Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Diffiniad: System fawr o geryntau môr yng nghefnfor Iwerydd sy’n cludo dŵr cynnes o wyneb y môr tua’r gogledd ac yn dychwelyd dŵr oer dwfn tua’r de. Mae’n chwarae rhan hanfodol wrth reoleiddio’r hinsawdd drwy ailddosbarthu gwres o gwmpas y blaned a dylanwadu ar batrymau tywydd.
Cyd-destun: Mae gwyddonwyr yn pryderu bod Cylchrediad Gwrthdroadol Meridianaidd Iwerydd yn gwanhau, gan y gallai hynny gael effaith sylweddol ar batrymau tywydd Ewrop.