Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ni ddylai unrhyw gyllid na phenderfyniadau buddsoddi rhanbarthol gael eu dwyn allan o ddwylo Cymru ar ôl Brexit - Prif Weinidog Cymru

Mae Brexit yn gyfle i hybu datblygu economaidd, lleihau biwrocratiaeth a chefnogi'n cymunedau tlotaf yn wyneb cyni Llywodraeth y DU - os bydd yn cael ei wneud yn iawn, bydd y Prif Weinidog, Carwyn Jones yn dweud heddiw.
Dydd Iau 14 Rhagfyr 2017

Wrth lansio papur diweddaraf Llywodraeth Cymru ar Brexit, bydd y Prif Weinidog hefyd yn rhybuddio Llywodraeth y DU rhag defnyddio ymadael â'r UE fel cyfle i fynd ag arian a phenderfyniadau cyllido allan o ddwylo Cymru.

Mae'r papur Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit yn cynnig ffordd newydd, symlach a llai biwrocrataidd o gefnogi cymunedau Cymru ac ysgogi datblygu economaidd.

Mae'n galw ar Lywodraeth y DU i roi arian ychwanegol i gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru yn lle bob ceiniog o'r £370m y mae Cymru'n ei dderbyn oddi wrth yr UE bob blwyddyn.

Mae'r papur yn gwrthod y syniad am Gronfa Ffyniant y DU dan reolaeth San Steffan, ac yn galw am barhau i wneud penderfyniadau buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Ymysg y cynigion mae'r canlynol:

  • symleiddio rheolau, gweinyddiaeth a systemau ar gyfer cronfeydd buddsoddi rhanbarthol
  • datblygu cynlluniau ar gyfer rhanbarthau Cymru dan arweiniad partneriaethau sy'n cynnwys awdurdodau lleol, busnesau a chymunedau'r ardaloedd hynny
  • canolbwyntio buddsoddi rhanbarthol ar ardaloedd lle mae ei angen ac yn unol â Chynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru. 
  • cynnal y gallu i ddarparu cymorth gwladwriaethol i fusnesau
  • pedair llywodraeth genedlaethol y DU yn cytuno ar reolau cymorth rhanbarthol er mwyn osgoi ras i'r gwaelod a allai niweidio cymunedau
  • creu Cyngor Gweinidogion Economaidd o bob un o'r pedair gwlad er mwyn cydlynu polisïau ar draws y DU.

Dywedodd y Prif Weinidog:

“Mae degawdau o bartneriaeth Cymru â'r Undeb Ewropeaidd yn gadael etifeddiaeth y gallwn ddatblygu ein dyfodol economaidd arni.

"Fodd bynnag, roedd y bleidlais i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd hefyd yn alwad am newid, felly rydyn ni'n cynnig ffordd ymlaen ar gyfer buddsoddi rhanbarthol ar sail gwybodaeth leol, gan gael gwared â biwrocratiaeth ddiangen a chanolbwyntio ar anghenion busnesau a chymunedau.

"Ffordd ymlaen sy'n gwella'n ffyrdd a'n rheilffyrdd, gwella rhwydweithiau band eang, rhoi sgiliau sydd eu hangen ar bobl, hybu entrepreneuriaeth a hyrwyddo arloesi er mwyn cefnogi twf economaidd ar draws Cymru. 

"Pobl Cymru sydd yn y lle gorau i wneud y penderfyniadau hynny a chreu system newydd ar gyfer y dyfodol. Ni sydd â'r wybodaeth leol, y bobl a'r rhwydweithiau i gyflawni hyn. Byddai unrhyw ymgais i symud at system lle gall swyddogion anetholedig yn Whitehall roi feto ar fuddsoddiad sydd dirfawr ei angen yn ein cymunedau lleol yn gwbl annerbyniol, ac yn bradychu egwyddor datganoli. 

"Ni fyddwn yn fodlon goddef colli unrhyw gyllid o ganlyniad i Brexit chwaith. Yn ystod ymgyrch y refferendwm, cafwyd addewid na fyddai Cymru geiniog ar ei cholled o ymadael â'r UE. Rhaid i'r addewid hwn gael ei anrhydeddu, neu bydd pobl Cymru wedi cael eu camarwain."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Prif Weinidog Cymru 14 Rhagfyr 2017 Brexit Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ionawr 2018
Ll M M I G S S
<< Rha    
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31        
I'n dilyn ni trowch i