Skip to content
Ystadegau

Economi Cymru: mewn rhifau

Bookmark and Share
Cyflogaeth
Mae gwaith yn yrrwr allweddol o lwyddiant economaidd a lles i unigolion a ranbarthau.  Mae’r cyfradd cyflogaeth ac enillion cyfartalog yn adlewyrchu effaith gwaith ar pobl yng Nghymru.
  • Cyfradd cyflogaeth

    Cyfradd cyflogaeth pobl 16-64 oed yng Nghymru a rhanbarthau cymharydd.
    Safle yn y DU
    9
    12 rhanbarth a gwlad y DU
    Cyfradd Cymru
    71.2
    Newid gyfradd ar ôl blwyddyn
    1.0
    Pwyntiau canran

    Beth ydyw?

    Er bod y gyfradd diweithdra a’r gyfradd anweithgarwch yn fesurau pwysig, y gyfradd cyflogaeth sy’n rhoi’r crynodeb cyffredinol gorau o amodau’r farchnad waith, ac mae’n mesur pob unigolyn 16-64 oed sy’n cael eu cyflogi fel canran o’r boblogaeth 16-64 oed.

    Y sefyllfa bresennol

    Mae’r gyfradd cyflogaeth gyfredol yng Nghymru yn 71.2 y cant sy’n golygu bod dros 1.4 miliwn o’r boblogaeth 16-64 oed sy’n byw yng Nghymru wedi’u cyflogi. Mae’r gyfradd hon yn uwch nag yng Ngogledd Iwerddon, Gogledd-ddwyrain Lloegr, a Gorllewin Canolbarth Lloegr, ond yn is na’r 8 rhanbarthau a gwledydd eraill.

    Y duedd tymor byr

    Mae'r gyfradd cyflogaeth wedi cynyddu yn y flwyddyn ddiwethaf, a 1.0 pwynt canran yn uwch o'i gymharu â blwyddyn yn ôl, mae'r cynnydd yn ail mwyaf o'r 12 gwlad yn y DU a rhanbarthau Lloegr. Roedd gan Ddwyrain Lloegr y gostyngiad mwyaf dros y flwyddyn (i lawr 0.6 pwynt canran) wedi'i ddilyn gan y De Orllewin a'r Alban (i lawr 0.4 pwynt canran ac 0.1 pwynt canran yn y drefn honno).

    Y duedd tymor hir

    Roedd y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru yn y flwyddyn yn diweddu 31 Rhagfyr 2016 oedd 2.0 pwynt canran yn uwch na'r gyfradd yn 2004. Cynyddodd y gyfradd yn 9 o’r 12 o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, gyda chynnydd o 1.4 pwynt canran ar draws y DU. Roedd y cynnydd mwyaf oedd yn Llundain, ac yna Gogledd Iwerddon a Gogledd-ddwyrain.

    Cyn bod data cyflogaeth APS cadarn ar gael yn 2004, mae data llai dibynadwy o ffynonellau eraill yn awgrymu bod y bwlch mewn cyfraddau cyflogaeth rhwng Cymru a’r DU yn fwy ar y cyfan yn y 1990au nag yn y cyfnod ers datganoli. Roedd y gyfradd cyflogaeth wedi sefydlogi ar lefel o tua 69 y cant ers canol y 2000au tan y dirywiad yn 2008/09, cyn gostwng yn is na 67 y cant yn 2009 ac arhosodd o dan y lefel honno tan ganol 2012. Yna bu cynnydd yn y gyfradd cyflogaeth tan 2014, lle mae'r gyfradd wedi aros yn weddol sefydlog ar tua 69.5 y cant. Mae’r gyfradd wedi cynyddu eto, a’r  cyfradd o 71.2 y cant ar gyfer y flwyddyn yn gorffen 31 Rhagfyr 2016.

    Mae’r duedd a welwyd yng Nghymru’n debyg i duedd cyffredinol y DU, gyda’r bwlch yn lleihau rhywfaint dros amser. Profodd pob gwlad a rhanbarth ostyngiad yn y gyfradd cyflogaeth tua 2008 wrth i afael y dirwasgiad dynhau. Mae’r gyfradd cyflogaeth ym mhob gwlad a rhanbarth yn awr wedi dychwelyd i’r cyfraddau a welwyd cyn y dirwasgiad neu yn uwch, gyda chyfraddau’n codi ychydig yn gyflymach mewn rhai nag mewn eraill.

    Nodiadau:

    Mae’r siart yn dangos cyfres amser ar gyfer Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a’r DU; ac ar gyfer uchaf ac isaf rhanbarthau Lloegr.

    Daw’r data a gyflwynir o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (APS). Mae data swyddogol ar y farchnad lafur ar gael hefyd yn yr Arolwg o’r Llafurlu, sy’n ffynhonnell fwy amserol ar gyfer data tymor byr. Mae data APS yn elwa drwy gael sampl mwy ac amcangyfrifon mwy dibynadwy, sy’n rhoi data mwy cywir i ddadansoddi adegau penodol mewn amser a thueddiadau tymor canolig/hwy.

    Bydd y diweddariad nesaf, data ar gyfer y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Mawrth 2017, yn cynnwys yr ail-bwysoli blynyddol sy’n cymryd i ystyriaeth yr amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf. Bydd Economi Cymru mewn rhifau yn cael ei ddiweddaru maes o law.

  • Enillion llawn amser wythnosol

    Enillion wythnosol gros canolrifol ar gyfer pobl sy’n gweithio’n amser llawn yng Nghymru a rhanbarthau cymharydd fel cyfran o’r DU
    Safle yn y DU
    11
    12 rhanbarth a gwlad y DU
    Cymru:DU
    91.4
    DU = 100
    Newid yng Nghymru:DU ar y flwyddyn
    0.6
    Pwyntiau canran

    Beth ydyw?

    Mae gwaith yn brif ysgogwr ar gyfer ffyniant economaidd a lles i unigolion ac ardaloedd. Y mesur safonol i gymharu enillion o waith yw drwy gymharu enillion llawn amser wythnosol cyfartalog (canolrifol). Mae hyn yn edrych ar enillion cyn didyniadau ac mae’n cynnwys pobl sy’n gweithio mwy na 30 awr yr wythnos (neu 25 i rai sy’n dysgu).  

    Y Sefyllfa bresennol

    Yn 2016, roedd enillion llawn amser wythnosol cyfartalog pobl sy’n gweithio yng Nghymru yn £492. Roedd enillion yn Cymru yr ail isaf o holl 12 rhanbarthau a gwledydd y DU.

    Y duedd tymor hir

    Gwelodd Cymru’r chweched cynnydd canrannol mwyaf mewn enillion wythnosol gros canolrifol o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr rhwng 1999 a 2016, cynnydd o 55.4 y cant o’i gymharu â chynnydd canrannol o 55.9 ledled y DU. Roedd y cynnydd mwyaf yn yr Alban, yna Gogledd Iwerddon, gyda’r cynnydd lleiaf yn Dwyrain Canolbarth Lloegr a Dwyrain Lloegr.

    Mae newidiadau mewn enillion wythnosol cyfartalog wedi cyd-fynd â chyfartaledd y DU dros amser.

    Ers datganoli, mae’r enillion wythnosol cyfartalog yng Nghymru wedi bod tua 90% o gyfartaledd y DU. Roedd y bwlch mwyaf rhwng Cymru a’r DU yn 2008 pan oedd yr economi mewn dirwasgiad. Mae’r duedd a welwyd yng Nghymru’n nodweddiadol o’r duedd yn y rhan fwyaf o’r rhanbarthau a gwledydd eraill, er eu bod ar lefelau gwahanol.

    Mae cyflogau yn Llundain a De Ddwyrain Lloegr yn gymaint yn uwch na chyfartaledd y DU fel bod yr enillion cyfartalog ym mhob un o’r 10 rhanbarth arall yn is na chyfartaledd y DU yn 2016.

    Nodiadau:

    Mae’r siart yn dangos cyfres amser ar gyfer Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ar DU; ac ar gyfer y ddau uchaf; a’r isaf, Rhanbarthau Lloegr.

    Dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi’r gyfres amser gan fod tri bwlch yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) o ganlyniad i newidiadau yn y fethodoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer yr ASHE.

    Yn 2004 cafodd gwybodaeth atodol ei chynnwys yn yr ASHE am y tro cyntaf; yn 2006 cafodd data gan ymatebwyr â ‘threfniadau arbennig’ ei drin fel haen ychwanegol a chafodd galwedigaethau eu codio drwy ddefnyddio offeryn codio awtomatig; ac yn 2011 cafodd Dosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2000 (SOC 2000) ei ddisodli gan Ddosbarthiad Galwedigaethol Safonol 2010 (SOC 2010).

y wybodaeth ddiweddaraf @ystadegaucymru@ystadegaucymru Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrCofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Rhannu