Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wybodaeth Llywodraeth Cymru ar LLYW.CYMRU.

Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun. Mae’r tudalennau yn egluro pa mor hygyrch yw’r gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch fynd i’r tudalennau hyn o’r troedyn ar dudalennau gwe y gwasanaeth.

Defnyddio’r wefan hon

Llywodraeth Cymru sy’n rhedeg y wefan hon. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • nid yw rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu’n glir
  • nid oes penawdau i’r rhesi yn rai tablau
  • nid yw rhai penawdau yn gyson
  • nid yw teitlau rhai tudalennau yn unigryw
  • nid yw rhai labeli yn unigryw
  • nid oes testun arall da ar gyfer rhai delweddau
  • nid yw’r testun ar gyfer rhai dolenni cyswllt yn disgrifio diben y ddolen
  • mae sawl dogfen mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch

Gwasanaethau LLYW.CYMRU

Mae gan bob gwasanaeth ei dudalen hygyrchedd ei hun, gyda manylion ynglŷn â hygyrchedd y gwasanaeth, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall. Gallwch fynd i’r tudalennau hyn o’r troednodyn yn y gwasanaeth.

Gofyn am wybodaeth mewn fformat gwahanol

Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel testun plaen, braille, IAP, print bras, hawdd ei ddarllen neu recordiad sain, cysylltwch â ni drwy un o’r dulliau canlynol:

  • e-bost: cymorth@llyw.cymru
  • ffôn (galwadau yn y Deyrnas Unedig): 0300 0604400
  • ffôn (galwadau rhyngwladol): (+44) 1443 845500

Bydd angen i chi ddweud y canlynol wrthym:

  • cyfeiriad gwe (URL) y wybodaeth sydd ei hangen arnoch
  • y fformat yr hoffech ei dderbyn
  • pa dechnolegau cynorthwyol a ddefnyddiwch

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi eto cyn pen 15 diwrnod gwaith. 

Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â cymorth@llyw.cymru.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Mae’r materion canlynol wedi’u datrys lle y bo’n bosibl, ond efallai y byddant yn dal i effeithio ar nifer cyfyngedig o dudalennau.

Methu â chyflawni maen prawf llwyddiant: WCAG 2.4.2 A (Penawdau Tudalennau).
Mater dan sylw: Nid yw penawdau rhai tudalennau yn unigryw. Nid ydynt yn disgrifio testun neu ddiben y dudalen yn gywir.

Methu â chyflawni maen prawf llwyddiant: WCAG 2.1 2.4.4 A (Diben Dolen (Mewn Cyd-destun)).
Mater dan sylw: Nid yw testun ar ddolen sydd wedi’i gyfuno â chyd-destun y gall rhaglen ei bennu o ddolen yn nodi diben y ddolen.

PDF a dogfennau eraill

Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.

Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod rhai o'n dogfennau hŷn (a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018) ddim yn hygyrch. Er enghraifft nid yw rhai ohonynt:

  • wedi eu marcio mewn modd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgrin eu deall
  • wedi eu tagio'n gywir - er enghraifft, nid ydynt yn cynnwys penawdau cywir
  • wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg clir

Mae rhai o'r dogfennau hyn yn ddogfennau hanesyddol ac nid ydynt yn hanfodol i ddarparu'n gwasanaethau. Mae'r mathau hyn o ddogfennau wedi eu heithrio o'r rheoliadau. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i'w gwneud yn hygyrch.

Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd yn un o'r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.

Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn

Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 14 Gorffennaf 2020. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 5 Mawrth 2024.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 20 Chwefror 2024. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol.

Fe ddefnyddion ni SortSite Desktop i sganio dros 22,000 o'n tudalennau. Roedd y sgan yn cynnwys cyfuniad o dempledi craidd, templedi cyffredin a thempledi cymhleth.

Gwnaethom brofi’r canlynol:

Ym mis Hydref 2022, cynhaliodd Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth archwiliad o sampl cynrychioliadol o’n tudalennau, ac o’r sampl hwnnw cafodd nifer o faterion hygyrchedd cyffredin eu nodi a’u trwsio.