Mae LLYW.CYMRU yn defnyddio cwcis sy'n hanfodol i'r safle weithio. Defnyddir cwcis nad ydynt yn hanfodol hefyd i deilwra a gwella gwasanaethau. Trwy barhau i ddefnyddio'r safle, rydych yn cytuno ein bod ni'n defnyddio cwcis.
Cyd-destun: Seinweddau cynhyrfus / llawn digwydd: y ffordd orau, mae'n ymddangos, y gall pobl ddisgrifio cynhyrfus / llawn digwydd yw ei fod yn debyg i gymysgedd o'r caotig a'r bywiog. Caotig gan y gallai ffynonellau annymunol fod yn bresennol, ond mwy rhagweladwy a sain ar lefel is. Bywiog gan fod synau pobl yn bresennol hefyd, ond "llai llawen" (ac heb gerddoriaeth o gwbl).
Nodiadau: Un o wyth disgrifydd ar gyfer nodweddion canfyddiadol seinweddau, at ddiben gwneud ymchwil i seinweddau'n unol â ISO/TS 12913-2:2018. Pennwyd y disgrifyddion Cymraeg drwy'r Soundscape Attributes Translation Project (SATP), a arweinir gan UCL, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Gosodir y nodweddion canfyddiadol ar fodel cylchbleth, lle mae gan bob nodwedd un sy'n groes iddi, a lle mae perthynas rhwng nodweddion sydd nesaf at ei gilydd. Mae 'eventful' yn groes i 'uneventful', a rhwng 'chaotic' a 'vibrant'. Lle ceir dau ansoddair Cymraeg, mae'r ddau i'w defnyddio gyda'i gilydd, yn hytrach na defnyddio'r naill neu'r llall. Gweler y maes Cyd-destun am ddisgrifiad safonol o'r nodwedd ar sail deunyddiau'r SATP. Gweler https://tinyurl.com/cylchblethseinwedd am ddyluniad o’r model cylchbleth Saesneg.