Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

16 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Gymraeg A-Y
Cymraeg: asiant pôl
Saesneg: polling agent
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: asiantiaid pôl
Diffiniad: Person sydd yn cynrychioli ymgeisydd mewn gorsaf bleidleisio.
Cyd-destun: Cyn i’r bleidlais ddechrau, caiff ymgeisydd unigol ac asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu benodi—(a) asiantiaid pôl i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a (b) asiantiaid cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Cymraeg: clerc pôl
Saesneg: poll clerk
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: clercod polau
Diffiniad: Gweithiwr mewn gorsaf bleidleisio sy'n helpu’r swyddog llywyddu.
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Cymraeg: diwrnod pôl
Saesneg: polling day
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: diwrnodau polau
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Cymraeg: diwrnod pôl
Saesneg: day of poll
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: diwrnodau polau
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025
Cymraeg: dosbarth pôl
Saesneg: polling district
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: dosbarthau pôl
Diffiniad: Is-ran ddaearyddol o ardal etholiadol.
Cyd-destun: At ddibenion etholiadau’r Senedd rhaid rhannu pob etholaeth yn ddosbarthau pôl. Rhaid bod man pôl ar gyfer pob dosbarth pôl, oni bai bod maint neu amgylchiadau eraill dosbarth pôl yn golygu nad yw lleoliad y gorsafoedd pleidleisio yn effeithio’n sylweddol ar y cyfleustra i’r etholwyr, na’r cyfleustra i unrhyw gorff ohonynt.
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Cymraeg: dyddiad pôl
Saesneg: date of poll
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: dyddiadau polau
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Cymraeg: man pôl
Saesneg: polling place
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: mannau pôl
Diffiniad: Adeilad neu ardal lle bydd y Swyddog Canlyniadau yn dewis agor gorsaf bleidleisio. Er enghraifft gall man pôl fod yn ganolfan hamdden, eglwys neu ysgol, yr agorir gorsaf bleidleisio mewn rhan ohoni.
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Saesneg: From Bump to Breastfeeding
Statws A
Pwnc: Iechyd
Rhan ymadrodd: Niwtra
Diffiniad: Teitl DVD.
Diweddarwyd ddiwethaf: 26 Ionawr 2009
Cymraeg: oriau'r pôl
Saesneg: hours of poll
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Lluosog
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Cymraeg: pôl
Saesneg: poll
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: polau
Diffiniad: Y trefniant i gofnodi pleidleisiau mewn etholiad, neu'r broses o wneud hynny.
Nodiadau: Mewn cyd-destunau technegol, sylwer bod gwahaniaeth rhwng poll/pôl a vote/pleidlais. Serch hynny, mewn rhai cyfuniadau hirsefydledig yn Gymraeg defnyddir 'pleidlais' neu 'pleidleisio' i drosi 'poll' neu 'polling', ee polling station/gorsaf bleidleisio, yn enwedig lle mae'r termau hynny yn ymwneud â'r weithred o fwrw pleidlais gan unigolyn. Sylwer hefyd ar y gwahaniaeth rhwng 'poll' ym maes gwleidyddiaeth a 'poll' (neu 'opinion poll') ym maes cyllid ac ystadegau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025
Cymraeg: pôl
Saesneg: polling
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Y trefniant i gofnodi pleidleisiau mewn etholiad, neu'r broses o wneud hynny.
Nodiadau: Mewn cyd-destunau technegol, sylwer bod gwahaniaeth rhwng polling/pôl a voting/pleidleisio. Serch hynny, mewn rhai cyfuniadau hirsefydledig yn Gymraeg defnyddir 'pleidlais' neu 'pleidleisio' i drosi 'poll' neu 'polling', ee polling station/gorsaf bleidleisio, yn enwedig lle mae'r termau hynny yn ymwneud â'r broses o fwrw pleidlais gan unigolyn. Gellir defnyddio'r ffurf ferfenwol 'polio' lle bo angen.
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025
Cymraeg: pôl adalw
Saesneg: recall poll
Statws A
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: polau adalw
Cyd-destun: Mae Aelod o’r Senedd yn dod yn destun pôl adalw os yw digwyddiad sbardun A neu ddigwyddiad sbardun B wedi digwydd mewn perthynas â’r Aelod o’r Senedd, a bod y Llywydd yn rhoi hysbysiad o’r ffaith honno o dan adran 6.
Nodiadau: Daw'r frawddeg gyd-destunol o Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau).
Diweddarwyd ddiwethaf: 9 Hydref 2025
Cymraeg: pôl cyfun
Saesneg: combined poll
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: polau cyfun
Diffiniad: Dau neu ragor o etholiadau a gynhelir ar yr un pryd, gan ddefnyddio'r un trefniadau gweinyddol ar gyfer pob proses.
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mai 2025
Cymraeg: pôl piniwn
Saesneg: opinion poll
Statws B
Pwnc: Cyllid ac ystadegau
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: polau piniwn
Diffiniad: Arolwg o sampl cynrychioliadol o bobl er mwyn casglu gwybodaeth am farn ar fater penodol.
Nodiadau: Weithiau defnyddir y ffurf fer poll/pôl am y cysyniad hwn. Sylwer ar y gwahaniaeth ystyr rhwng 'poll' ym maes cyllid ac ystadegau a 'poll' ym maes gwleidyddiaeth.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Cymraeg: pôl ymadael
Saesneg: exit poll
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: polau ymadael
Diffiniad: Pôl piniwn a gynhelir wrth i bleidleiswyr adael gorsaf neu orsafoedd pleidleisio.
Nodiadau: Gweler y cofnod am opinion poll/pôl piniwn ym maes cyllid ac ystadegau.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025
Saesneg: abandoned poll
Statws B
Pwnc: Gwleidyddiaeth
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: polau y rhoddir y gorau iddynt
Diffiniad: Pôl a ddygir i ben gan fod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni, ar ôl i'r pleidleisio ddechrau ond cyn i ganlyniadau'r etholiad gael eu datgan, fod un o'r ymgeiswyr wedi marw.
Cyd-destun: Mae’r rheol hon yn gymwys i bôl y rhoddir y gorau iddo yn unol â rheol 72(1)(b) fel pe bai’n bôl mewn etholiad a ymleddir.
Nodiadau: Gweler y cofnodion am poll/pôl a polling/pôl ym maes gwleidyddiaeth. Wrth gyfeirio at bôl penodol yn y gorffennol, bydd 'pôl y rhoddwyd y gorau iddo' yn fwy addas. Daw'r testun cyd-destunol o Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mai 2025