Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

4 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Saesneg: offensive
Cymraeg: tramgwyddus
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Ansoddair
Cyd-destun: Rydym yn benodol yn gwrthod bod yn gyfrifol am unrhyw ddeunydd gwallus, tramgwyddus, difenwol neu anweddus sy’n ymddangos ar wefannau trydydd parti.
Nodiadau: Yng nghyd-destun deunyddiau allai beri tramgwydd i eraill. Dylid gofalu rhag drysu ag ystyr arall y gair ‘offensive’ mewn termau fel offensive weapon / arf ymosodol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Ionawr 2025
Cymraeg: arf ymosodol
Statws B
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Awst 2012
Cymraeg: Deddf Arfau Ymosodol 2019
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Nodiadau: Teitl cwrteisi ar ddarn o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn Saesneg yn unig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2021
Cymraeg: adolygiad lladdiad ag arf ymosodol
Statws B
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: adolygiadau lladdiadau ag arf ymosodol
Diffiniad: Proses adolygu statudol o laddiad pan fo’r sawl a laddwyd dros 18 oed a bod amgylchiadau’r ymosodiad yn cynnwys defnydd o arf ymosodol, neu bod tebygrwydd y defnyddiwyd arf o’r fath. Hefyd, enghraifft o adolygiad o'r fath.
Nodiadau: Mae'r broses hon wedi ei hymgorffori bellach yn yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Gorffennaf 2025