Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

3 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Cymraeg: pwnc y contract
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Cyd-destun: Ystyr “pwnc y contract” yw’r wybodaeth a ganlyn, i’r graddau y mae’n hysbys i’r awdurdod contractio pan gyhoeddir yr wybodaeth—(a) a yw’r contract yn bennaf ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaeth neu weithiau, (b) disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi, (c) crynodeb o’r modd y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau hynny yn cael eu cyflenwi, (d) amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau yn cael eu cyflenwi neu amcangyfrif o’r cyfnod y byddant yn cael eu cyflenwi drosto, (e) amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi, (f) y codau GGG perthnasol, ac (g) y dosbarthiad daearyddol, pan fo’n bosibl disgrifio hyn.
Nodiadau: Term o faes caffael. Ychwanegwyd i’r gronfa yn sgil Deddf Caffael 2023 (deddfwriaeth Llywodraeth y DU, sydd ar gael yn Saesneg yn unig) a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Daw’r frawddeg gyd-destunol o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024.
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Gorffennaf 2024
Cymraeg: pwnc neilltuol
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: pynciau neilltuol
Diffiniad: Pwnc mewn deddfiad y gellid ei ddatgymhwyso heb effeithio ar weddill y deddfiad.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Mehefin 2018
Cymraeg: pwnc
Statws C
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Mawrth 2012