Neidio i'r prif gynnwy

TermCymru

3 canlyniad
Rhestrir y canlyniadau yn nhrefn yr wyddor Gymraeg A-Y
Cymraeg: closed dŵr
Saesneg: water closet
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: closedau dŵr
Diffiniad: Mewn ystafell ymolchi gyhoeddus, ciwbicl sy’n cynnwys cyfleusterau lle defnyddir dŵr i olchi’r gwastraff ymaith.
Nodiadau: Dyma’r term technegol (ar y ffurf ‘water-closet’, gyda chysylltnod) a geir yn Neddf Adeiladau 1984, a seiliwyd y diffiniad yn y cofnod hwn ar y diffiniad yn y Ddeddf honno. Ar y cyfan, mae’n ymadrodd sydd wedi dyddio. Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau lle y’i gwelir bellach, mae’n debyg y defnyddir ‘water closet’ (ac yn enwedig ei acronym, WC) mewn ystyr lai penodol ac yn gyfystyr â ‘toilet’ yn yr holl ystyron sy’n bosibl i’r gair hwnnw. Bryd hynny, mae’n debyg y byddai ‘toiled’ yn addas yn Gymraeg.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mehefin 2025
Cymraeg: closed pridd
Saesneg: earth closet
Statws B
Pwnc: Cyfraith
Rhan ymadrodd: Enw, Gwrywaidd, Unigol
Lluosog: closedau pridd
Diffiniad: Mewn ystafell ymolchi gyhoeddus, ciwbicl sy’n cynnwys cyfleusterau lle defnyddir pridd, lludw neu gemegau i orchuddio’r gwastraff.
Nodiadau: Dyma’r term technegol (ar y ffurf ‘earth-closet’, gyda chysylltnod) a geir yn Neddf Adeiladau 1984, a seiliwyd y diffiniad yn y cofnod hwn ar y diffiniad yn y Ddeddf honno. Cymharer â ‘water closet’.
Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Mehefin 2025
Cymraeg: Ilex Close
Saesneg: Ilex Close
Statws C
Pwnc: Enwau lleoedd
Rhan ymadrodd: Enw priod
Diffiniad: Tŷ Glas Avenue, Llanisien
Diweddarwyd ddiwethaf: 14 Mehefin 2004