Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

26 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Saesneg A-Z
Saesneg: deposit
Cymraeg: adneuo
Statws A
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Gosod rhywbeth mewn storfa neu ei gyflwyno i'w gadw gan sefydliad, fel arfer i'w gadw'n ddiogel neu ar ffurf cofnod parhaol, ee rhoi arian ac eitemau gwerthfawr mewn banc neu gronfa, neu gyflwyno dogfennau i'w cadw mewn llyfrgell neu gan sefydliad arall.
Cyd-destun: Mae adran 15A(1) o Ddeddf 2006 yn caniatáu i berchennog tir o’r fath adneuo datganiad gyda’r awdurdod cofrestru tiroedd comin, ac effaith hyn yw dwyn i ben unrhyw gyfnod lle mae personau wedi cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau hamdden cyfreithlon drwy hawl ar y tir y mae’r datganiad yn ymwneud ag ef.
Nodiadau: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Reoliadau Meysydd Tref a Phentref (Datganiadau Perchnogion Tir) (Cymru) (Rhif 2) 2018, sy'n ymwneud â thiroedd comin.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: deposit
Cymraeg: ernes
Statws B
Pwnc: Cyffredinol
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: ernesau
Diffiniad: Arian, neu rywbeth gwerthfawr arall, a roddir i'w gadw dros dro, ac y gellir ei ddychwelyd yn amodol ar rywbeth yn digwydd neu'n cael ei gyflawni.
Cyd-destun: Bydd ernes ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os canfyddir, ar ôl cynnal y bleidlais ac ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, gan gynnwys unrhyw ailgyfrif, fod yr ymgeisydd wedi cael llai na phump y cant o gyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth yr oedd yr ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu ynddi.
Nodiadau: Gan gynnwys yng nghyd-destun cynlluniau dychwelyd ernes (ee ar gyfer cynwysyddion diod gwag) ac yng nghyd-destun etholiadau. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (drafft ymgynghori).
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: deposit
Cymraeg: dyddodyn
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: dyddodion
Diffiniad: Sylwedd a gaiff ei osod i lawr neu ei adael ar ôl. Gall hynny fod yn broses naturiol, neu'n broses annaturiol (ee gadael neu osod gwastraff diwydiannol neu sbwriel mewn lle penodol).
Cyd-destun: Parheir i wneud ceisiadau am ddatblygiad sy’n cynnwys mwyngloddio neu ddefnyddio’r tir ar gyfer dyddodion gwaith mwynau ar ffurflen a ddarperir gan yr awdurdod cynllunio lleol a rhaid cynnwys y manylion a bennir neu y cyfeirir atynt ar y ffurflen honno.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: deposit
Cymraeg: dyddodi
Statws A
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Gosod sylwedd i lawr neu ei adael ar ôl. Gall hynny fod yn broses naturiol, neu'n broses annaturiol (ee gadael neu osod gwastraff diwydiannol neu sbwriel mewn lle penodol).
Cyd-destun: Os yw Cynhyrchydd Gwastraff yn dymuno cael disgownt ar gyfer dyddodi ei ddeunydd gwastraff yn safleoedd tirlenwi Cymru, rhaid iddo gysylltu â gweithredwr y safle tirlenwi sy’n gyfrifol am lenwi'r cais.
Nodiadau: Defnyddir 'dodi' am yr un cysyniad yn Neddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 ac mewn deddfwriaeth a dogfennaeth gysylltiedig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: deposit
Cymraeg: adnau
Statws A
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: adneuon
Diffiniad: Rhywbeth a roddir mewn storfa neu a gyflwynir i'w gadw gan sefydliad, fel arfer i'w gadw'n ddiogel neu ar ffurf cofnod parhaol, ee arian ac eitemau gwerthfawr mewn banc neu gronfa, neu ddogfennau a roddir i'w cadw mewn llyfrgell neu gan sefydliad arall.
Nodiadau: Am enghraifft o’r term hwn ar waith mewn maes penodol, gweler y term security deposit / adnau ym maes Tai
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: deposit
Cymraeg: blaendal
Statws A
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: blaendaliadau
Diffiniad: Swm o arian a delir fel rhan-daliad ymlaen llaw am rywbeth. Mewn rhai amgylchiadau gellir dychwelyd y blaendal yn amodol ar rywbeth yn digwydd neu'n cael ei gyflawni.
Nodiadau: Gan gynnwys ym maes rhentu tai.
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2025
Saesneg: deposit
Cymraeg: dyddodiad
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: dyddodiadau
Diffiniad: Canlyniad proses o ddyddodi.
Cyd-destun: Yn y Ddeddf hon, ystyr “tomen” yw croniad neu ddyddodiad gwastraff (beth bynnag ei ffurf neu ei gyfansoddiad) o fwynglawdd neu chwarel ac eithrio croniad neu ddyddodiad sydd wedi ei leoli o dan y ddaear.
Nodiadau: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Fil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 Tachwedd 2024
Cymraeg: cyfrif cadw
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Chwefror 2005
Cymraeg: dyddodi gwastraff mwynau
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Unrhyw broses y crëir neu y cynyddir dyddodyn gwastraff mwynau drwyddi.
Nodiadau: Dyma'r term technegol a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio. Mewn deunyddiau llai technegol mae'n bosibl y gellid defnyddio berfau mwy cyffredinol eu natur, ee gollwng, gadael neu rhoi.
Diweddarwyd ddiwethaf: 5 Mawrth 2024
Cymraeg: dyddodi gwastraff
Statws A
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Berf
Cyd-destun: Gorchymyn yw gorchymyn terfynu sy’n [...] ei gwneud yn ofynnol i gamau a bennir yn y gorchymyn gael eu cymryd er mwyn addasu neu symud ymaith gyfarpar neu beiriannau a ddefnyddir i gynnal gweithrediadau mwyngloddio neu i ddyddodi gwastraff ar y tir.
Nodiadau: Dyma'r term technegol a ddefnyddir yn y ddeddfwriaeth gynllunio. Mewn deunyddiau llai technegol mae'n bosibl y gellid defnyddio berfau mwy cyffredinol eu natur, ee gollwng, gadael neu rhoi.
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mawrth 2024
Cymraeg: sefydliad rheoli ernes
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: sefydliadau rheoli ernes
Nodiadau: Yng nghyd-destun cynlluniau dychwelyd ernes.
Diweddarwyd ddiwethaf: 6 Mawrth 2025
Saesneg: deposit plan
Cymraeg: cynllun adnau
Statws B
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cynlluniau adnau
Diffiniad: Dogfen sy'n rhan o'r broses o baratoi cynlluniau datblygu lleol.
Cyd-destun: Y Cynllun Adnau yw drafft llawn y Cynllun Ddatblygu Lleol, ac ystyrir y cynllun yn ‘gadarn’ gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol a’i fod yn gallu cael ei fabwysiadu. Dylai’r Cynllun Adnau osod allan y materion, y weledigaeth a’r amcanion; strategaeth ofodol derfynol; graddfa twf y boblogaeth, tai a swyddi; safleoedd a dosraniadau lleol; polisïau lleol ar amrywiaeth o bynciau yn cynnwys tai, cyflogaeth, manwerthiant, trafnidiaeth, dynodiadau amgylcheddol, ynni, mwynau a gwastraff; fframwaith monitro; map cynigion. Cefnogir y Cynllun Adnau gan nifer o ddogfennau â thystiolaeth yn cynnwys asesiad llawn a chyfiawnhad ar gyfer nifer o safleoedd / ardaloedd a gynigiwyd i’w datblygu yng Nghofrestr y Safleoedd Ymgeisiol.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: cynllun dychwelyd ernes
Statws B
Pwnc: Amgylchedd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cynlluniau dychwelyd ernes
Diffiniad: Cynllun lle mae gan gynhyrchwyr a mewnforwyr diodydd gyfrifoldebau cyfreithiol dros reoli a chasglu eu cynwysyddion diod gwag ar gyfer ailgylchu. Bydd prynwr potel neu gan o ddiod sy’n rhan o’r cynllun yn talu ernes, a bydd yr ernes yn cael ei had-dalu wrth ddychwelyd y botel neu'r can gwag.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: blaendal cadw
Statws A
Pwnc: Tai
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: blaendaliadau cadw
Diffiniad: Swm o arian a delir gan ddarpar denant i landlord er mwyn cymryd eiddo oddi ar y farchnad wrth i wiriadau credyd a gwiriadau geirda gael eu cynnal. Fel arfer, caiff y blaendal cadw ei gymryd fel rhan-daliad tuag at yr adnau neu’r taliad rhent cyntaf os bydd y denantiaeth yn mynd rhagddo.
Cyd-destun: Blaendal cadw yw swm—(a) a delir i landlord, neu i asiant gosod eiddo, cyn rhoi contract meddiannaeth safonol; (b) a delir at ddiben cadw’r hawl i gael y cynnig cyntaf mewn perthynas â rhoi’r contract, yn ddarostyngedig i gynnal gwiriadau addasrwydd o ran darpar ddeiliad y contract, a chytundeb rhwng y partïon i ymrwymo i’r contract; (c) nad yw’n fwy na swm sy’n gyfwerth ag un wythnos o rent o dan y contract.
Nodiadau: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: legal deposit
Cymraeg: adneuo cyfreithiol
Statws B
Pwnc: Diwylliant a'r celfyddydau
Rhan ymadrodd: Berf
Diffiniad: Cyflwyno copïau o gyhoeddiadau i storfeydd penodol, sef llyfrgelloedd adnau cyfreithiol, ee y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Saesneg: legal deposit
Cymraeg: adnau cyfreithiol
Statws B
Pwnc: Diwylliant a'r celfyddydau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: adneuon cyfreithiol
Diffiniad: Copïau o gyhoeddiadau a gyflwynir i storfeydd penodol, sef llyfrgelloedd adnau cyfreithiol, ee y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003
Statws B
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Nodiadau: Teitl cwrteisi ar ddarn o ddeddfwriaeth sydd ar gael yn Saesneg yn unig.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: llyfrgell adnau cyfreithiol
Statws B
Pwnc: Diwylliant a'r celfyddydau
Rhan ymadrodd: Enw, Benywaidd, Unigol
Lluosog: llyfrgelloedd adnau cyfreithiol
Diffiniad: Un o nifer o sefydliadau penodol y mae'n ofynnol cyflwyno copïau o gyhoeddiadau iddynt, ee y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Mai 2025
Cymraeg: dyddodion mwynau
Statws C
Pwnc: Cynllunio
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Gorffennaf 2003
Cymraeg: blaendal sicrwydd
Statws B
Pwnc: Tai
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: blaendaliadau sicrwydd
Cyd-destun: Yn y Ddeddf hon, ystyr “blaendal sicrwydd” yw arian a delir fel sicrwydd ar gyfer—(a) cyflawni unrhyw rwymedigaethau deiliad contract, neu (b) rhyddhau unrhyw atebolrwydd, sy’n codi o dan gontract meddiannaeth neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath.
Nodiadau: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019. Mae'r ffurfiau 'tenancy deposit' / 'blaendal tenantiaeth' yn gyfystyr.
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Mawrth 2018
Cymraeg: blaendal tenantiaeth
Statws B
Pwnc: Tai
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: blaendaliadau tenantiaeth
Cyd-destun: Mae blaendal sicrwydd neu "flaendal tenantiaeth" yn unrhyw swm o arian y bwriedir iddo gael ei ddal gan y landlord neu'r asiant fel sicrwydd rhag unrhyw golledion yr eir iddynt drwy weithredoedd y tenant.
Nodiadau: Mae hwn yn derm arall am 'security deposit'/'blaendal sicrwydd' - gweler y cofnod hwnnw am ddiffiniad. Daw'r frawddeg gyd-destunol o ganllawiau sy'n ymwneud â Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: cynllun diogelu blaendal tenantiaeth
Statws B
Pwnc: Tai
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cynlluniau diogelu blaendal tenantiaeth
Cyd-destun: Yng Nghymru, mae'n rhaid i'ch landlord roi eich blaendal mewn cynllun diogelu blaendaliadau tenantiaeth a gymeradwywyd gan y llywodraeth os yw'r ddau o'r canlynol yn berthnasol: mae gennych gontract meddiannaeth, ac rydych wedi anfon y blaendal atynt ar ôl 6 Ebrill 2007.
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Chwefror 2025
Cymraeg: Rheoliadau Gwahardd Llosgi Gwastraff Penodedig, neu ei Ddodi ar Safle Tirlenwi (Cymru) 2023
Statws A
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023
Cymraeg: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Cynlluniau Blaendal) (Gwybodaeth Ofynnol) (Cymru) 2022
Statws A
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mawrth 2022
Cymraeg: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Blaendal Cadw) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019
Statws A
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Rhagfyr 2019
Cymraeg: Rheoliadau Dyddodi Gwastraff Heb Awdurdod (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2017
Statws A
Pwnc: Teitlau deddfwriaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Tachwedd 2017