Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

7 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl perthnasedd.
Cymraeg: gweithiwr trawsffiniol
Statws B
Pwnc: Datblygu economaidd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: gweithwyr trawsffiniol
Diffiniad: Person sy'n gweithio mewn un wlad ond sy'n byw mewn gwlad arall.
Diweddarwyd ddiwethaf: 17 Rhagfyr 2020
Cymraeg: gweithiwr trawsffiniol AEE
Statws A
Pwnc: Cyfreithiol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: gweithwyr trawsffiniol AEE
Diffiniad: person sy'n weithiwr yn y Deyrnas Unedig ond yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
Cyd-destun: ystyr “gweithiwr trawsffiniol AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn AEE sydd-(f) yn weithiwr yn y Deyrnas Unedig, a (g) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;
Nodiadau: Mewn rhai cyd-destunau gellir ychwanegu'r fannod o flaen AEE e.e. 'un neu ragor o weithwyr trawsffiniol trawsffiniol yr AEE'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Tachwedd 2021
Cymraeg: person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd
Statws A
Pwnc: Cyfreithiol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: personau cyflogedig trawsffiniol Swisaidd
Diffiniad: gwladolyn Swisaidd sy'n yn berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig, ac sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos.
Cyd-destun: "ystyr “person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd— (a) yn berson cyflogedig yn y Deyrnas Unedig, a (b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;"
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Tachwedd 2021
Cymraeg: person hunangyflogedig trawsffiniol AEE
Statws A
Pwnc: Cyfreithiol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: personau hunangyflogedig trawsffiniol AEE
Diffiniad: person hunangyflogedig sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig ond yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu’r Wladwriaeth AEE honno yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos.
Cyd-destun: ystyr “aelod o deulu” (“family member”) yw— (a) mewn perthynas â gweithiwr trawsffiniol AEE, gweithiwr mudol AEE, person hunangyflogedig trawsffiniol AEE neu berson hunangyflogedig AEE— (i) priod y person neu ei bartner sifil, (ii) disgynyddion uniongyrchol y person neu ddisgynyddion uniongyrchol priod neu bartner sifil y person sydd o dan 21 oed neu sy’n 21 oed neu drosodd ac sy’n ddibynyddion y person neu’n ddibynyddion priod neu bartnersifil y person, neu (iii) perthnasau uniongyrchol dibynnol yn llinach esgynnol y person neu yn llinach esgynnol priod neu bartner sifil y person;
Nodiadau: Mewn rhai cyd-destunau gellir ychwanegu'r fannod o flaen AEE e.e. 'un neu ragor o bersonau hunangyflogedig trawsffiniol yr AEE'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Tachwedd 2021
Cymraeg: person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd
Statws A
Pwnc: Cyfreithiol
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: personau hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd
Diffiniad: gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig, ac sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos
Cyd-destun: "ystyr “person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd— (a) yn berson hunangyflogedig yn y Deyrnas Unedig, a (b) yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac sy’n dychwelyd i’w breswylfa yn y Swistir neu yn y Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;"
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 Tachwedd 2021
Cymraeg: Llenyddiaeth ar draws Ffiniau
Statws C
Pwnc: Diwylliant & celfyddydau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Mawrth 2009
Cymraeg: teledu heb ffiniau
Statws C
Pwnc: Ewrop
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Medi 2004