Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

25 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl perthnasedd.
Saesneg: mining
Cymraeg: mwyngloddio
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Berf
Nodiadau: Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwyngloddio' gyfeirio at gloddio unrhyw fath o fwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, o'r tir. Gweler y cofnod am mineral/mwyn yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwyngloddio' gynnwys gweithio i gloddio glo a llechi, sy'n sylweddau nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwynau' fel arfer yn Gymraeg, nac yn cyd-fynd ag ystyr wyddonol y term mineral/mwyn. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddio ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwyngloddio'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lo'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lechi'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at fwy nag un math o'r rhain gyda'i gilydd, argymhellir gyfeirio yn Gymraeg at y gwahanol fathau, ee 'mwyngloddio neu gloddio am lo'. Lle nad yw hyn yn bosibl ac nad oes angen gwahaniaethu wrth gysyniad 'excavating', gellid ystyried defnyddio 'cloddio'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024
Saesneg: data mining
Cymraeg: cloddio data
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Berf
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Gorffennaf 2005
Saesneg: deep mining
Cymraeg: mwyngloddio dwfn
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Berf
Nodiadau: Term o Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yw hwn.
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Awst 2016
Cymraeg: gweithrediadau mwyngloddio
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diffiniad: Cloddio a gweithio mwynau ar dir, boed hynny drwy weithio ar yr arwyneb neu o dan y ddaear.
Nodiadau: Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024
Saesneg: mining shaft
Cymraeg: siafft mwyngloddio
Statws C
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Gorffennaf 2003
Saesneg: mining site
Cymraeg: safle mwyngloddio
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: safleoedd mwyngloddio
Diffiniad: Tir y mae caniatâd mwynau yn ymwneud ag ef.
Cyd-destun: Mae cyfeiriadau at ganiatâd mwynau sy’n ymwneud â safle mwyngloddio yn gyfeiriadau at ganiatâd mwynau sy’n ymwneud ag unrhyw ran o’r tir sydd wedi ei gynnwys yn y safle.
Nodiadau: Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024
Saesneg: web mining
Cymraeg: gwe-gloddio
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Gorffennaf 2005
Cymraeg: mwyngloddio brig
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Berf
Nodiadau: Term o Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yw hwn.
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Awst 2016
Cymraeg: ardal lofaol
Statws C
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Gorffennaf 2003
Cymraeg: gweithrediadau mwyngloddio tanddaearol
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Nodiadau: Yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Gweler y cofnod cysylltiedig am mining/mwyngloddio.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024
Cymraeg: Cofeb Genedlaethol Glowyr Cymru
Statws C
Pwnc: Datblygu economaidd
Rhan ymadrodd: Enw priod, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mai 2014
Cymraeg: Ardal Atgyfeirio Datblygiadau Mwyngloddio
Statws C
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Hydref 2012
Cymraeg: Deddf Ymsuddiant Glofaol 1991
Statws A
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2012
Saesneg: mine
Cymraeg: mwynglawdd
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: mwyngloddiau
Diffiniad: Cloddfa neu system o gloddfeydd sy'n ymwneud ag echydynnu mwynau neu gynnyrch mwynau.
Nodiadau: Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwynglawdd' gyfeirio at unrhyw fan lle caiff mwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, eu cloddio o'r tir. Gweler y cofnodion am mineral/mwyn a mining/mwyngloddio yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwynglawdd' gynnwys pyllau glo a chwareli llechi, sy'n weithfeydd nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwyngloddiau' fel arfer yn Gymraeg. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddfa ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwynglawdd'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mine' yn unig, defnyddier 'pwll glo'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mine' yn unig, defnyddier 'chwarel lechi'. Lle bydd 'mine'mewn cyd-destunau o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at fwy nag un math o'r rhain gyda'i gilydd, argymhellir cyfeirio yn Gymraeg at y gwahanol fathau, ee 'mwynglawdd neu bwll glo'. Lle nad yw hyn yn bosibl a bod angen un gair, gellid defnyddio 'cloddfa'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024
Saesneg: coal mine
Cymraeg: pwll glo
Statws B
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: pyllau glo
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2022
Cymraeg: mwynfeydd a chwareli
Statws C
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Tachwedd 2007
Cymraeg: mwynglawdd brig
Statws C
Pwnc: Datblygu economaidd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: mwyngloddiau brig
Cyd-destun: Yn caniatáu i ryddhad rhag treth gael ei gymhwyso i warediad trethadwy deunydd sy'n cynnwys deunydd cymwys, a waredir mewn safle tirlenwi awdurdodedig (neu ran o safle o'r fath), os oedd y safle'n cael ei ddefnyddio fel mwynglawdd brig neu chwarel.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Awst 2017
Cymraeg: Mwyngloddiau Aur Dolaucothi
Statws A
Pwnc: Twristiaeth a hamdden
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diffiniad: Llanwrda
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Gorffennaf 2008
Cymraeg: dymchweliad siafft
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2022
Cymraeg: Rheoliadau Mwyngloddiau 2014
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Nodiadau: Cyfieithiad cwrteisi ar enw deddfwriaeth sydd ar gael yn Saesneg yn unig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2022
Cymraeg: Cymdeithas y Mwyngloddiau Brenhinol
Statws C
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Ebrill 2007
Cymraeg: gwaith glo brig
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: gweithfeydd glo brig
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Mawrth 2023
Cymraeg: Deddf Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni) 1969
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Nodiadau: Cyfieithiad cwrteisi ar enw deddfwriaeth sydd ar gael yn Saesneg yn unig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mai 2022
Cymraeg: Rheoliadau Mwyngloddiau (Hysbysu eu Bod yn Segur) 1998
Statws A
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Medi 2012
Cymraeg: Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir) (Cymru)
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Nodiadau: Teitl drafft Bil arfaethedig gan Lywodraeth Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Gorffennaf 2023