Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Gwaith un o arlunwyr bywyd gwyllt gorau Prydain yn cael ei ddiogelu yng Nghymru

Gwaith gan deulu byd-enwog o arlunwyr, archeolegwyr ac ysgrifenwyr, a hefyd rai o ddarnau gwaith gorau un o arlunwyr bywyd gwyllt mwyaf poblogaidd Prydain yw dau o’r casgliadau sy’n cael eu diogelu eleni gan Lywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol.
Dydd Gwener 19 Ionawr 2018

Mae darluniau pensaernïol Colwyn Foulkes, o’r enw Adeiladau Anghofiedig, yn ymuno ag archifau Collingwood a Charles Tunnicliffe ac mae’n cynnwys darluniau o fanciau, elusennau, cartrefi plant a sinemâu. Byddant yn cael eu diogelu ar gyfer y dyfodol ym Mhrifysgol Caerdydd, Oriel Môn a chan Gwasanaeth Archifau Conwy.

Rhoddwyd bron £35,000 i’r Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu eitemau na all y cyhoedd eu gweld ar hyn o bryd gan eu bod yn rhy fregus, ac i sicrhau y byddant ar gael i fyfyrwyr, ymchwilwyr a’r cyhoedd yn gyffredinol.  

Dywedodd Dafydd Elis Thomas, y Gweinidog Twristiaeth:

“Ers 2008, mae’r bartneriaeth hon wedi sicrhau bod casgliadau anghofiedig, ond gwirioneddol anhygoel, ar gael rŵan i bawb eu gweld. Ac unwaith eto eleni rydym wedi diogelu gwaith rhai o unigolion a grwpiau mwyaf gwerthfawr Prydain. 

“Rwy’n ddiolchgar i ymddiriedolwyr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Llawysgrifau Cenedlaethol am eu cefnogaeth barhaus i brosiectau cadwraeth yng Nghymru, a dw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu i ddiogelu trysorau hanesyddol a diwydiannol fel y rheiny."

Ar ôl sicrhau eu bod mewn cyflwr sefydlog, bydd modd eu hastudio, eu trin, a gwneud copïau digidol ohonynt er mwyn inni i gyd eu gweld ar-lein. 

Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth: 

“Rydyn ni wrth ein bodd o allu diogelu tri chasgliad pwysig, gwahanol iawn, diolch i’n partneriaeth lwyddiannus, barhaus ag Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru."

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Diwylliant, twristiaeth a chwaraeon 19 Ionawr 2018 Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Chwefror 2018
Ll M M I G S S
<< Ion    
      1 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28        
I'n dilyn ni trowch i