Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

5 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl perthnasedd.
Cymraeg: amhariad dwys ar y clyw
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Yn unol â'r Model, mae amhariad ("impairment", a elwid yn "nam" o'r blaen) yn nodwedd ar berson, a all effeithio ar ei ymddangosiad neu ar sut y mae ei gorff neu ei feddwl yn gweithio; caiff pobl anabl (y gellir hefyd cyfeirio atynt fel "pobl anabledig" neu "bobl sy'n cael eu hanablu") eu hanablu gan ffactorau allanol fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau ar eu cyfer; ac anabledd yw canlyniad anablu pobl sydd ag amhariadau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Tachwedd 2023
Cymraeg: anawsterau dysgu dwys
Statws B
Pwnc: Addysg
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Hydref 2005
Cymraeg: anawsterau dysgu dwys a lluosog
Statws A
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diffiniad: Cyflwr o anhawster dysgu difrifol ar y cyd ag anawsterau eraill o ran iechyd sy'n effeithio'n sylweddol ar allu person i gyfathrebu a bod yn annibynnol.
Cyd-destun: Mae deunyddiau Ar Drywydd Dysgu yn helpu ymarferwyr yn y gwaith o asesu sgiliau cyfathrebu a sgiliau gwybyddol cynnar dysgwyr ag anawsterau dysgu dwys a lluosog.
Nodiadau: Defnyddir yr acronym PMLD yn Saesneg. Mae'r term Saesneg hwn yn gyfystyr â 'profound and multiple learning disabilities' ond 'profound and multiple learning difficulties' yw'r term a ffefrir gan Lywodraeth Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Ionawr 2020
Cymraeg: anabledd dysgu dwys a lluosog
Statws A
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: anableddau dysgu dwys a lluosog
Nodiadau: Defnyddir yr acronym PMLD yn Saesneg. Mae'r term Saesneg hwn yn gyfystyr â 'profound and multiple learning difficulties' a hwnnw yw'r term a ffefrir gan Lywodraeth Cymru. Gweler y cofnod am 'profound and multiple learning difficulties' am ddiffiniad. Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Nid yw’r defnydd o “anabledd” yn y term cyffredin “anabledd dysgu” yn gyson â’r Model Cymdeithasol, gan ei fod yn cyfeirio at amhariad yn hytrach nag at rwystrau sy’n anablu pobl. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru’n derbyn mai dyma’r eirfa sy’n arferol ym maes anabledd dysgu, ac a ffefrir gan sefydliadau cynrychioladol yn y maes ar hyn o bryd, felly fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru. Adolygir hyn yn gyson. 
Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Tachwedd 2023
Cymraeg: dwys-fyddar
Statws B
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Diffiniad: Nam difrifol ar y clyw, sydd fel arfer yn golygu na ellir clywed synau is na 80-95dB yn y glust dda.
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Medi 2020