Skip to content
Ymchwil Economaidd

Gwerthusiad o strategaeth sgiliau sylfaenol Cymru

Bookmark and Share
  • Dyddiad rhyddhau: 23 Mai 2006
Asesodd yr astudiaeth hon y dystiolaeth bresennol ar effaith y gwelliannau mewn sgiliau sylfaenol, ar lefel sy'n angenrheidiol i weithredu a gwneud cynnydd yn y gwaith, ar ganlyniadau'r farchnad lafur a chanlyniadau economaidd-gymdeithasol eraill.

Methodoleg

Adolygiad o’r llyfryddiaeth berthnasol ym maes economeg ac addysg, ynghyd â dadansoddiad o dystiolaeth werthuso a gyhoeddwyd gan adrannau o’r llywodraeth a chyrff perthnasol eraill. Roedd yr adolygiad yn cynnwys tystiolaeth o’r DU a thystiolaeth ryngwladol fel ei gilydd.


Casgliadau

Awgryma’r canlyniadau fod llythrennedd a rhifedd yn gysylltiedig â chanlyniadau economaidd cadarnhaol, gan gynnwys cyflogau uwch a gwell cyfleoedd i gael swydd, hyd yn oed ar ôl cymryd ystod eang o nodweddion i ystyriaeth. Mae’r canlyniadau’n gryfach yn achos rhifedd na llythrennedd – nid yw llawer o astudiaethau yn canfod unrhyw effeithiau yn achos yr olaf.

Mae astudiaeth bwysig ddiweddar yn dod i’r casgliad bod cysylltiad arwyddocaol rhwng sgiliau sylfaenol a thwf economaidd.

Mae sgiliau sylfaenol hefyd yn gysylltiedig ag ystod o ganlyniadau nad ydynt yn rhai economaidd. Er enghraifft, mae unigolion â sgiliau sylfaenol isel yn llai tebygol o gael iechyd da, ac yn fwy tebygol o fod yn isel eu hysbryd ac yn fwy tebygol o gael eu hatal a’u holi neu’u harestio gan yr heddlu yn amlach. Awgryma cymariaethau rhyngwladol fod poblogaeth oedolion y DU yn gymharol wael ei pherfformiad o ran sgiliau sylfaenol, a bod perfformiad Cymru yn is na pherfformiad Lloegr.

Mae yna brinder o astudiaethau o safon uchel yn y DU sy’n astudio effeithiolrwydd cyrsiau sgiliau sylfaenol, yn enwedig o ran gwella canlyniadau fel cyfleoedd i gael gwaith. Mae yna nifer o broblemau gyda’r gwerthusiadau sydd wedi’u cynnal, fel grŵp heb ei reoli, dethol sampl nad yw o bosibl ar hap, samplau bach a defnyddio data goddrychol yn hytrach na gwrthrychol at ei gilydd.

Fodd bynnag, mae nifer o astudiaethau cadarn wedi dod i’r casgliad bod oedolion sy’n mynychu cyrsiau penodol ar gyfer sgiliau sylfaenol wedi bod ar eu hennill o ran llythrennedd er budd mawr iddynt.

Yn yr astudiaeth orau yn y DU, prin oedd y nodweddion cyrsiau a oedd yn gysylltiedig â maint yr enillion o ran sgiliau sylfaenol, ac eithrio enillion a oedd yn arwyddocaol o fwy lle’r oedd gan diwtoriaid statws athrawon cymwys, a lle’r oedd gan diwtoriaid y fantais o gael cynorthwywyr yn yr ystafell addysgu.

Mae llyfryddiaeth helaethach wedi archwilio llwyddiant y rhaglenni i gynyddu sgiliau sylfaenol trwy ddull mwy ansoddol a oedd yn seiliedig ar astudiaethau achos. Awgrymwyd bod ystod o ffactorau yn bwysig i ddysgu sgiliau sylfaenol yn effeithiol, gan gynnwys rhaglenni sydd wedi’u strwythuro’n glir, trafodaeth o gyd-destunau yn y byd go iawn er mwyn cynnal diddordeb, disgwyliadau uchel ar gyfer dysgwyr, defnyddio’r cynllun dysgu ar gyfer pob dysgwr, asesu cyson ac adolygiadau o hynt y dysgu, ac argaeledd achredu.

Er bod sgiliau sylfaenol yn gysylltiedig ag effeithiau economaidd manteisiol, nid yw’n dilyn y bydd gwella sgiliau sylfaenol yn talu ar ei ganfed, gan fod yr unigolion dan sylw yn debygol o wynebu rhwystrau niferus. Pan fo ymchwil wedi’u cynnal i effeithiau lefelau eraill o hyfforddiant, cafwyd bod y manteision economaidd yn lleihau yn sylweddol yn ôl oedran y dysgwyr.

y wybodaeth ddiweddaraf @ystadegaucymru@ystadegaucymru Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrCofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Rhannu