Skip to content
Ystadegau

Cartrefi islaw'r incwm cyfartalog

Bookmark and Share
  • Dyddiad rhyddhau: 29 Mehefin 2017
  • Cyfnod dan sylw: 1994-95 i 2015-16
Adroddiad blynyddol, a gynhyrchwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), sy'n rhoi cipolwg ar safon byw pobl mewn aelwydydd yn y Deyrnas Unedig.

Tynnwyd y pwyntiau allweddol isod o adroddiad yr Adran Gwaith a Phensiynau o 16 Mawrth 2017, ac o'n dadansoddiad ychwanegol a gyhoeddwyd ar 29 Mehefin 2017.

Cyflwynir mwy o ganfyddiadau o’r data yn y tab 'data'. Gall data ar gyfer Cymru fod yn anwadal oherwydd meintiau bychan y samplau, ac am y rheswm hwn mae data arolygon sawl blwyddyn wedi’u cyfuno i gynhyrchu cyfartaleddau treigl yn yr isod.

Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r ffigurau hyn, a dylid ystyried yr amcangyfrifon diweddaraf ochr yn ochr â phatrymau tymor hir. Mae’r tab 'gwybodaeth gefndir' yn esbonio'r hyn y dylech ei gadw mewn cof wrth ddehongli’r canlyniadau hyn.

Pwyntiau allweddol

Tlodi Incwm Cymharol

Mae person mewn tlodi incwm cymharol pan ei bod yn byw mewn cartref lle’r oedd cyfanswm incwm yr aelwyd o bob ffynhonnell yn llai na 60 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU (fel y rhoddir gan y canolrif).

Gellir mesur tlodi incwm cymharol ar sail cyn neu ar ôl costau tai. Mae'r holl ffigurau yma yn ymwneud â thlodi incwm cymharol ar ôl talu costau tai megis taliadau llog ar forgeisi /rhent, ardrethi dŵr ac yswiriant adeiladau.

  • Roedd 23 y cant o'r holl bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2013-14 a 2015-16 (cyfartaledd dros dair blwyddyn ariannol).
  • Plant yw'r grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol rhwng 2013-14 a 2015-16 (ar 30 y cant) ac mae hyn wedi bod yn wir ers peth amser.
  • Bu'r ffigurau ar gyfer oedolion o oedran gweithio mewn tlodi incwm cymharol yn eithaf cyson yn y blynyddoedd diwethaf, ac ar 23 y cant rhwng 2013-14 a 2015-16.
  • Bu’r cyfartaledd o bensiynwyr yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yn cynyddu am y 3 cyfnod diwethaf (yn cyrraedd 18 y cant rhwng 2013-14 a 2015-16) ond y mae’n parhau dan yr hyn yr oedd yn y cyfnod rhwng canol a diwedd yr 1990au.
Data a ychwanegwyd ym mis Mehefin 2017
  • Yr oedd pobl a oedd yn byw mewn tai cymdeithasol ar rent yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol o’u gymharu â’r rheini oedd yn rhentu’n breifat neu’n perchen-feddianwyr
  • Roedd byw mewn aelwydydd lle nad oedd neb yn gweithio yn cynyddu’r tebygrwydd o fyw mewn tlodi incwm cymharol ar gyfer oedolion o oedran gweithio.
  • Roedd plant a oedd yn byw mewn teuluoedd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na’r rheini a oedd yn byw mewn aelwydydd â chyplau.
  • Yr oedd plant mewn teuluoedd mwy ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol na phlant mewn teuluoedd llai.
  • Yr oedd plant a oedd yn byw mewn aelwydydd lle yr oedd y pen teulu o grŵp ethnig heb fod yn wyn dwywaith yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â’r rhai lle yr oedd y pen teulu o grŵp ethnig gwyn.
  • Roedd byw mewn aelwyd gyda pherson ag anabledd yn gwneud tlodi incwm cymharol yn fwy tebygol ar gyfer plant a phobl o oedran gweithio, ond nid ar gyfer pensiynwyr.

Tlodi Materol

Mae person sy’n byw mewn tlodi materol heb fynediad i nifer penodol o nwyddau a gwasanaethau.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn defnyddio arolwg adnoddau teulu (FRS) i gynhyrchu ffigurau ar gyfer amddifadedd materol:

  • Roedd 14 y cant o blant sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol a chartrefi incwm isel (h.y. gyda chyfanswm incwm aelwyd islaw 70 y cant o incwm aelwyd gyfartalog y DU - cyn tynnu costau tai).
  • Roedd 10 y cant o bensiynwyr sy'n byw yng Nghymru mewn tlodi materol (ni ystyrir incwm i bensiynwyr).
Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru (NSW) hefyd yn darparu ffigurau ar gyfer amddifadedd materol yng Nghymru (heb ystyried incwm).

Yn ôl y ffigurau mwyaf diweddar ar gyfer 2016-17, roedd:
  • 15 y cant o oedolion Cymru mewn amddifadedd materol (mae hyn yn cynnwys pensiynwyr)
  • 5 y cant o bensiynwyr mewn amddifadedd materol  
  • 6 y cant o'r rhieni â phlant oedd mewn amddifadedd materol.  

Mae mwy o drafodaeth am y gwahaniaethau rhwng y ddau fesur ar y tab 'gwybodaeth gefndir'.

Tlodi parhaus (ystadegau arbrofol)

Mae unigolyn mewn tlodi parhaus os yw mewn tlodi incwm cymharol am o leiaf dair allan o bedair blynedd olynol.

  • Ar ôl talu costau tai, roedd gan unigolyn yng Nghymru risg 12 y cant o fod mewn tlodi parhaus rhwng 2011 a 2015.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi ymchwil pellach (dolen allanol) ynglyn â thlodi parhaol – gan gymharu cyfraddau yn y DU gyda chyfraddau yn yr UE.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau
Ffôn: 0300 025 8099

y wybodaeth ddiweddaraf @ystadegaucymru@ystadegaucymru Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrCofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Rhannu