Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Journey’s End yn cyrraedd Cymru ar gyfer y dangosiad cyntaf

Bydd Journey’s End, ffilm deimladwy o Gymru sy’n seiliedig ar y ddrama glasurol gan  R. C. Sherriff, yn cael ei dangos am y tro cyntaf heddiw mewn dangosiad arbennig gan Sgrîn Cymru / BAFTA Cymru yng Nghaerdydd.  
Dydd Iau 23 Tachwedd 2017

Yn cynnwys yr actorion sy’n adnabyddus ledled y byd, Sam Claflin, Paul Bettany, Toby Jones ac Asa Butterfield, ac wedi’i gosod yn 1918 ar y ffrynt yn y ffosydd, mae’r ffilm wedi ei dangos eisoes yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Toronto ac yng Ngŵyl Ffilm BFI Llundain, ymysg eraill, ond dyma fydd y tro cyntaf iddi gael ei dangos yng Nghymru.

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr Economi:

“Mae’n wych gweld Journey’s End yn cael ei dangos yma yng Nghymru, sy’n hynod amserol wrth inni nodi canmlwyddiant diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.

“Dwi’n falch iawn o fod wedi cefnogi cynhyrchiad safonol arall yng Nghymru, gan hybu economïau rhanbarthol a swyddi lleol tra’n hyrwyddo Cymru fel lle gwych i weithio ynddi, ymweld â hi a ffilmio ynddi.

“Mae’r ffilm yn adlewyrchu yr hyn fu eisoes yn flwyddyn hynod brysur a llwyddiannus i Sgrîn Cymru a thîm ein Sector Creadigol, gyda dros £41 miliwn wedi’i wario ar gynhyrchu yng Nghymru – sy’n dystiolaeth o’r sgiliau sydd gennym ar garreg ein drws, a statws Cymru bellach o fewn y Sector.”  

Meddai yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas, y Gweinidog Diwylliant:  

“Mae Cymru yn parhau i wneud yn llawer gwell na’r disgwyl ym maes cynhyrchu teledu a ffilm o safon uchel.  


“Mae Cymru wedi dod yn fwy poblogaidd yn ddiweddar i ddarparu dramâu a ffilmiau o’r safon uchaf un, gyda Sherlock, Doctor Who, Da Vinci’s Demons a Born to Kill, ymysg eraill, wedi eu gwneud yma yng Nghymru.  


“Dwi’n falch o ddweud, heddiw, ein bod yn gallu ychwanegu Journey’s End at y rhestr honno, ac yn edrych ymlaen at ei gweld yn y sinemâu  ym mis Chwefror.”  


Trwy ddangos y ffilm heno, bydd aelodau BAFTA a gwahoddedigion yn cael y cyfle i weld y ffilm cyn ei rhyddhau, meddai Hannah Raybould, Cyfarwyddwr BAFTA Cymru:

“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at ddangos y ffilm newydd hon a gafodd ei ffilmio ar leoliad ac yn Pinewood Studios yng Nghymru, oedd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr o brifysgolion lleol.  Mae hyn yn cyd-fynd yn berffaith â’n hysbryd o ddathlu cynnwys o Gymru.  Bydd yn ben llanw blwyddyn o ddigwyddiadau i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddoniau creadigol sydd â diddordeb gweithio yn y diwydiant ffilm a theledu yma yng Nghymru.” 

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Busnes a'r economi 23 Tachwedd 2017 Y De-ddwyrain
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ionawr 2018
Ll M M I G S S
<< Rha    
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31        
I'n dilyn ni trowch i