoedd ariannu i wella’r cynnyrch a’r seilwaith ymwelwyr yng  Nghymru
  • cefnogi’r buddsoddiad mewn hyfforddi a rheoli staff i gefnogi diwydiant twristiaeth o ansawdd uchel.

Blaenoriaethau a'r prif ymrwymiadau

Mae blaenoriaethau a phrif ymrwymiadau twristiaeth, fel y'u nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, fel a ganlyn:

  • datblygu gweithgarwch twristiaeth a marchnadoedd arbenigol, a sicrhau’r fantais orau bosibl o ddigwyddiadau mawr yn ein lleoliadau amlycaf
  • hyrwyddo Cymru fel cyrchfan drwy gynnig cyfleusterau twristiaeth o safon uchel
  • gweithio i ymestyn y tymor ymwelwyr a’r manteision cysylltiedig
  • dod o hyd i gyfleoedd cyllid i wella’r seilwaith a’r cynhyrchion twristiaeth yng Nghymru
  • cefnogi buddsoddiad mewn hyfforddi a rheoli staff i gefnogi diwydiant (twristiaeth) o safon uchel
  • defnyddio technolegau digidol i fynd â Chymru i’r byd a dod â’r byd i Gymru trwy sefydlu porth ar y we ar yr hyn y gall Cymru ei gynnig – o ran twristiaeth, buddsoddiad, cyfleoedd addysgol a diwylliant – i’r byd y tu allan
  • buddsoddi mewn busnes twristiaeth o safon, a marchnata atyniadau ymwelwyr, llety a’r diwydiant bwyd yng Nghymru yn fwy effeithiol
  • gweithio gyda ffederasiynau chwaraeon yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol, i sicrhau bod mwy o brif ddigwyddiadau’r byd chwaraeon yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y dyfodol, gan sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa ar yr uchelgais hon
  • gwella hawliau tramwy i feicwyr a cherddwyr, gan gynnwys deddfwriaeth i sefydlu dyletswyddau i ddarparu llwybrau beicio, a gweithio i gwblhau datblygiad Llwybr Arfordir Cymru
  • datblygu ymhellach safle Sain Ffagan fel atyniad diwylliannol pwysig ac fel porth i Gymru ar gyfer ymwelwyr
  • gweithredu Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw
  • parhau i gynnig mynediad di-dâl i Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymaint o effaith â phosibl.

Lawrlwytho Dogfen