Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

3 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Gymraeg A-Y
Cymraeg: tryc picyp
Saesneg: pickup truck
Statws B
Pwnc: Trafnidiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: tryciau picyp
Diffiniad: Cerbyd ysgafn gydag ochrau isel yn y cefn, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer cludo nwyddau, ac a all fod â chab sengl neu gab dwbl.
Cyd-destun: Gallai cerbyd 3 tunnell fod yn fan fasnachol fach, yn dryc ysgafn neu’n dryc picyp a ddefnyddir ar gyfer danfoniadau, gwaith cynnal a chadw neu waith cyfleustodau.
Nodiadau: Mewn rhai cyd-destunau annhechnegol, lle gall y term technegol ‘tryc picyp’ fod yn adlewyrchu ffurf lafar Gymraeg nad yw’n addas i gywair y testun, gellid ystyried defnyddio ‘tryc agored’. Serch hynny sylwer y gall rhai mathau o dryciau picyp, yn enwedig tryciau picyp cab dwbl, fod â chefn caeedig yn hytrach nag agored felly dylid osgoi ‘tryc agored’ os oes angen manwl gywirdeb neu os oes risg o gamddealltwriaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2025
Saesneg: double cab pickup
Statws B
Pwnc: Trafnidiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: tryciau picyp cab dwbl
Diffiniad: Cerbyd ysgafn gydag ochrau isel yn y cefn, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer cludo nwyddau, gyda chab dwbl sy’n cynnwys pedwar drws a lle i bump o bobl fel arfer.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2025
Saesneg: single cab pickup
Statws B
Pwnc: Trafnidiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: tryciau picyp cab sengl
Diffiniad: Cerbyd ysgafn gydag ochrau isel yn y cefn, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer cludo nwyddau, gyda chab sengl sy’n cynnwys dwy sedd fel arfer.
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2025