Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Diffiniad: Sylwedd, a gynhyrchir yn naturiol gan organeb, sy'n niweidiol neu'n farwol os oes swm digonol ohono'n mynd i mewn i'r corff.
Nodiadau: Mewn cyd-destunau technegol, mae 'gwenwyn'/'poison' yn derm ymbarel sy'n cynnwys mathau penodol o sylweddau, ee tocsinau a fenymau. Mewn cyd-destunau annhechnegol, gellir defnyddio 'gwenwyn' i drosi 'toxin' a 'venom'.
Diffiniad: Tocsin hynod o wenwynig a gynhyrchir gan y bacteriwm Clostridium botulinum. Fe'i defnyddir mewn rhai meddyginiaethau, ac mewn rhai triniaethau harddwch (lle y mae'n adnabyddus o dan yr enw masnach Botox).