Skip to content
Ystadegau

Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog

Bookmark and Share

Beth i gadw mewn cof wrth ddehongli'r ystadegau hyn

Beth y dylai ei gadw mewn cof am dlodi cymharol?

Sampl fach

Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau o’r Arolwg o Adnoddau Teulu (FRS) â sampl o tua 900 o aelwydydd yng Nghymru. Mae hwn yn sampl eithaf bach, a dyna pam mae tair blynedd neu fwy o ddata wedi’u cyfuno gyda'i gilydd i roi cyfartaleddau symudol aml-flwyddyn. Er enghraifft, mae cyfartaledd tair-blynedd yn gyfartaledd y flwyddyn ddiweddaraf a'r ddwy flynedd flaenorol. Mae hyn yn gostwng (ond nid yn dileu) yr ansefydlogrwydd a geir mewn amcangyfrifon sy’n seiliedig ar un flwyddyn yn unig.

Mae llawer o ffactorau yn gallu sbarduno newid

Mae symudiadau yn y ffigurau hyn yn cael ei yrru gan newidiadau yn yr economi ehangach, y farchnad lafur, y system dreth a budd-daliadau, ac effeithiau cymharol y newidiadau hyn ar wahanol grwpiau. Felly, gan fod nifer fawr o ffactorau cymhleth a rhyngweithiol, mae'n anodd asesu yn union pa rai o’r newidiadau sydd wedi sbarduno symudiadau yn y ffigurau hyn, neu i ragweld sut y gallai pethau newid yn y dyfodol.  

Costau byw gwahanol

Mae tlodi incwm cymharol yn cymharu incwm aelwydydd mewn ardaloedd gwahanol o'r DU yn erbyn cyfartaledd y DU. Fodd bynnag, gan fod costau byw yng Nghymru yn tueddu i fod yn is nac ydynt mewn ardaloedd eraill y DU, efallai bod y ffigurau ar gyfer Cymru yn awgrymu bod safon byw yng Nghymru yn is nag yw mewn gwirionedd.

Nid oes arwyddocâd ystadegol

Nid oes yr un o'r newidiadau dros amser yn y prif ffigurau tlodi incwm cymharol yn ystadegol arwyddocaol. Rydym yn eich cynghori i fod yn ofalus wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, gan fod tueddiadau hirdymor yn aml yn rhoi darlun cliriach.

Hefyd, wrth gymharu amcangyfrifon o dlodi incwm cymharol wahanol grwpiau o bobl, cadwch mewn cof y cyfyngau hyder eang tebygol oherwydd meintiau isel y samplau. Rydym yn gweithio ar fethodoleg i’n galluogi i amcangyfrif y cyfyngau hyder hyn yn y dyfodol.

Talgrynnu data

Mae’r holl ffigurau a ddangosir wedi’u talgrynnu i’r 10 mil agosaf o unigolion neu bwynt canran cyflawn.

Beth y dylai ei gadw mewn cof am dlodi materol?

Cyfres amser byr

Rydym yn cynghori bod data tlodi materol plant yn cael eu trin yn ofalus, gan mai dim ond y bedwaredd flwyddyn i’r ffigurau hyn fod ar gael ar lefel ranbarthol (ar ôl toriad yn y gyfres) yw hon. Mae hyn yn golygu bod y data hwn ond yn uniongyrchol cymharol yn ôl i gyfnod 2010-11 i 2012-13.  

Data cyfnewidiol

Ar gyfer dadansoddiadau rhanbarthol mae’r ffigurau tlodi materol yn gyfartaleddau 3 blynedd, ond, er hynny, gall y data fod yn gyfnewidiol, o ganlyniad i faint samplau bychain. Mae hyn yn arbennig o wir ar lefel is-grwpiau megis y rheiny sydd mewn tlodi materol.

Gwahanol fesurau

Yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) sy’n cyfrifo’r mesur tlodi materol sydd o fewn y datganiad hwn, gan ddefnyddio’r arolwg adnoddau teulu (FRS). Mae'n cyfeirio at anallu hunan-gofnodedig o unigolion neu gartrefi i fforddio nwyddau a gweithgareddau penodol sy'n nodweddiadol mewn cymdeithas ar adeg benodol mewn amser, ni waeth a byddent yn dewis cael yr eitemau hyn, hyd yn oed os gallent eu fforddio.

Gofynnir ymatebwyr a oes ganddynt 21 o nwyddau a gwasanaethau penodol, gan gynnwys eitemau plentyn, oedolyn ac aelwyd. Os nad oes ganddynt y nwydd neu wasanaeth, gofynnir a yw hyn oherwydd nad ydynt eu heisiau neu oherwydd na allant eu fforddio.

Yna, cyfunir gwybodaeth am blant sydd mewn tlodi materol gyda gwybodaeth am incwm yr aelwyd (cyn costau tai), i adrodd ffigurau ar blant mewn tlodi materol ac aelwyd incwm isel.

Mae DWP hefyd yn cyfrifo ffigurau ar gyfer pensiynwyr mewn tlodi materol, ond ni chyfunir y rhain â gwybodaeth ar incwm yr aelwyd.

Y ffynhonnell arall o wybodaeth ar dlodi materol yng Nghymru yw Arolwg Cenedlaethol Cymru. Rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mawrth 2017, roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cyfres o gwestiynau ar amddifadedd materol. Gofynnwyd i oedolion nad ydynt yn bensiynwyr, pensiynwyr a rhieni a oes ganddynt 9, 15, a 10 gwahanol nwyddau neu wasanaethau yn y drefn honno.

Mae'r Mesur Arolwg Cenedlaethol yn defnyddio llawer o'r cwestiynau a ddefnyddir yn yr FRS, ond nid yw gwybodaeth am amddifadedd materol yn cael ei gyfuno gyda gwybodaeth ar incwm ar gyfer unrhyw un o'r grwpiau oedran.

Adroddodd yr Arolwg Cenedlaethol ffigurau ar gyfer oedolion, rhieni a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru.

Yr unig ffigurau cymharol o’r ddwy ffynhonnell yw’r rhai ar gyfer pensiynwyr mewn amddifadedd materol yng Nghymru. Rhesymau posibl dros y gwahaniaeth rhwng ffigurau’r Arolwg Cenedlaethol a’r FRS ar gyfer pensiynwyr yw:

  • Gofynnir pensiynwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol am 15 o nwyddau neu wasanaethau, tra gofynnir pensiynwyr yn yr FRS am 21 o nwyddau a gwasanaethau 
  • Mae’r ffigurau yn cyfeirio at gyfnodau amser ychydig yn wahanol – mae'r ffigurau FRS yn gyfartaledd tair blynedd o 2013-14 i 2015-16 tra bo'r ffigurau Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2016-17 
  • Gwahaniaethau yn y sampl o bensiynwyr a ddewiswyd ar gyfer y ddau arolwg.
  • Mae gan y ddau arolwg ffocws gwahanol o ran eu cynnwys. Mae’r Arolwg Cenedlaethol yn gofyn am amrywiaeth o bynciau gwahanol megis barn pobl ar wasanaethau amrywiol, eu hiechyd a lles a’u gweithgareddau, tra bod y FRS yn arolwg sy'n canolbwyntio ar incwm a beth mae pobl yn gallu eu fforddio.

Ceir mwy o fanylion ar fesur tlodi materol yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn adroddiad ansawdd a methodoleg HBAI (PDF 1.02MB) (dolen allanol).

Am fwy o wybodaeth am sut cyfrifir amddifadedd materol drwy ddefnyddio’r Arolwg Cenedlaethol, cysylltwch â’r tîm arolygon@llyw.cymru.

Beth y dylai ei gadw mewn cof am dlodi parhaus?

Ystadegau arbrofol

Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r Adran Gwaith a Phensiynau cyhoeddi adroddiad Dynameg Incwm yn edrych ar dlodi parhaus ar draws y DU. Mae’r ystadegau hyn yn arbrofol ac nid ydynt wedi'u dynodi fel Ystadegau Gwladol.   

Ffynhonnell wahano

Ffynhonnell yr ystadegau hyn yw’r Arolwg Deall Cymdeithas, mae hyn yn wahanol i adroddiad HBAI sy'n defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu.

Gellir cael mwy o fanylion yn y tudalennau Methodoleg yn yr adran hon.

y wybodaeth ddiweddaraf @ystadegaucymru@ystadegaucymru Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrCofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Rhannu