Skip to content
Ymchwil Gymdeithasol

Adolygiad o'r dystiolaeth ar anghydraddoldebau ym maes mynediad at wasanaethau iechyd yng Nghymru

Bookmark and Share
  • Dyddiad rhyddhau: 15 Hydref 2015
Mae'r adolygiad wedi'i seilio ar dystiolaeth sydd wedi'i chyhoeddi yn unig ar anghydraddoldebau yng Nghymru ac yn y DU, ac nid yw'n adolygu'r arferion cyfredol.

Pobl Anabl

Dyddiad rhyddhau: 15 Hydref 2015

Gwnaed yr adroddiad hwn i adolygu anghydraddoldebau, o safbwynt mynediad i wasanaethau gofal iechyd, sy’n gysylltiedig ag anabledd fel un o’r nodweddion gwarchodedig. Mae’r adroddiad hwn felly yn cyflwyno cyfuniad o’r cyfryw dystiolaeth yn seiliedig ar adolygiad cwmpasu o lenyddiaeth gyhoeddedig.

Roedd cwmpas y Gwerthusiad Terfynol yn cynnwys gwerthusiad proses o’r dulliau gweithredu a rheoli a fabwysiadwyd ar y prosiect.

Ar sail rhyw, ailbennu rhywedd ac hunaniaeth rywiol

Dyddiad rhyddhau: 14 Chwefror 2014

Canfyddiadau allweddol
  • Mae mwy o ymchwil sy'n ymwneud ag anghydraddoldebau ym maes mynediad at wasanaethau gofal sylfaenol o'i gymharu ag anghydraddoldebau mewn meysydd eraill.
  • Er bod y cyfraddau o ran ymgynghoriadau yn wahanol ar gyfer menywod a dynion yn y DU - menywod sy'n fwy tebygol na dynion i weld eu meddyg teulu neu nyrs y practis - mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod mân wahaniaethau yn unig yn yr hyn sy'n well gan fenywod a dynion o ran cael mynediad at wasanaethau'r feddygfa neu drefnu apwyntiad.
  • Mae gan bobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol lai o hyder yn eu meddygon teulu na phobl strêt (heterorywiol), ac maent yn adrodd bod yr ymgynghoriadau y maent yn eu cael yn brofiadau gwaeth iddynt.
  • Wrth ymgynghori â phobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, gall gweithwyr iechyd proffesiynol wneud rhagdybiaethau amhriodol weithiau am anghenion iechyd eu cleifion sydd wedi'u seilio ar eu hunaniaeth rywiol.
  • Mae menywod o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o drefnu apwyntiadau hwyr ar gyfer gofal cynenedigol, a gall rhwystrau ieithyddol ymhlith rhai grwpiau amharu ar ddeall cyngor am eu hiechyd.
  • I ddynion ifanc, awgrymwyd y gallai oriau agor clinigau meddygaeth gehedlol-wrinol a gorfod dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus achosi rhwystr rhag cael mynediad at wasanaethau iechyd rhywiol, ar y cyd â phwysau gan gyfoedion a phryderon ynglŷn â chyfrinachedd.
  • Mae pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn adrodd bod gweithwyr iechyd rhywiol yn gwneud rhagdybiaethau amhriodol weithiau am eu hanghenion iechyd rhywiol, ac nad yw risgiau iechyd rhywiol pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol yn cael eu deall yn iawn gan holl weithwyr iechyd proffesiynol.
  • Ar y cyfan, mae dynion yn fwy cadarnhaol na menywod am eu profiad o driniaeth canser: yn enwedig o ran agweddau staff, preifatrwydd, darparu gwybodaeth ddigonol, a chael eu trin ag urddas a pharch.
  • Ni allwn amcangyfrif y nifer o bobl sy'n ystyried eu hun yn drawsryweddol ('Trans'), nac ychwaith y nifer o bobl sydd efallai'n dymuno ailbennu eu rhywedd, ond sydd heb ddechrau'r broses eto.
  • Mae rhai pobl yn profi anawsterau wrth gael meddygon teulu i'w hatgyfeirio i wasanaethau ailbennu rhywedd, ac nid yw rhai meddygon teulu'n ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am brosesau ailbennu rhywedd, neu maent yn gwrthod rhoi'r driniaeth.
  • Mae pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol a phobl drawsryweddol sydd ag anawsterau iechyd meddwl yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi teimlo'n anghyfforddus wrth ddefnyddio gwasanaethau'r prif ffrwd. Mae'r mwyafrif ohonynt yn adrodd bod y rhyngweithio yn y maes hwn yn brofiad negyddol. Mae tua thraean o nifer y bobl drawsryweddol sydd wedi defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yn adrodd eu bod o'r farn nad oedd eu hunaniaeth rywiol wedi'i hystyried o ddifrif, a'i bod yn hytrach yn cael ei hystyried fel symptom o'u salwch meddwl.
Prif argymhelliadau
  • Dylid cynnal adolygiadau tebyg o'r dystiolaeth ar gyfer y nodweddion gwarchodedig eraill sy'n weddill.
  • Dylid cynnal ymchwil i ganfod yr ymyraethau sydd eisoes yn cael eu gweithredu, gan nodi'r astudiaethau achos o arferion da yng Nghymru.

Cyswllt

Ymchwilydd
Ffôn: 0300 025 6539
Ebost: janine.hale@llyw.cymru

Cyfryngau
Ffôn: 0300 025 8099

y wybodaeth ddiweddaraf @ystadegaucymru@ystadegaucymru Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrCofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Rhannu