Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Diffiniad: Cloddfa neu system o gloddfeydd sy'n ymwneud ag echydynnu mwynau neu gynnyrch mwynau.
Nodiadau: Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwynglawdd' gyfeirio at unrhyw fan lle caiff mwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, eu cloddio o'r tir. Gweler y cofnodion am mineral/mwyn a mining/mwyngloddio yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwynglawdd' gynnwys pyllau glo a chwareli llechi, sy'n weithfeydd nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwyngloddiau' fel arfer yn Gymraeg. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddfa ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwynglawdd'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mine' yn unig, defnyddier 'pwll glo'. Lle bydd 'mine' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mine' yn unig, defnyddier 'chwarel lechi'. Lle bydd 'mine'mewn cyd-destunau o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at fwy nag un math o'r rhain gyda'i gilydd, argymhellir cyfeirio yn Gymraeg at y gwahanol fathau, ee 'mwynglawdd neu bwll glo'. Lle nad yw hyn yn bosibl a bod angen un gair, gellid defnyddio 'cloddfa'.
Nodiadau: Ward etholiadol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam. Dyma'r enwau a ragnodwyd yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer y ward yng Ngorchymyn Bwrdeistref Sirol Wrecsam (Trefniadau Etholiadol) 2021.
Cyd-destun: Yn caniatáu i ryddhad rhag treth gael ei gymhwyso i warediad trethadwy deunydd sy'n cynnwys deunydd cymwys, a waredir mewn safle tirlenwi awdurdodedig (neu ran o safle o'r fath), os oedd y safle'n cael ei ddefnyddio fel mwynglawdd brig neu chwarel.