Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Nodyn siarad: prif araith Fforwm Polisïau Cymru

Prif araith Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn nigwyddiad ynni Fforwm Polisi i Gymru ar 7 Rhagfyr 2017.
Dydd Mercher 20 Rhagfyr 2017

Bore da: Mae’n bleser bod yma heddiw ar gyfer digwyddiad ynni Fforwm Polisïau Cymru.

Roedd 2016 yn flwyddyn bwysig ar gyfer ynni yma yng Nghymru. Fe wnaethom gynhyrchu ddwywaith yn fwy o drydan nag y gwnaethon ni ei ddefnyddio, ac fe wnaethon ni gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i ddarparu 43% o’n trydan. Mae Sir y Fflint yn gartref i brosiect ynni haul mwyaf y DU, ac mae gennym brosiect Pen y Cymoedd, y prosiect ynni gwynt mwyaf yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r Strategaeth Genedlaethol, Ffyniant i Bawb yn gosod y sylfaen ar gyfer gwella bywydau pobl Cymru. Mae defnyddio ynni glân i ddiwallu ein hanghenion yn rhan hanfodol o ddyfodol llewyrchus a charbon isel diogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i leihau allyriadau carbon Cymru o leiaf 80% erbyn 2050. Rydym yn bwriadu defnyddio adnoddau naturiol Cymru i ddatgarboneiddio ein cyflenwad trydan. Hefyd, mae angen i ni sicrhau gwerth am arian o’n buddsoddiad mewn ynni a sicrhau manteision ynni glân a doethach ar gyfer Cymru.

Yng Nghynhadledd Partïon y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (COP23) yn Bonn fis diwethaf, fe aeth Cymru ati unwaith eto i arddangos ein hagwedd arloesol at ddatgarboneiddio. Bydd Cytundeb Paris yn cael ei roi ar waith ar lefel Wladwriaethol a Rhanbarthol, ac rydym yn gweithio gyda gwledydd a rhanbarthau eraill i rannu gwybodaeth ac arbenigedd ym maes newid ynni.

Er gwaethaf y consensws rhyngwladol ar gyfer gweithredu, mae diffyg cymorth hirdymor Llywodraeth y DU ar gyfer ynni glân yn tanseilio hyder buddsoddwyr. Er mwyn cyrraedd ein targedau carbon mae’n rhaid i ni gydweithio ledled y DU i greu’r amgylchedd polisi priodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymrwymo i’r uchelgais a nodwyd yn Ynni Cymru. Fe wnaeth fy natganiad ym mis Rhagfyr y llynedd ddisgrifio’r fframwaith rydym yn ei sefydlu i hwyluso’r newid i economi carbon isel a sicrhau ein bod yn manteisio arni. Roedd yn nodi ein bod yn disgwyl i ynni niwclear ac ynni adnewyddadwy fod yn rhan o’r newid hwn.

Heddiw rwy’n nodi rhai enghreifftiau o’r cynnydd rydym wedi’i wneud tuag at gyflwyno’r fframwaith a bodloni’r tair blaenoriaeth a nodais yn fy natganiad ddiwedd y llynedd.

Yn gyntaf, y fframwaith polisi.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau amrywiol ledled Cymru, y DU a thramor er mwyn datblygu’r sylfaen dystiolaeth i lywio llwybrau datgarboneiddio i Gymru. Bydd yr adnodd Carboniadur 2050 yn ein helpu i integreiddio cynigion polisi ledled y Llywodraeth.

Yn ddiweddarach y mis hwn, rwy’n disgwyl derbyn cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd ynglŷn â’n targedau dros dro a’n cyllidebau carbon. Bydd y sylfaen dystiolaeth hon yn llywio ein targedau dros dro a’r ddwy gyllideb garbon gyntaf. Byddwn ni’n cyhoeddi’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel yn gynnar yn 2019.

Er mwyn rhoi camau datgarboneiddio ar waith, mae angen fframwaith strategol arnom i sicrhau bod datblygiadau ynni addas yn mynd i’r ardaloedd priodol yng Nghymru. Bydd y gwaith o sefydlu ein Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn allweddol i hyn. Rwy’n disgwyl y bydd datgarboneiddio yn un o themâu pwysicaf y Ffamwaith Datblygu Cenedlaethol.

Mae’n rhaid i ni echdynnu llai o danwydd ffosil er mwyn creu ynni glân. Mae gennym fframwaith cynllunio rhagofalus eisoes i gefnogi hyn. Rydym wedi cyhoeddi dau gyfarwyddyd hysbysu yn ymwneud ag echdynnu nwy ac olew anghonfensiynol. Bydd swyddogaethau trwyddedu olew a nwy yn cael eu trosglwyddo’n ffurfiol i Weinidogion Cymru ym mis Hydref y flwyddyn nesaf, ac rydym yn ystyried sut mae’r pwerau hyn yn gallu helpu i symud datgarboneiddio ymlaen.

Rydw i eisoes wedi dechrau adolygiad o ‘Polisi Cynllunio Cymru’ i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â’n nodau llesiant a’n hagenda ddatgarboneiddio. Rwy’n bwriadu cryfhau polisi cynllunio ym maes echdynnu tanwydd ffosil a byddaf yn ymgynghori ar newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru ddechrau flwyddyn nesaf.

Rydym yn datblygu cyfundrefn ganiatâd effeithiol ar gyfer Cymru wrth i ni dderbyn pwerau i ganiatáu datblygiadau hyd at 350MW. Bydd angen sicrhau bod y trefniadau hyn yn darparu lefel gwasanaeth uwch i ddatblygwyr ac yn cryfhau rôl cymunedau lleol. Byddaf yn cyhoeddi fy nghynigion manwl mewn ymgynghoriad y flwyddyn nesaf.

Mae’r ddau gais cyntaf o dan y fframwaith Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol yn cael eu harchwilio gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac rydym yn disgwyl penderfyniadau yn fuan flwyddyn nesaf.  

Byddwn ni’n gwneud newidiadau i ofynion cynllunio ar gyfer ynni adnewyddadwy graddfa fach, risg isel trwy gynnal adolygiad cynhwysfawr o Hawliau Datblygu a Ganiateir, unwaith eto flwyddyn nesaf.

Mae ein Polisi Adnoddau Naturiol yn gosod y fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Un o dair blaenoriaeth allweddol y polisi yw cynyddu lefelau ynni adnewyddadwy.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn datblygu Datganiadau Ardal ar adnoddau naturiol, a fydd yn darparu tystiolaeth am adnoddau adnewyddadwy Cymru ac ymhle y mae’n briodol manteisio arnynt a helpu i lywio Cynlluniau Datblygu Lleol.

Mae’n bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i ddatgarboneiddio a gwarchod tirwedd Cymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn datblygu canllawiau cynllunio ar sensitifrwydd y dirwedd mewn perthynas â datblygiadau ynni adnewyddadwy.

Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn ategu’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol er mwyn darparu polisi cynllunio strategol ar gyfer defnyddio adnoddau naturiol morol mewn ffordd gynaliadwy yn y dyfodol. Mae gan y moroedd o amgylch Cymru briodweddau arbennig, ac maen nhw’n gartref i lawer o rywogaethau sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol. Mae’r Cynllun yn cydnabod arwyddocâd ein moroedd i gymdeithas ac i gymunedau arfordirol yn benodol. Mae angen i ni ystyried cryfder ein hecosystem forol wrth ddatblygu prosiectau ynni’r môr.

Mae’r Cynllun Morol yn nodi adnoddau arwyddocaol ynni’r môr o gwmpas arfordir Cymru ac yn cynnig polisïau i’w diogelu a helpu i’w defnyddio mewn ffordd gynaliadwy. Mae technoleg ynni adnewyddadwy’r môr o bob math –ffrwd lanw, môr-lynnoedd, ynni gwynt ac ynni tonnau ar y môr – yn cael eu nodi fel cyfleoedd y dyfodol fel rhan o’n huchelgais ar gyfer twf glas.

Heddiw rwy’n cyhoeddi ymgynghoriad ffurfiol ar Gynllun Morol Cymru.

O safbwynt ein cefnogaeth, fy mlaenoriaeth gyntaf yw defnyddio ynni yn fwy effeithlon yng Nghymru.  

Mae gwaith wedi dechrau ar yr adolygiad nesaf o ofynion perfformiad ynni rheoliadau adeiladu, Rhan L. Er bod y broblem bresennol yn gysylltiedig â’r adeiladau  sydd gennym ar hyn o bryd, mae’n rhaid sicrhau nad yw adeiladau newydd yn gwneud ein gwaith yn anoddach yn y dyfodol.

Rydym yn parhau i fuddsoddi yn rhaglen arloesol Llywodraeth Cymru, Cartrefi Clyd, sy’n mynd i’r afael â thlodi tanwydd trwy ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon  yng nghartrefi pobl sydd ar incwm isel, neu sy’n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.  

Ers 2011 rydym wedi buddsoddi dros £240 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd er mwyn sicrhau bod dros 45,000 o gartrefi yn defnyddio ynni’n fwy effeithlon. Rydym wedi darparu cyngor a chymorth yn ymwneud â defnyddio ynni’n effeithlon i dros 98,000 o gartrefi ledled Cymru. Rydym wrthi’n caffael rheolwyr i gyflwyno cynlluniau newydd Nyth ac Arbed ar ôl mis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Rydym wedi gwneud llawer o gynnydd. Fodd bynnag, bydd angen i ni gynyddu graddfa a chyflymder gwaith ôl-osod ar gyfer defnyddio ynni’n effeithlon mewn llety preswyl yn sylweddol er mwyn cyrraedd ein targedau heriol i leihau allyriadau carbon.

Y mis diwethaf fe gyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar y cyd â’r Gweinidog Tai ac Adfywio yn disgrifio ein dull traws-Lywodraethol o gynyddu graddfa a chyflymder  gwaith ôl-osod ar gyfer defnyddio ynni’n effeithlon mewn llety preswyl yng Nghymru.

Byddwn ni’n defnyddio Tasglu’r Cymoedd i dreialu dulliau newydd o integreiddio buddsoddiad yn ein stoc dai â rhaglenni eraill er mwyn sicrhau bod ynni’n cael ei ddefnyddio’n fwy effeithlon.

Rydym yn gwella ein sylfaen dystiolaeth er mwyn targedu gweithgarwch y dyfodol yn well, a bydd hyn yn helpu i ddatblygu ein hagwedd hirdymor at y farchnad ‘gallu talu’ hefyd.

Rwyf wedi gosod y nod o sicrhau bod y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030. Bydd yr uchelgais hwn yn heriol, ac mae’n rhaid i’r sector cyhoeddus ddangos arweiniad. Rydym yn disgwyl i sefydliadau’r sector cyhoeddus fanteisio ar gyfleoedd i wireddu manteision economaidd a chymdeithasol datgarboneiddio.

Rydym yn caffael gwasanaethau cymorth newydd er mwyn helpu’r sector cyhoeddus i ddefnyddio ynni’n effeithlon a chynhyrchu ynni. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan gyllid heb log, a hwn yw’r cynnig mwyaf hael ar gyfer y sector cyhoeddus yn y DU. Rwy’n disgwyl buddsoddiad o bron i £70 miliwn mewn prosiectau ynni’r sector cyhoeddus erbyn diwedd y tymor presennol.

Hefyd, bydd y gwasanaeth cymorth newydd yn darparu cymorth hirdymor ar gyfer ynni lleol a chymunedol. Trwy ddwyn ynghyd y gwasanaethau cymorth hyn, bydd modd hyrwyddo rhagor o gydweithio a dull gweithredu seiliedig ar leoedd.

Hefyd, rydym yn parhau i gefnogi diwydiannau sy’n defnyddio llawer o ynni. Mae bargeinion sector yn gyfle pwysig i’r byd diwydiant. Rwy’n disgwyl i’r byd diwydiant yng Nghymru geisio cyrraedd safon gyda’r gorau yn y byd. Rydym wedi buddsoddi £1.6 miliwn tuag at welliannau amgylcheddol mawr ar ddau safle cynhyrchu dur allweddol Celsa yng Nghaerdydd. Bydd hyn yn diogelu hyd at 280 o swyddi ac yn cefnogi twf a chynaliadwyedd y busnes.

Fy ail flaenoriaeth yw lleihau ein dibyniaeth ar ynni sy’n cael ei gynhyrchu gan danwydd ffosil – mewn ffordd sy’n cadw manteision ar gyfer Cymru.  

Bydd y gwaith o leihau allyriadau gan drafnidiaeth yn elfen allweddol o roi cyllidebau carbon ar waith. Mae hon yn elfen bwysig o Strategaeth Ddiwydiannol y DU.

Mae ein dull gweithredu yn cwmpasu trafnidiaeth o bob math ac yn cynnwys mesurau i helpu i hyrwyddo’r defnydd o gerbydau allyriadau isel yma. Rydym wedi ymrwymo £2 filiwn i helpu i sicrhau rhwydwaith o fannau gwefru cerbydau trydan.

Ym mis Medi fe osodais dargedau ar gyfer ynni adnewyddadwy sy’n heriol ond yn gyraeddadwy yn fy marn i, sef:

  • Cynhyrchu 70 y cant o ddefnydd trydan Cymru o ffynonellau ynni adnewyddadwy erbyn 2030
  • Bydd 1 GW o gapasiti trydan adnewyddadwy yn cael ei berchnogi’n lleol erbyn 2030
  • Bydd rhyw elfen o berchnogaeth leol yn perthyn i brosiectau ynni adnewyddadwy erbyn 2020

Heddiw rwy’n cyhoeddi astudiaeth Cynhyrchu Ynni yng Nghymru, sy’n dangos cynnydd rhagorol y sector cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru.

Y llynedd fe wnaethom gynhyrchu 43% o’n defnydd o drydan o ffynonellau ynni adnewyddadwy, ac mae 397 MW o drydan yn cael ei gynhyrchu gan fentrau lleol.  

Cyn bo hir byddaf yn cyhoeddi cais am dystiolaeth i lywio ein dull o gyrraedd y targed ynni lleol o 1GW a sicrhau bod elfen o berchnogaeth leol yn perthyn i brosiectau ynni adnewyddadwy newydd.

Rwy’n disgwyl y bydd datblygwyr yn cymryd rhan adeiladol yn y broses hon. Bydd y cais am dystiolaeth yn llywio’r cymorth sydd eisoes ar gael gennym  i sicrhau bod cymunedau a datblygwyr yn gallu rhoi cynlluniau rhanberchnogaeth ar waith.

Mae CNC yn ceisio arddangos y dull gweithredu hwn ar ein hystâd gyhoeddus. Er enghraifft, fe gafodd y cyfle marchnata diweddar ar gyfer opsiwn les Prosiect Alwen ei ennill gan Innogy Renewables UK Ltd mewn cydweithrediad ag Ynni Cymunedol Cymru, gyda’r bwriad o sicrhau bod hyd at 15% o’r datblygiad yn eiddo i bobl leol trwy gynnig cyfranddaliadau.

Hefyd, rydym wedi datblygu prosiectau allweddol ar ystâd y sector cyhoeddus sy’n creu manteision lleol sylweddol. Er enghraifft, mae Pen y Cymoedd wedi gwario £220 miliwn yng Nghymru ac mae’n cefnogi cronfa sy’n werth £1.8 miliwn bob blwyddyn i’r gymuned leol.

Mae môr-lynnoedd llanw yn gallu darparu ynni dibynadwy a chyson. Gallai’r dull “braenaru” sy’n cael ei gynnig gan Hendry sicrhau bod môr-lynnoedd yn gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol at y cymysgedd ynni yng Nghymru. Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am benderfyniad ar argymhellion Hendry.

Y technolegau rhataf, fel ynni gwynt ac ynni’r haul ar y tir, yw’r cyfle gorau i reoli costau cynhyrchu trydan ar filiau ynni. Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddais ddatganiad yn annog Llywodraeth y DU i wneud mwy i gefnogi datblygiadau ynni gwynt ac ynni’r haul ar y tir. Fe gafodd y datganiad cyhoeddus hwn ei gyhoeddi ar y cyd â nifer o sefydliadau yng Nghymru.

Hefyd, rwy’n croesawu’r datganiad diweddar gan Ystâd y Goron sy’n dangos ei pharodrwydd i sicrhau bod hawliau gwely’r môr newydd ar gael ar gyfer rhagor o brosiectau ynni gwynt ar y môr. Rydym eisoes wedi cael llwyddiant yn y maes hwn, gyda thua 726 MegaWat o gapasiti yn cael ei ddefnyddio oddi ar arfordir y Gogledd.

Rydw i wedi cytuno gyda’m cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, i ddarparu cymorth i’r diwydiant ynni dŵr yng Nghymru er mwyn lleihau effaith ailbrisio’r ardrethi annomestig. Byddwn yn cyhoeddi manylion y cymorth dros yr wythnosau nesaf.

Fy nhrydedd blaenoriaeth yw cyflwyno’r newid ynni mewn ffordd sy’n sicrhau’r manteision mwyaf i Gymru.

Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein sylfaen sgiliau a’i datblygu trwy ddarparu cymorth ymarferol ac ariannol ar gyfer cyfleoedd ynni sy’n cyflymu’r broses o symud i gyflenwad carbon isel. Mae Strategaeth Twf Glân y DU eisoes wedi cyhoeddi nifer o ffrydiau cyllid arloesi. Rydym eisoes yn cydweithio â busnesau a’r byd academaidd, a byddwn yn ceisio sicrhau bod y sectorau hyn a phartneriaethau newydd yn manteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael i Gymru.

Rwy’n awyddus i sicrhau bod Cymru yn mynd ati i brofi dulliau arloesol o gynhyrchu ynni. Rydym yn buddsoddi cyllid o Gymru ac o Ewrop er mwyn sicrhau dyfodol Cymru fel cartref arloesi ym maes ynni.  

O dan Flaenoriaeth 3 o Raglen Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 2014-2020, mae 100 miliwn Ewro wedi’i ddyrannu ar gyfer prosiectau ynni ffrwd lanw ac ynni’r llanw yng Nghymru. Hyd yn hyd, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru wedi cymeradwyo chwe phrosiect ynni’r môr gwerth £41.5 miliwn gydag arian Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop gwerth £22.6 miliwn. Mae hyn yn cynnwys astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer Parth Arddangos Tonnau arfaethedig Sir Benfro a’r gwaith caniatâd a datblygu sydd ei angen ar gyfer Parth Ynni’r Llanw Morlais oddi ar Gaergybi.

Mae’r rhaglen Byw yn Glyfar yn creu platfform arddangos arloesi. Mae’r dull gweithredu hwn yn cael ei roi ar waith ar draws y sectorau i ddatblygu atebion clyfar a chysylltiedig.

Rydym yn gweithio gyda’r Ganolfan Beirianneg Cynnyrch Cynaliadwy ar gyfer Haenau Diwydiannol Gweithredol Arloesol i ddatblygu’r cysyniad o “adeiladau fel gorsafoedd pŵer”. Gallai masnacheiddio’r dull gweithredu hwn arwain at genhedlaeth newydd o adeiladau cost isel, carbon isel.

Hefyd, byddwn ni’n parhau i weithio gyda datblygwyr a Llywodraeth y DU i nodi a yw Adweithyddion Modwlar Bach arloesol yn gallu ychwanegu gwerth at allu ynni carbon isel yng Nghymru.

O ran ymgysylltiad polisi yn y dyfodol, byddwn ni’n mynd ati i weithio gyda phobl mewn pum prif faes dros y flwyddyn nesaf.

Dyma nhw: perchenogi datblygiadau, fel y disgrifiais eisoes; grid a seilwaith; defnydd tir; gwres a chynhyrchu ynni o danwydd ffosil.

Mae 37% o gyfanswm allyriadau Cymru yn deillio o’r sector pŵer, felly mae datgarboneiddio’r sector yn hollbwysig. Mae angen i ni ystyried sut i leihau allyriadau wrth gynhyrchu trydan trwy ddefnyddio’r dulliau gweithredu sydd ar gael i ni, gan gynnwys rheoleiddio amgylcheddol. Byddwn ni’n cyhoeddi cais am dystiolaeth ar y mater hwn yn gynnar flwyddyn nesaf, gan ymgysylltu ar sut y gallwn ddatblygu llwybr i leihau allyriadau wrth gynhyrchu ynni o danwydd ffosil.

Un maes allweddol lle y bydd angen gweithredu yw’r grid trydan. Mae’n rhaid sicrhau bod ein seilwaith grid yn addas i’r diben wrth symud tuag at system sy’n fwy clyfar a chysylltiedig.  

Fel rhan o’n broses polisi, byddwn ni’n sefydlu grŵp cyn bo hir i weithio gyda ni ar atebion i’r heriau gwahanol sy’n codi wrth ddatblygu grid sy’n addas ar gyfer systemau ynni’r dyfodol.  

Hefyd, byddwn ni’n archwilio’r posibilrwydd o greu Atlas Ynni i Gymru, yn enwedig wrth gefnogi systemau cynhyrchu newydd a defnydd lleol mwy clyfar o ynni adnewyddadwy.

Mae datgarboneiddio gwres yn un o’r heriau polisi pwysicaf. Byddwn ni’n adolygu’r amrywiaeth eang o dystiolaeth sydd ar gael cyn gweithio gyda’r rhai sy’n awyddus i nodi’r meysydd y dylem ganolbwyntio ein hadnoddau arnynt.  

I grynhoi, rwy’n credu ein bod wedi sefydlu’r uchelgais a’r amgylchedd polisi sydd eu hangen i symud i systemau carbon isel yng Nghymru.

Mae gennym yr awydd a’r ymrwymiad i gyflwyno’r newid. Trwy gydweithio yn y wlad fach, glyfar a chysylltiedig hon, fe allwn ni fanteisio ar y cyfleoedd er budd Cymru.

Felly gobeithio y cewch ddigwyddiad gwirioneddol gynhyrchiol yma heddiw.  

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ionawr 2018
Ll M M I G S S
<< Rha    
1 2 3 4 5 6 7
8 9 10 11 12 13 14
15 16 17 18 19 20 21
22 23 24 25 26 27 28
29 30 31        
I'n dilyn ni trowch i