Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Cyd-destun: Mae’r sector addysg bellach yn gweithio’n agos gyda Hyb ACE Cymru i ddatblygu a gwreiddio ymarfer sy’n ystyriol o drawma ym mhob coleg yng Nghymru. Dros y tair blynedd diwethaf, mae hyn wedi arwain at fframwaith arweiniad wedi’i deilwra i gyd-destun penodol y sector Addysg Bellach; modiwlau dysgu proffesiynol ar gyfer staff sy’n ymwneud â chefnogi dysgwyr; a rhwydwaith o ymarfer, wedi’i hwyluso gan Hyb ACE Cymru, i sicrhau lefel gyson o gymorth a chyfle i rannu arferion gorau.