Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

4 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn ôl perthnasedd.
Cymraeg: cyfranogwr economaidd
Statws B
Pwnc: Datblygu economaidd
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: cyfranogwyr economaidd
Diffiniad: Person, cwmni neu sefydliad sydd â dylanwad ar yr economi, drwy gynhyrchu, gwerthu, prynu neu fuddsoddi.
Diweddarwyd ddiwethaf: 20 Mai 2021
Cymraeg: actor ar ran cenedl-wladwriaeth
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Yng nghyd-destun seiberddiogelwch, actor seiberfygythiad ('cyber threat actor') sy'n rhan o gyfundrefn cenedl-wladwriaeth neu'n derbyn cyfarwyddyd, cyllid neu gymorth technegol gan genedl-wladwriaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2024
Cymraeg: actor cynorthwyol
Statws C
Pwnc: Diwylliant & celfyddydau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Chwefror 2007
Cymraeg: actor seiberfygythiad
Statws B
Pwnc: TGCh
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: actorion seiberfygythiad
Diffiniad: Yng nghyd-destun seiberddiogelwch, person neu grŵp sy'n cymryd rhan mewn ymosodiad bwriadol neu faleisus ar gyfrifiaduron, dyfeisiau, systemau neu rwydweithiau ac yn ennill mynediad iddynt er mwyn peryglu, dwyn, newid neu ddinistrio gwybodaeth.
Nodiadau: Weithiau gwelir y ffurf symlach 'threat actor' yn Saesneg. Argymhellir parhau i ddefnyddio 'actor seiberfygythiad' yn Gymraeg wrth drosi'r ffurf honno os mai seiberddiogelwch yw'r maes.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Mai 2024