Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

1 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Gymraeg A-Y
Saesneg: antisemitism
Statws B
Pwnc: Cyfiawnder a threfn
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Diffiniad: Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrthsemitiaeth. Amlygir gwrthsemitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi'u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.
Nodiadau: Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn diffiniad dros dro Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost ar gyfer gwrthsemitiaeth. Ni roddir priflythyren i'r elfennau "semitism" na "semitiaeth" gan fod y Semitiaid yn grwp ehangach o bobl na'r Iddewon - yn dechnegol, maent yn cynnwys yr holl bobloedd sy'n siarad ieithoedd Semitaidd - ond term sy'n ymwneud yn benodol â'r Iddewon yw 'gwrthsemitiaeth'.
Diweddarwyd ddiwethaf: 2 Gorffennaf 2025