Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi'n chwilio am yrfa newydd yna byddai swydd yn Llywodraeth Cymru yn lle gwych i ddechrau.

Mae gyrfa yng Ngwasanaeth Sifil Cymru yn cynnig:

  • cyfle i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru
  • dysgu yn y swydd a chyfleoedd da i ddatblygu gyrfa
  • oriau gweithio hyblyg a buddion cynhwysfawr.

Mae yna wahanol ffyrdd o ymuno â'r gwasanaeth sifil yng Nghymru.

Chwiliwch am swyddi

Ar gyfer contractau parhaol, tymor penodol, amser llawn neu ran-amser, chwiliwch am swyddi.

Swyddi uwch

Gallwch weld swyddi uwch Llywodraeth Cymru ar wefan Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.

Ewch yn brentis

Fel prentis byddwch yn ennill cyflog wrth ichi hyfforddi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i prentisiaethau Llywodraeth Cymru.

Cynllun Llwybr Carlam i Raddedigion

Cynllun Llwybr Carlam y Gwasanaeth Sifil i Raddedigion yw'r cynllun datblygu a hyfforddi i raddedigion.

Interniaethau

Mae Rhaglen Arweinyddiaeth Cymrodoriaeth Windsor yn cynnig interniaeathau blwyddyn o hyd gyda thâl yn Llywodraeth Cymru ar gyfer unigolion sydd wedi graddio’n ddiweddar ac sy'n dod o gefndiroedd Du neu Asiaidd.

Mae Rhaglen Interniaethau Amrywiaeth yr Haf yn cynnig lleoliadau gwaith i is-raddedigion a graddedigion o wahanol gefndiroedd.

Cynllun Cyfraith Gyhoeddus Bargyfreithwyr

Cyfle i fagu profiad cyfreithiol ymarferol nad yw’n ymwneud ag eiriolaeth mewn ystod o faterion cyfraith gyhoeddus a gweinyddol. Cysylltwch: LegalServices-CentralAdminTeamRequests@llyw.cymr.

Cymhwystra

Os ydych yn ddisgybl 2nd (neu 3rd)  sedd, neu'n aelod iau o'r bar ac heb eich penodi ar hyn o bryd i banel cwnsleriaid Iau y llywodraeth, rydych yn gymwys i wneud cais i gael eich cofrestru er mwyn cymryd rhan yn y cynllun uchod. Phrofiad blaenorol ym maes cyfraith gyhoeddus weinyddol nid yw yn offynol.

Cydraddoldeb

Mae ein polisi i hyrwyddo ac integreiddio cyfle cyfartal ym mhob agwedd ar ein busnes gan gynnwys penodiadau.

Croesawir ceisiadau gan unigolion beth bynnag fo’u hoedran, priodas (yn cynnwys cyfartal/un rhyw) a phartneriaeth sifil, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hunaniaeth a mynegiant ryweddol, anabledd (os oes ganddynt nam neu gyflwr iechyd); a ydynt yn niwroddirywiol neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain; hil, crefydd neu gred neu beichiogrwydd/mamolaeth.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bawb, gan gynnwys grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yn ein gweithlu fel pobl o bobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl LHDTI+ a phobl anabl.

Mae Llywodraeth Cymru yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd. Rydym yn gwarantu y byddwn yn cyfweld unrhyw ymgeisydd sydd â nam, cyflwr iechyd, sy’n niwrowahanol, neu sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain os yw’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. 

Yn 2021 ni oedd y sefydliad sector cyhoeddus cyntaf i lofnodi’r ‘Pledge to be Seen’ gan ‘Changing Faces’ i sicrhau cynrychiolaeth gyfartal i bobl â gwahaniaethau ac anffurfiad gweladwy ledled Cymru.

Rydym yn ymfalchïo bod yn gyflogwr o ddewis, sefydliad y mae pobl eisiau gweithio ac yn falch o weithio iddo. Am y rheswm hwn, rydym wedi rhoi egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Mae ein rhwydweithiau amrywiaeth staff yn cefnogi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn Llywodraeth Cymru.

  • Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS)
  • Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN)
  • PRISM (LHDTI+)
  • Rhwydwaith Menywod (Menywod Ynghyd)
  • Materion y Meddwl (Iechyd Meddwl)

Gwobrau

Image
Logos: The Prince's Responsible Business Network, Siarter Troseddau, Hyderus o ran anabledd arweinydd
Image
Logos: Civil Service Commissioners, Buddsoddwyr mewn pobl Arian, Cymru Iach ar Waith Cyrraedd y Nod Arian
Image
Logos: Stonewall Cyflogwr Gorau LHDTC+ Gwobr Aur 2023, Stonewall Cyflogwr Gorau LHDTC+ 100 Gorau 2023, Stonewall Hyrwyddwr Amrywiaeth

Partneriaeth gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:

  • PCS
  • Prospect
  • FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:

  • cyflog
  • telerau ac amodau
  • polisïau a gweithdrefnau
  • newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.