Skip to content
Ystadegau

Economi Cymru: mewn rhifau

Bookmark and Share
Tlodi a Chyfoeth
Mae sefyllfa economaidd pobl Cymru yn cynnwys eu cyfoeth a dosbarthiad incwm, yn enwedig yr effaith ar dlodi.
  • Cyfradd tlodi

    Cyfradd tlodi yng Nghymru a rhanbarthau a gwledydd cymharydd, ar ôl costau tai, cyfartaleddau treigl 3 blynedd.
    Safle yn y DU
    10
    12 rhanbarth a gwlad y DU
    Cyfradd Cymru
    23%
    Newid gyfradd ar ôl blwyddyn
    0
    Pwyntiau canran

    Beth ydyw?

    Mae’r gyfradd tlodi’n dangos cyfran y boblogaeth sy’n byw ar incwm isel. Mae’r gyfradd tlodi yn fesur cymharol a dyma ganran yr unigolion sy’n byw mewn aelwydydd ar lai na 60 y cant o incwm canolrifol y DU, ar ôl costau tai.

    Y sefyllfa bresennol

    Ar hyn o bryd, mae 23 y cant o’r holl unigolion yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a ddiffinnir fel cael incwm sy’n is na 60 y cant o incwm canolrifol y DU. Mae’r gyfradd hon yn is nag yn Llundain ac yr un faint ag yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond mae’n uwch na 9 rhanbarth a gwlad arall y DU.

    Y duedd tymor hir

    Mae cyfraddau tlodi yng Nghymru wedi bod yn uwch ar y cyfan na chyfartaledd y DU er 99 to 2001-02, ond maent wedi dilyn yr un duedd, ar i lawr rhywfaint fel yn achos cyfradd y DU.

    Mae gan bob rhanbarth arall gyfradd tlodi sydd o fewn 5 pwynt canrannol i’w gilydd, ac yn y cyfnod rhwng 1998-99 a 2014-15 gwelwyd y gyfradd tlodi yng Nghymru yn gostwng 2 bwynt canran. Hwn oedd yr seithfed gostyngiad mwyaf o holl ranbarthau a gwledydd y DU gyda’r mwyaf ohonynt yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr (7 pwynt canran), ac yna’r Alban (6 phwynt canran). Gwelodd pob rhanbarth a gwlad arall ostyngiadau canrannol rhwng 1 a 4.

    Nodiadau:

    Mae’r siart yn dangos cyfres amser ar gyfer Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ar DU; ac ar gyfer y ddau uchaf; a’r isaf, Rhanbarthau Lloegr.

    Oherwydd maint bychan y sampl yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu, defnyddir cyfartaledd treigl 3 blynedd i wneud yr ystadegau’n fwy dibynadwy.

    Mae rhai cyfyngiadau wrth ddefnyddio’r dull incwm canolrifol i fesur tlodi. Er mai’r mesur o 60 y cant o incwm canolrifol yw’r un safonol yn yr UE, mae’n dorbwynt mympwyol; mae’n ystyried incwm yn unig; a chymerir y mesur ar ôl i fudd-daliadau cymdeithasol gael eu dosbarthu.

    Mae mesur y gyfradd tlodi fel hyn hefyd yn cynnwys yr unigolion hynny sydd mewn ‘tlodi dros dro’, h.y. lle mae unigolion ar incwm isel ar ryw adeg, sy'n wahanol i lefel arferol eu hincwm (er enghraifft, pobl sydd rhwng swyddi). Mae cyfradd tlodi gyson, h.y. pan fydd unigolion ar incwm isel yn gyson yn is na’r gyfradd a ddangosir yma.

    Diwygiwyd y ffigurau hyn ar 5 Gorffennaf 2016 oherwydd newid yn y dull a ddefnyddir i addasu ffigurau incwm cartrefi ar gyfer chwyddiant. Mae'r dull newydd yn defnyddio mynegai prisiau defnyddwyr (CPI) yn lle mynegai prisiau manwerthu (RPI). Lle'r oedd hyn wedi arwain at newid yn y ffigur crwn, mae hyn wedi'i farcio yn unol â hynny.

  • Cyfanswm cyfoeth cyfartalog aelwydydd

    Cyfanswm cyfoeth cyfartalog (canolrifol) aelwydydd yng Nghymru a rhanbarthau a gwledydd cymharydd, cyfartaleddau 2 flynedd.
    Safle Prydain Fawr
    5
    11 rhanbarth a gwlad Prydain
    Cymru:Prydain
    95.2
    Prydain=100
    Newid yng Nghymru :Prydain ar y flwyddyn
    +0.8
    Pwyntiau canran

    Beth ydyw?

    Mae lles materol unigolion yn adlewyrchu nid yn unig eu hincwm a’u cyflogaeth ond eu cyfoeth hefyd. Mae cyfanswm cyfoeth cyfartalog (canolrifol) aelwydydd yn mesur cyfoeth eiddo, cyfoeth ffisegol (e.e. cynnwys aelwydydd), cyfoeth ariannol a chyfoeth pensiynau preifat.

    Y sefyllfa bresennol

    Mae cyfanswm cyfoeth cyfartalog aelwydydd yng Nghymru ar hyn o bryd yn £214,200. Mae hyn yn 95.2 y cant o gyfartaledd Prydain, ac yn fwy na 6 rhanbarth neu wlad arall, ond yn is na De-Ddwyrain Lloegr, De-orllewin Lloegr, Dwyrain Lloegr a Llundain.

    Y duedd tymor hir

    Mae cryn anghyfartaledd rhwng cyfanswm cyfoeth cyfartalog aelwydydd gwahanol ranbarthau a gwledydd Prydain, gyda’r aelwyd gyfartalog yn Ne Ddwyrain Lloegr â bron dwywaith yn fwy o gyfoeth nag aelwyd gyfartalog yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr.

    Er 2006/08 bu cynnydd o 7.6 y cant mewn cyfoeth yng Nghymru a dyma oedd y seithfed cynnydd mwyaf o’r 11 rhanbarth a gwlad ym Mhrydain. Roedd y cynnydd mwyaf yn Llundain (47.0 y cant) a’r gostyngiad mwyaf yn Ngogledd-ddwyrain Lloegr (5.5 y cant).

    Mae cyfanswm cyfoeth cyfartalog aelwydydd yng Nghymru wedi bod yn agos at y cyfartaledd ar gyfer Prydain drwy gydol y gyfres amser, gan ddechrau ychydig yn uwch na chyfradd Prydain yn 2006-08, cyn gostwng fymryn yn is na chyfartaledd Prydain yn y cyfnodau wedi hynny.

    Mae tueddiadau yn rhanbarthau a gwledydd Prydain wedi dangos peth amrywiad. Mae cyfoeth cyfartalog fel cyfran o gyfartaledd Prydain wedi cynyddu’n sylweddol yn Llundain yn ystod y gyfres amser, ond bu gostyngiadau yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr a Gorllewin Canolbarth Lloegr. Mae pob rhanbarth a gwlad arall (gan gynnwys Cymru) wedi dangos newidiadau bach dros amser.

    Nodiadau:

    Mae’r siart yn dangos cyfres amser ar gyfer Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ar DU; ac ar gyfer y ddau uchaf; a’r isaf, Rhanbarthau Lloegr.

    Gyda dim ond 4 phwynt data yn y gyfres amser, dylid bod trin casgliadau am dueddiadau tymor hwy yn ofalus.

y wybodaeth ddiweddaraf @ystadegaucymru@ystadegaucymru Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrCofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr
Rhannu