Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

5 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Cymraeg: Yr Eirfa Gaffael Gyffredin
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw priod
Diffiniad: System ddosbarthiadau, a gynhelir gan y Comisiwn Ewropeaidd, ar gyfer safoni'r modd y mae awdurdodau contractio'n disgrifio contractau caffael a chyfeirio atynt. Mae'n cynnwys codau a disgrifiadau ar gyfer nwyddau, gwasanaethau a gweithiau.
Nodiadau: Defnyddir yr acronym CPV yn Saesneg ac yn Gymraeg (ac eithrio mewn deddfwriaeth, pan ddefnyddir yr acronym GGG yn Gymraeg).
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2024
Cymraeg: strategaethau penodol i ddysgu geirfa
Statws C
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Cyd-destun: Dylai holl ymarferwyr gofal plant Dechrau'n Deg fod yn darparu amgylchedd dysgu cyfoethog sy'n rhoi cyfleoedd iaith a chyfathrebu i bob plentyn, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu cynnar. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod modd cael canlyniadau positif drwy strategaethau penodol i ddysgu geirfa a thrwy ddefnyddio adnoddau amlgyfrwng.
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Chwefror 2016
Cymraeg: geirfa amlder uchel
Statws B
Pwnc: Diwylliant a'r celfyddydau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: geirfâu amlder uchel
Diffiniad: Geirfa sy'n digwydd yn aml iawn naill ai mewn iaith lafar neu mewn iaith ysgrifenedig (neu yn y ddwy iaith).
Nodiadau: Term o faes ieithyddiaeth a ddefnyddir mewn deunyddiau sy’n gysylltiedig â CEFR, y Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Hydref 2025
Cymraeg: modelu geirfa
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Yng nghyd-destun addysg, arddangos geirfa drwy ei defnyddio gyda'r plant.
Cyd-destun: Gan ddibynnu ar ddatblygiad y plentyn, gall rhyngweithio o’r fath gynnwys modelu geirfa, cefnogi chwilfrydedd a darganfod, a chymryd rhan mewn cyd-feddwl parhaus.
Nodiadau: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Fframwaith Ansawdd Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Hydref 2024
Cymraeg: Rheoliadau’r Eirfa Gaffael Gyffredin (Diwygio) 2023
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Nodiadau: Cyfieithiad cwrteisi ar enw darn o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn Saesneg yn unig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Mehefin 2023